Back
Cyhoeddi masnachwyr gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru

11.6.24

Gan weini rhai o'r danteithion mwyaf blasus sydd i'w cael a rhestr amrywiol o gerddorion lleol, mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn ôl ym Mae Caerdydd ar gyfer haf 2024 - ac mae'n argoeli i fod yn wledd go iawn i'r synhwyrau!

A group of people walking in a large areaDescription automatically generated

Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn y Basn Hirgrwn, Bae Caerdydd.

Yn digwydd yn y Basn Hirgrwn o ddydd Gwener 5 Gorffennaf i ddydd Sul 7 Gorffennaf, mae gŵyl fwyd am ddim fwyaf Cymru yn cefnogi mwy na 100 o fusnesau bach gan gynnwys ffefrynnau'r ŵyl fel The Mighty Softshell Crab, Café Cannoli, ac yr holl ffordd o Ynys Wyth, The Garlic Farm.

Mae digon o arwyr lleol i'w dathlu hefyd, boed yn fwyty enwog Caerdydd, bwyd stryd indiaidd y Purple Poppadom, byrbrydau llysieuol a fegan Samosaco - gan gynnwys eu Hwyau Bhaji winwns enwog - neu'r cwcis a'r toesenni brioche peryglus o flasus wedi'u pobi gan Cardiff Dough & Co llai na 5 milltir o safle'r Ŵyl.

Ymhlith wynebau newydd yr ŵyl eleni mae Antur Brew & Co, microfragdy annibynnol newydd sydd wedi bod yn gwerthu cwrw crefft o ansawdd uchel o'u canolfan yng Nghrucywel ers mis Ebrill eleni. Os ydych yn hoff o fedd, ewch yn syth am Hive Mind Mead, sydd hefyd yma am y tro cyntaf, ac yn gwneud eu diodydd o fêl wedi ei gasglu ar draws Dyffryn Gwy.

Hefyd yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn yr ŵyl mae Franks Hot Dogs - Currywurst a Chŵn Poeth enwog Gloucester Old Spot, gan y bobl ddaeth â'r Grazing Shed i chi. Ac am ychydig o flas moethus, beth am Rutab Dates am ddatys Medjool wedi'u stwffio a'u gorchuddio â siocled.

A box of colorful macaroonsDescription automatically generated

Macarons - rhai o'r bwydydd gwych sydd ar gael yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerdydd.

Bydd y bandstand ar ei anterth drwy gydol yr ŵyl wrth i gerddorion lleol gan gynnwys Shop Girls, Mr Tea and the Minions, Juno, Nookee, Zong Zing All Stars a Swingin' Bill's Vintage Revue gamu i'r llwyfan. Disgwyliwch unrhyw beth o ska-gwerin a churiadau ffynci, i jeifio egnïol a cherddoriaeth ddawns canol Affrica.

Eleni, bydd ymwelwyr yn cael y fraint ychwanegol o allu dal un o'r perfformiadau stryd sy'n digwydd o amgylch Bae Caerdydd fel rhanŴyl Undod 2024, Dydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 Gorffennaf.

Ac nid dyna ddiwedd yr hwyl - bydd Awdurdod Harbwr Caerdydd yn yr ŵyl, yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddianc o brysurdeb bywyd y ddinas drwy fynd ar daith rithwir, am ddim, o gwmpas hanes a bywyd gwyllt Ynys Echni sydd allan ar Fôr Hafren.

Mae mynediad am ddim i Ŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ac nid oes angen tocyn. Oriau agor yr ŵyl yw:

Dydd Gwener: 12:00 - 22:00*
Dydd Sadwrn: 11:00 - 22:00*
Dydd Sul: 11:00 - 19:00

*Mae'r Piazza Bwyd Stryd a'r Bariau ar agor tan 22:00, tra bod Ffair y Cynhyrchwyr a Marchnad y Ffermwyr yn cau am 21:00 a stondinau masnach yn cau am 19:00.

Mwy o wybodaeth: https://www.croesocaerdydd.com/bwyta-yfed/

 

Rhestr Lawn o Fasnachwyr

Marchnad Ffermwyr

Antur Brew Co

Microfragdy annibynnol o Grucywel sy'n gwerthu cwrw crefft o ansawdd uchel

Babita's Spice Deli

Byrbrydau deli Indiaidd fegan a llysieuol

Baker Bears

Nwyddau wedi'u pobi o fecws o Gaerffili gan gynnwys cacennau cwpan, cacennau ar ffon a chacennau hambwrdd

Bang-On Brewery Ltd

Cwrw crefft o Ben-y-bont ar Ogwr

Bee Welsh Honey

Mêl a chŵyr gwenyn o Lanfair-ym-Muallt

Bil-Tomms Biltong ltd

Biltong cig eidion wedi'i halltu yn arddull De Affrica

Bloom Sugar Cakes

Tafelli pei cwci, cwcis enfawr a bariau cwci, gydag amrywiaeth o flasau.

