10/6/2024
Bydd Ysgol Gynradd Pentyrch yn dathlu carreg filltir ryfeddol yr wythnos hon, wrth i Hazel Davies ddathlu 50 mlynedd o wasanaeth fel menyw lolipop.
Yn adnabyddus am ddweud "Safe Journey Home" mae Hazel wedi rhoi ei bywyd i sicrhau diogelwch plant a'u teuluoedd ar y ffyrdd, a beth bynnag fo'r tywydd, mae wedi bod yn bresenoldeb cadarn a pharhaus yn yr ysgol.
Yn ystod ei chyfnod fel Swyddog Croesi Ysgol i Gyngor Caerdydd, dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Hazel am ei gwasanaethau ac mae ei hymrwymiad a'i hysbryd ysbrydoledig wedi ei gwneud yn ffigwr annwyl yn y gymuned. Mae hi wedi addysgu cenedlaethau ar ddiogelwch ar y ffyrdd ac mae hi hyd yn oed wedi ysbrydoli ei merch a'i gŵr, John, i ymgymryd â'r rôl.
Canmolodd Sarah Coombes, Pennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Pentyrch, ymroddiad Hazel, gan ddweud, "Mae Hazel yn rhan annatod o Gymuned Ysgol Pentyrch a hoffem i gyd ei llongyfarch ar y cyflawniad rhyfeddol hwn wrth iddi ddathlu 50 mlynedd fel Menyw Lolipop.
"Mae Hazel wedi rhoi ei bywyd mewn gwasanaeth i deuluoedd ysgolion Caerdydd, gan dreulio'r 27 mlynedd diwethaf yn Ysgol Gynradd Pentyrch. Mae hi'n gwneud pwynt o ddod i adnabod ein teuluoedd i gyd ac yn mynd allan o'i ffordd i sgwrsio â phawb. Nid yw ei hysbryd byth yn pallu ac mae hi allan, glaw neu hindda, ar y groesfan o un diwrnod i'r llall yn cadw'r plant yn ddiogel. Mae cymuned yr ysgol yn hynod ddiolchgar iddi am ei hymroddiad a'i hymrwymiad wrth iddi ddathlu ei diwrnod arbennig."
Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Dymuna Cyngor Caerdydd ddiolch i Hazel am ei gwasanaeth rhagorol i ysgolion a rhoi cydnabyddiaeth am ei chyfraniad i gadw cymunedau lleol yn ddiogel am bum degawd. Mae'n amlwg ei bod yn gymeriad uchel ei pharch yn y gymuned ac mae ei hymroddiad a'i hymrwymiad wedi bod yn ddiwyro.
"Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae hi wedi'i rhoi i hyrwyddo diogelu a diogelwch ar y ffyrdd ymhlith plant a phobl ifanc. Hoffem longyfarch Hazel ar y cyflawniad anhygoel hwn."
Er mwyn anrhydeddu cyflawniad anhygoel Hazel, bydd yr ysgol yn cynnal dathliad annisgwyl wrth i bawb gyrraedd ddydd Llun 10 Mehefin am 9.30am, gyda gwasanaeth arbennig i ddilyn pan fydd rhoddion yn cael eu cyflwyno oddi wrth y staff, y plant, y llywodraethwyr a'r rhieni.