Back
Cyngor Caerdydd i fynd i'r afael â niferoedd isel o blant yn nofio.

4/6/2024

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau i fynd i'r afael â'r nifer isel o blant sy'n cymryd rhan mewn gwersi nofio mewn ysgolion.

Wedi'i gyflwyno gan Dîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd y Cyngor,mewn partneriaeth â Nofio Cymru, Chwaraeon Met Caerdydd, GLL, Legacy Leisure, Urdd Gobaith Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, nod y prosiect yw cynyddu nifer yr ysgolion sy'n darparu darpariaeth nofio wrth hyrwyddo diogelwch dŵr ymhlith plant trwy fodel cyflenwi newydd.

Mae gan Gaerdydd un o'r lefelau isaf o gyfranogiad mewn gwersi nofio mewn ysgolion cynradd ledled Cymru gyfan, gyda dim ond 57% o ysgolion ym mlwyddyn academaidd 2022/23 yn gallu anfon disgyblion i wersi nofio.

Bydd y dull newydd yn darparu ystod o nodweddion allweddol i gynorthwyo ysgolion i wneud gwersi nofio yn fwy hygyrch a chost effeithiol. Bydd ysgolion yn cael eu paru â'u pwll nofio lleol gyda'r cyfle i rannu cludiant ag ysgolion eraill yn eu hardal lle bo hynny'n bosibl a bydd llawer yn gallu teithio'n weithredol i'w cyfleuster lleol a all leihau costau ymhellach.

Byddant yn cael system archebu symlach i helpu i arbed arian a lleihau tasgau gweinyddol ac mae siarter gynhwysfawr wedi'i chynllunio i sicrhau darpariaeth gyson o ansawdd uchel ar draws pob ysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Boddi yw'r ail achos mwyaf cyffredin o farwolaeth anafiadau anfwriadol ymhlith plant o dan 18 oed yng Nghymru, ar ôl marwolaethau cysylltiedig â thrafnidiaeth* a dysgu nofio yw'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

"Rydym yn gwybod bod y nifer sy'n derbyn gwersi nofio mewn ysgolion yng Nghaerdydd yn is o'i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i wneud newidiadau sylweddol fel bod ysgolion yn cael cymaint o gefnogaeth â phosibl i alluogi darpariaeth nofio gael ei chyflwyno i ddysgwyr ledled y ddinas. Drwy ddefnyddio pyllau nofio lleol mae llai o amser teithio yn ystod y diwrnod ysgol ac yn hyrwyddo cysylltiadau cymunedol cryf, gan wella'r profiad dysgu.

"Mae diogelwch yn agwedd bwysig ar y cwricwlwm yng Nghymru a thrwy weithio mewn partneriaeth, rydym am sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn gallu cael hwyl a bod yn ddiogel mewn dŵr ac o'i gwmpas."

Dywedodd Hanna Guise Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol Nofio Cymru: "Prin fod addysg Nofio a Diogelwch Dŵr Ysgol yn dal ei phen uwchben dŵr; mae gallu nofio mewn plant Cymru ac yn benodol Caerdydd, ar ei lefel isaf erioed.

"Mae Nofio Cymru, mewn cydweithrediad â'n partneriaid Diogelwch Dŵr Cymru, yn tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu nofio a datblygu sgiliau cymhwysedd dŵr ar gyfer ein holl gymunedau. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn helpu i atal boddi, achub bywydau a gwneud cyfraniad cadarnhaol at les plant yng Nghaerdydd.

"Mae profiadau yn yr ysgol yn siapio ein perthynas yn y dyfodol â nofio, dŵr, a'r holl weithgareddau dyfrol a gallent gael effaith a dylanwad parhaol ar ymddygiad a phroses gwneud penderfyniadau plentyn mewn dŵr ac o'i gwmpas. Mae'r camau gweithredu a'r cydweithio arfaethedig rhwng yr holl sefydliadau rhanddeiliaid yn hanfodol i sicrhau bod pob plentyn yng Nghaerdydd yn gallu cael hwyl a bod yn ddiogel mewn dŵr ac o'i gwmpas."

Bydd gwersi nofio yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, yn cynnwys gwers diogelwch dŵr benodol ac ar gael fel cyrsiau dwys am bythefnos.

Bydd y cynllun yn cael ei dreialu o fis Medi 2024 i gynnwys ysgolion yn yr un ardaloedd daearyddol â Chanolfan Hamdden y Dwyrain yn Llanrhymni, Met Caerdydd yng Nghyncoed a Phwll Rhyngwladol Caerdydd ym Mae Caerdydd. Mae disgwyl i'r holl ysgolion gael eu cyflwyno'n llawn i'r rhaglen ar gyfer 2025/26.

*Ffynhonnell - Iechyd Cyhoeddus CymruPatrymau a thueddiadau marwolaethau plant yng Nghymru, 2011-2020. 2022 [cyrchwyd 16 Mehefin 2023]. Ar gael yn: phw.nhs.wales/publications/publications1/patterns-and-trends-of-child-deaths-in-wales-2011-2020/