Blueberry Hill Preserves

Siytni, jamiau a marmaledau swp bach - wedi'u gwneud â llaw gyda chynhwysion artisan o ganol Swydd Efrog

Cardiff Dough and Co

Cwcis a thoesenni brioche o Gaerdydd

Cascave Gin

Jin crefft premiwm wedi'i ysbrydoli gan Fannau Brycheiniog

Celtic Spirit Co

Y cwmni gwirodydd hynaf yng Nghymru, sy'n cynhyrchu gwirodydd a gwirodlynnau o ansawdd uchel

Chock Shop

15 math gwahanol o frownis siocled a fanila Gwlad Belg

Croatian Fine(st) Farmer & Artisan Food and Drink

Bwyd cain artisan o Groatia

Gwinoedd a Gwirodlynnau Cwm Deri

Gwinoedd a gwirodlynnau wedi eu creu mewn sypiau bach yng Ngorllewin Cymru

Dimkin's Patisserie

Macarons Ffrengig wedi'u gwneud â llaw

Doughnutterie

Dewis o doesenni artisan

Drinks Kitchen Non-Alcoholic Aperitif

Aperitif di-alcohol penigamp o Wlad yr Haf

Express Brazilian Food

Nwyddau pob sawrus o Frasil

Fat Bottom Welsh Cakes

Cacennau Cri mewn amrywiaeth o flasau traddodiadol ac anhraddodiadol

Freda's Peanut Butter

8 math o fenyn cnau daear artisan â blas, wedi'u gwneud yng Nghernyw

Gilly's

Amrywiaeth unigryw o ddresin Balsamig heb olew a setiau anrhegion bach.

GingerBeard's Preserves

Amrywiaeth eang o gyffeithiau artisan

Gourmet Gower Fudge

35 math o gyffug a nyget wedi'u gwneud â llaw

Seidr Gwatkin

Seidr, perai, sudd afal a brandi seidr Swydd Henffordd

Seidr Gwynt y Ddraig

Seidr traddodiadol Cymreig mewn potel

Harrison & Griffiths Ltd

Y cacennau rým Jamaica gorau sydd ar gael mewn 3 chryfder

Isaac Poad

Cwrw potel, gwirodydd a choctels yn barod i'w harllwys penigamp

Jamaica Blue Mountain® Coffee Ms. Tita

Ffa coffi Blue Mountain Jamaica

Jethro's Marinades & Sauces/Pork Crackling - Artisan Camper

Sawsiau tsili, marinadau, siytni a chraclin porc mewn 10 blas gwahanol

Lucelas Chocolate Rum

Siocled moethus penigamp wedi'i gymysgu â llaw gyda Rým

M&M Beverages Ltd

Tonigau Premiwm Buzbee wedi'u gwneud gyda dŵr ffynnon Cymru, mêl a chynhwysion naturiol.

Marie Cresci's Cheesecakes

Potiau cacen gaws a phroffiteroliau cacen gaws gyda saws trochi, wedi'u gwneud gartref yn Rhydaman.

MKS Food Distribution

Dewis o fyrbrydau melys a sawrus Mediteranaidd gan gynnwys ffrwythau'r olewydd, cnau, melysion Twrci a baklava

Northern Brownies

Brownis siocled mewn amrywiaeth o flasau, wedi'u gwneud yn Leeds

O'Donnell Moonshine

Llaeth mwnci alcoholig iawn ac amrywiaeth o wirodlynnau blasus

R&G Thai Curry Paste

Pastau cyri Thai go iawn, yn amrywio o sbeislyd iawn i ysgafn iawn. 

Ralph's Cider LTD

Seidr a pherai ffermdy traddodiadol

Rickard's Cornish Biltong

Biltong cig eidion, Droewors a tameidiau tsili penigamp o Gernyw wedi'u crefftio â llaw.

Hufen Iâ Rowlestone Farm

Amrywiaeth o hufen iâ a sorbet wedi'u crefftio â llaw mewn dewis o flasau traddodiadol ac unigryw.

