·
Cyngor teithio ar gyfer cyngerdd Taylor Swift | The Eras
Tour ar 18 Mehefin yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd
·
Grŵp Troseddau Cyfundrefnol wedi'i ddedfrydu i gyfanswm o
25 mlynedd o garchar ar unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig
·
Cyhoeddi masnachwyr gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru
· Menyw Lolipop yn dathlu 50 mlynedd anhygoel o wasanaeth ymroddedig.
Cyngor teithio ar gyfer
cyngerdd Taylor Swift | The Eras Tour ar 18 Mehefin yn Stadiwm Principality yng
Nghaerdydd
Bydd cyngerdd Taylor Swift | The Eras Tour yn dod i
Stadiwm Principality ar 18 Mehefin. Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 4pm, felly
bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau o gwmpas y stadiwm o 12 canol dydd tan hanner
nos – ond bydd Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, Stryd y Castell a Heol y Dug ar
agor tan 3pm.
Mae disgwyl i draffordd yr M4
fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd hwn - felly cynlluniwch ymlaen llaw - ac
osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleuster parcio a
theithio yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn Lecwydd – CF11 8AZ.
Gallwch chi weld gwybodaeth
gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu
@TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Mae pobl sy'n mynd i’r cyngerdd yn cael eu cynghori'n
gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Darllenwch
y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau
mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Grŵp Troseddau Cyfundrefnol wedi'i ddedfrydu i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar ar unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig
Dedfrydwyd aelodau o grŵp troseddau cyfundrefnol (GTC) yn
ne Cymru a werthodd dybaco, sigaréts ac ocsid nitraidd anghyfreithlon tra’n
gwyngalchu arian gwerth dros £1.5m heddiw i gyfanswm o 25 mlynedd o garchar ar
unwaith a 9 mlynedd o ddedfryd ohiriedig, yn Llys y Goron Abertawe.
Plediodd pob un o'r 11 aelod o'r GTC yn ddieuog i
dwyll o dros £1.8 miliwn a gyflawnwyd rhwng 6 Medi 2013 a 5 Chwefror
2022.
Ond yn ystod yr achos
cychwynnol newidiodd tri diffynnydd eu ple i euog ran o'r ffordd drwodd, a
phlediodd dau ddiffynnydd arall yn euog yn ystod ail achos lle cafwyd y chwe
diffynnydd arall yn euog o dwyll trwy ddyfarniad unfrydol.
Cafwyd pedwar aelod o'r
sefydliad troseddol hefyd yn euog o droseddau gwyngalchu arian gwerth ychydig
dros £1.5 miliwn.
Yn ystod yr ymchwiliad,
atafaelodd swyddogion o Wasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) Cynghorau
Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r Fro werth £600,000 o dybaco anghyfreithlon, yn
seiliedig ar gost y farchnad, ynghyd â gwerth £12,500 o gynwysyddion Ocsid Nitraidd.
Cyhoeddi masnachwyr gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru
Gan weini rhai o'r danteithion mwyaf
blasus sydd i'w cael a rhestr amrywiol o gerddorion lleol, mae Gŵyl Bwyd a Diod
Caerdydd yn ôl ym Mae Caerdydd ar gyfer haf 2024 - ac mae'n argoeli i fod yn
wledd go iawn i'r synhwyrau!
Yn digwydd yn y Basn Hirgrwn o ddydd
Gwener 5 Gorffennaf i ddydd Sul 7 Gorffennaf, mae gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru
yn cefnogi mwy na 100 o fusnesau bach gan gynnwys ffefrynnau'r ŵyl fel The
Mighty Softshell Crab, Café Cannoli, ac yr holl ffordd o Ynys Wyth, The Garlic
Farm.
Mae digon o arwyr lleol i'w dathlu hefyd,
boed yn fwyty enwog Caerdydd, bwyd stryd indiaidd y Purple Poppadom, byrbrydau
llysieuol a fegan Samosaco - gan gynnwys eu Hwyau Bhaji winwns enwog - neu'r
cwcis a'r toesenni brioche peryglus o flasus wedi'u pobi gan Cardiff Dough
& Co llai na 5 milltir o safle'r Ŵyl.
Ymhlith wynebau newydd yr ŵyl eleni mae
Antur Brew & Co, microfragdy annibynnol newydd sydd wedi bod yn gwerthu
cwrw crefft o ansawdd uchel o'u canolfan yng Nghrucywel ers mis Ebrill eleni.
Os ydych yn hoff o fedd, ewch yn syth am Hive Mind Mead, sydd hefyd yma am y
tro cyntaf, ac yn gwneud eu diodydd o fêl wedi ei gasglu ar draws Dyffryn Gwy.
Menyw Lolipop yn dathlu 50 mlynedd anhygoel o wasanaeth ymroddedig
Bydd Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu
carreg filltir ryfeddol yr wythnos hon, wrth i Hazel Davies ddathlu 50 mlynedd
o basanite fel menyw lolipop.
Yn adnabyddus am ddweud "Safe
Journey Home" mae Hazel wedi rhoi ei bywyd i sicrhau diogelwch plant a'u
teuluoedd ar y ffyrdd, a beth bynnag fo'r tywydd, mae wedi bod yn bresenoldeb
cadarn a pharhaus yn yr ysgol.
Yn ystod ei chyfnod fel Swyddog Croesi
Ysgol i Gyngor Caerdydd, dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Hazel am ei
gwasanaethau ac mae ei hymrwymiad a'i hysbryd ysbrydoledig wedi ei gwneud yn
ffigwr annwyl yn y gymuned. Mae hi wedi addysgu cenedlaethau ar ddiogelwch ar y
ffyrdd ac mae hi hyd yn oed wedi ysbrydoli ei merch a'i gŵr, John, i ymgymryd
â'r rôl.
Canmolodd Sarah Coombes, Pennaeth
Gweithredol Ysgol Gynradd Pentyrch, ymroddiad Hazel, gan ddweud, "Mae
Hazel yn rhan annatod o Gymuned Ysgol Pentyrch a hoffem i gyd ei llongyfarch ar
y cyflawniad rhyfeddol hwn wrth iddi ddathlu 50 mlynedd fel Menyw Lolipop.
"Mae Hazel wedi rhoi ei bywyd mewn
gwasanaeth i deuluoedd ysgolion Caerdydd, gan dreulio'r 27 mlynedd diwethaf yn
Ysgol Gynradd Pentyrch. Mae hi'n gwneud pwynt o ddod i adnabod ein teuluoedd i
gyd ac yn mynd allan o'i ffordd i sgwrsio â phawb. Nid yw ei hysbryd byth yn
pallu ac mae hi allan, glaw neu hindda, ar y groesfan o un diwrnod i'r llall yn
cadw'r plant yn ddiogel. Mae cymuned yr ysgol yn hynod ddiolchgar iddi am ei
hymroddiad a'i hymrwymiad wrth iddi ddathlu ei diwrnod arbennig."