Back
Adroddiad Blynyddol yn Tynnu Sylw at Addewid Caerdydd i Blant sy'n Derbyn Gofal

14/6/2024

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol y Cyngor yn tynnu sylw at ymroddiad Caerdydd i gynnig y gofal a'r gefnogaeth orau i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal.

Mae'r Pwyllgor yn cydweithio ag amryw sectorau, gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Addysg ac asiantaethau statudol eraill, i sicrhau cyfrifoldeb cyfunol dros les plant sy'n derbyn gofal, gan ymdrechu i ddiogelu eu buddiannau a rhoi'r cyfleoedd gorau iddynt lwyddo mewn bywyd.

Mae Adroddiad Blynyddol 2023/2024 yn tynnu sylw at yr ystod o fentrau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn nodi nifer o weithgareddau allweddol megis ehangu'r gwasanaethau lles emosiynol ac iechyd meddwl, darpariaeth integredig i blant a phobl ifanc gydag un pwynt mynediad a'r dull Dim Drws Anghywir. Mae nifer o welliannau yn cynnwys twf sylweddol yn y gweithlu, un pwynt mynediad gyda llinell ymgynghori ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a llwybrau clir o lwyfannau gofal a chyfathrebu a gyd-gynhyrchwyd gyda phlant a phobl ifanc.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddatblygiad cyflym y Strategaeth Llety a ddatblygwyd i nodi'r weledigaeth a'r cyfeiriad ar gyfer darparu gwasanaethau dros y tair blynedd nesaf. Mae'n amlinellu sut y bydd Caerdydd yn ceisio gweithio gyda phartneriaid i ddiwallu anghenion plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gan ddefnyddio'r dull lleiaf ymyrrol. Mae'n canolbwyntio ar dri maes allweddol: Lle, Pobl ac Ymarfer ac mae'n rhoi trosolwg o'r cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu'r ddarpariaeth gofal preswyl i blant a phobl ifanc. Mae'r cynigion am wneud defnydd o'r asedau sydd eisoes yn bodoli o fewn yr awdurdod, yn ogystal â chaffael a datblygu nifer o eiddo eraill.

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys y Gwobrau Bright Sparks ym mis Rhagfyr sy'n dathlu cyflawniadau plant sy'n derbyn gofal a thwf yr Ysgol Rithwir a'r Pennaeth Rhithwir sy'n gweithiomewn partneriaeth ag awdurdodau eraill i gefnogi cynnydd addysgol plant yn eu hysgolion sy'n derbyn gofal gan ardaloedd eraill.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori Rhianta Corfforaethol: "Mae ein hymrwymiad i ddarparu gofal a chymorth cadarn i'n plant a'n pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal neu sy'n derbyn gofal yn hollbwysig, ac mae'r adroddiad blynyddol yn canolbwyntio ar y cynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â'n blaenoriaethau corfforaethol.

"Dros y 12 mis diwethaf mae aelodau wedi dysgu am yr amrywiaeth o wasanaethau amhrisiadwy sy'n cael eu cynnig gan yr awdurdod a'i bartneriaid i gefnogi'r plant a'r bobl ifanc yn ein gofal a, thrwy gyfoeth o gyfleoedd, rydym wedi gallu ymgysylltu â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sydd wedi rhannu eu barn, eu profiadau a'u heriau.

"Un o'r uchafbwyntiau arbennig i mi yw mynychu'r gwobrau Bright Sparks blynyddol. Mae'r seremoni hon wedi bod yn cael ei chynnal ers 17 mlynedd ac yn cydnabod cyflawniadau plant sy'n derbyn gofal, teuluoedd, gofalwyr a staff. Roedd yn wych gweld cymaint o blant a phobl ifanc yn mwynhau'r dathliadau ac i weld eu cyflawniadau, eu gwytnwch a'u penderfyniad.

"Wrth edrych ymlaen, byddwn nawr yn canolbwyntio ar barhau gyda'n cefnogaeth i'r Strategaeth Llety a hyrwyddo cartrefi Caerdydd i blant Caerdydd ar draws yr awdurdod.  Byddwn hefyd yn ceisio cryfhau gweithrediad Ymgyrch Mae Fy Mhethau i'n Bwysig NYAS trwy'r gwasanaeth, yn dilyn yr addewid a wnaed ym mis Mehefin 2023.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Rôl y Pwyllgor yw hyrwyddo'n weithredol a gweithredu cyfrifoldeb ar y cyd rhwng y Cyngor, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd, Addysg ac asiantaethau statudol eraill i sicrhau rhianta da i bob plentyn yng ngofal Cyngor Caerdydd ac i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n briodol i gyflawni'r cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd.

"Rydym wedi ymrwymo i wella bywydau plant sy'n derbyn gofal yng Nghaerdydd ac rwy'n arbennig o falch o'r ffordd y mae'r Gwasanaethau Plant yn cydweithio ag Iechyd a phartneriaid eraill i weithio ar ddull amlasiantaethol o wella canlyniadau i blant a phobl ifanc mewn argyfwng emosiynol.  Mae'r bartneriaeth agos hon wedi creu cyd-weithdrefnau rhyddhau o'r ysbyty a chynlluniau diogelwch ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc a thrwy weithredu cyfarfodydd amlasiantaethol wythnosol yn llwyddiannus rhwng Awdurdodau Lleol a chydweithwyr Iechyd, trafodwyd problemau neu bryderon fel y gellir darparu'r cymorth cywir.

"At hynny, mae'r model Ysgol Rithwir yn llwyddo i alluogi plant a phobl ifanc ibarhau i fynychu'r ysgolion y maent wedi'u cofrestru ynddynt, gyda'r Pennaeth Rhithwir yn olrhain eu cynnydd, gan helpu i ddatblygu cyrhaeddiad a chyflawniad a gwella deilliannau addysgol yr holl blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.

"Trwy gydweithio, ymgysylltu a monitro, rydym yn ymroddedig i roi'r cyfleoedd gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yn ein gofal."