Rutab Dates

Datys Medjool moethus wedi'u crefftio â llaw a'u stwffio a'u gorchuddio â siocled.

Samosaco

Byrbrydau llysieuol a fegan gan gynnwys Samosas, Bhajis, Piclau, Siytni, Sawsiau a'r Ŵy Bhaji Winwns enwog

Seasons Coffee House and Cakery

Cacennau cartref

Singh's Kitchen

Prydau Indiaidd yn barod i'w bwyta

Sizzlers - Prime Meats

Helgig o Brydain, cig bridiau prin ac egsotig. 

Spirit of Wales Distillery

Gwirodydd, jin, rým a fodca wedi'u crefftio â llaw - wedi'u distyllu yng Nghasnewydd

Tan Rosie

Cynnyrch bwyd Caribïaidd go iawn, o sbeisys i sawsiau, wedi'u gwneud o'r cynhwysion mwyaf ffres

Tarsier Southeast Asian Spirit

Jin wedi'i ysbrydoli gan flasau De-ddwyrain Asia

The Artisan

Pastel de Nata a phasteiod sawrus

The Finest Fudge Co

Darnau cyffug cartref, wedi'u gwneud gyda'r cynhwysion gorau

The Pudding Wagon

Brownis siocled trioglyd mewn amrywiaeth o flasau

The Sawley Kitchen

Teisen frau benigamp, bisgedi hen ffasiwn a meringues enfawr

The Twisted Curry Co

Cyrri a phecynnau sbeis marinâd i'w coginio gartref

TORS Vodka

Fodca premiwm a gwirodlynnau fodca, mewn potel

Tŷ Caws

Casgliad o gaws ac ychwanegiadau Prydeinig

Wiltshire Chilli Farm

Sawsiau tsili, jam, taeniadau, halwynau, sesnin a hyd yn oed siocled cartref penigamp!

Yau's

Sawsiau dwyreiniol iachach wedi'u gwneud o ryseitiau go iawn

 

Ffair y Cynhyrchwyr

Beth's Bakes

Amrywiaeth o flondis, brownis a chacennau cwpan.

Boba Buzz

Te swigod Taiwan - diod ffrwythau wedi'i weini gyda pheli sudd yn popio.

Butternut Box

Amrywiaeth o fwyd ci ffres, wedi'i goginio fel y byddech yn gwneud gartref.

Cafe Cannoli

Cannoli penigamp o Sisilia

Lemonêd Churtopia

Lemonêd pefriog cartref

Continental Cottage Ltd

Amrywiaeth eang o Salami o'r Almaen

Emburs Dessert Bar

Melysion unigryw, wedi'u gwneud â llaw o Sir Benfro

Flo and Frankies Fudge

Cyffug a licris wedi'i wneud â llaw

Hensol Castle Distillery

Gwirodydd Cymreig penigamp o Gastell Hensol ym Mro Morgannwg.

Hive Mind Mead & Brew Co

Medd wedi'i wneud o fêl a gasglwyd yn Nyffryn Gwy

hotroastednuts

Cnau sinamon wedi'u rhostio a licris Eidalaidd

Kin Toffee Vodka

Fodca cymysg wedi'i gymysgu â llaw yng nghanol Ardal y Llynnoedd

Lisa's Luxury Cheesecakes & the Crazy Bakes

Cacennau caws, cwcis a brownis cartref a mwy - wedi'u gwneud yng Nghaerdydd

Llanfaes Dairy Ice Cream

Hufen iâ artisan, wedi'i wneud ym Mannau Brycheiniog

Ridiculously Rich by Alana

Brownis a chacennau moethus, wedi'u gwneud yng Nghymru gyda'r cynhwysion gorau

Riverford Organic Farmers

Bocs ffrwythau a llysiau organig, gwasanaeth cludo i'r cartref a siop fferm ar-lein

Shepherds Ice Cream

Hufen iâ llaeth dafad a phlanhigion o Henffordd

Sunrise Patisserie

Tartenni cwstard Portiwgaleg

The Bath Soft Cheese Co.

Caws artisan wedi'i wneud â llaw, gan ddefnyddio llaeth un llwyth o wartheg

The Blaenafon Cheddar Company Ltd

Cawsiau sydd wedi ennill gwobrau yng Nghymru ac yn rhyngwladol, wedi'u gwneud â llaw

The Garlic Farm

Yn arbenigo mewn popeth yn ymwneud â Garlleg, wedi'i dyfu ar Ynys Wyth

The Great British Cheese Company

Caws a siytni Prydeinig penigamp

 

Piazza Bwyd Stryd

Bamboo House

Bwyd o Faleisia gan gynnwys cyw iâr Sambal a chyw iâr Rendang

Bao Selecta

Byns bao ysgafn wedi'u stemio a'u llwytho ag amrywiaeth o lenwadau a dresins

Caribbean Cuisine

Prydau bwyd Caribïaidd clasurol gan gynnwys cyw iâr jerk, cyrri maharen, pysgod hallt ac ackee a reis a phys

Churros Hermanos

Churros ffres, organig a fegan, gyda siocled Gwlad Belg wedi'i doddi drostyn nhw

Cig Eidion a Chig Oen Cwmpistyll Cymru

Byrgyrs cig eidion du Cymreig wedi'u magu gartref, byrgyrs cig oen, selsig a chig moch o safon.

Franks Hot Dogs

Cŵn poeth Gloucester Old Spot a Currywurst penigamp

Giovanni's yn y Bae

Bwyd a phwdinau Eidalaidd ffres 

Happy Dumpling 365

Bwyd Tsieineaidd traddodiadol gan gynnwys twmplenni, byns bao a thoesenni Tsieineaidd

Hogi Hogi Hogi

Cyfuniad clasurol o borc Cymreig, stwffin, saws afal, cracilin crensiog

Keralan Karavan

Bwyd stryd de India gan oreuon Caerdydd

Le Coq

Cyw iâr llaeth menyn wedi'i ffrio a'i weini mewn amrywiaeth o ffyrdd

Mac Daddies Gourmet Mac and Cheese

Mac a chaws gourmet gydag ychwanegiadau anhygoel

Meat and Greek

Souvlaki ffres - bara pitta wedi'i grasu yn llawn cyw iâr neu borc golosg suddlon ar sgiwerau

Morgans Family Butchers

Stêc, byrgyrs cig eidion a byrgyrs cig oen wedi'u gwneud gyda'r cig oen a'r cig eidion Cymreig gorau a fagwyd yn Llanfair-ym-Muallt

Nixon Farms

Cig eidion du, cig oen neu borc Cymreig wedi'i rostio'n araf gyda sglodion 'go iawn'.

Purple Poppadom

Bwyd stryd indiaidd yn cynnwys cyw iâr Kerala wedi'i ffrio a sglodion bombay

Taste of Persia

Amrywiaeth o gebabau, stiwiau Persiaidd, falafel a melysion Persiaidd ffres  

The Dough Thrower

Pizza pren tân gyda saws tomato wedi'i wneud yn y tŷ

The Hellenic Eatery

Blasau traddodiadol Groegaidd gan gynnwys tortilas gyros a halloumi

The Mighty Soft Shell Crab

Cranc tempura cragen feddal wedi'i weini gyda saws tsili melys cartref

The Spanish Buffet Ltd

Paella a tapas Sbaenaidd traddodiadol wedi'u gwneud gyda chynhwysion o ansawdd

The Welsh Creperie Co

Crepes Ffrengig go iawn melys a sawrus

 

Y Bandstand

 

Dydd Gwener, 5 Gorffennaf

 

Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf

 

Dydd Sul 7 Gorffennaf

12:00

Juno

12:00

Batwkee

12:00

Nookee

13:00

Shop Girls

13:00

Mari Mathias

13:00

Swingin' Bill's Vintage Revue

14:00

J4

14:00

Jump Sturdy

14:00

Fiesta Resistance

15:00

Kingman Project

15:00

The Sun Kings

15:00

Nookee

16:00

Mr Tea and the Minions

16:00

Batwkee

16:00

Swingin' Bill's Vintage Revue

17:00

Juno

17:00

Zong Zing All Stars

17:00

Fiesta Resistance

18:00

Shop Girls

18:00

Mari Mathias

18:00

Nookee

19:00

J4

19:00

Jump Sturdy

 

 

20:00

Kingman Project

20:00

The Sun Kings

 

 

21:00

Mr Tea and the Minions

21:00

Zong Zing All Stars

 

 

 

Cyngor Teithio

Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, cerddwch neu feicio i'r digwyddiad, os yn bosibl. Mae bysiau'n rhedeg yn rheolaidd i Fae Caerdydd ac mae gorsaf drenau Bae Caerdydd yn daith gerdded fer o safle'r ŵyl. Cynlluniwch eich taith yma: https://www.traveline.cymru/

Bydd raciau beiciau ychwanegol ar gael ar safle'r ŵyl.

Mae parcio ar gael yn agos at safle'r ŵyl.