Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Plant ysgol lleol yn cael profiad dysgu ymarferol ar safle dymchwel Tŷ Glas
Mae'r safle dymchwel yn hen adeiladau swyddfa CThEF yn Nhŷ Glas yn Llanishen yn rhoi cyfle unigryw i ddisgyblion ysgolion lleol ddysgu am a phrofi proses o ddymchwel byw.
Dan ofal Erith, y contractwr dymchwel a ddewiswyd i ymgymryd â'r gwaith, mae disgyblion o Ysgol Gynradd Crist y Brenin, Ysgol y Wern ac Ysgol Uwchradd Llanisien, wedi mwynhau ymweliadau pwrpasol â'r safle lle maent wedi gweld y gwaith dymchwel adeilad uchel trawiadol ar waith, wedi cynnal trafodaethau ag uwch aelodau'r tîm dymchwel ac wedi gweld cyflwyniadau i ategu eu profiadau dysgu yn y dosbarth. Mae'r ardaloedd dan sylw wedi cynnwys hanes lleol, dymchwel, ailgylchu deunyddiau, agweddau amgylcheddol a gweithdrefnau cynllunio, yn ogystal â mewnwelediad gyrfaol i ddymchwel.
Dywedodd Brenda Miles, Pennaeth Ysgol Gynradd Crist y Brenin: "Roedd ein hymweliad â safle'r Swyddfa Dreth yn Nhŷ Glas yn rhan o'n hastudiaethau am yr ardal leol. Fel ysgol Baner Platinwm Eco, roedd gennym ddiddordeb mewn darganfod sut y bydd cael gwared ar y deunyddiau a ddymchwelwyd, ac roeddem yn falch o weld eu bod yn mynd i gael eu hailgylchu fel agregiad ar gyfer gwaith adeiladu yn y dyfodol."
Dywedodd Pennaeth Ysgol y Wern, Moira Kellaway: "Roedd yn gyfle gwych i'n disgyblion weld drostynt eu hunain beth sy'n digwydd ar y safle yn eu hardal leol a gallu trafod digwyddiad neu fater amserol. Yn sicr, mae wedi meithrin diddordeb ymhlith y disgyblion ac wedi ehangu eu gwybodaeth am newidiadau sy'n digwydd yn eu hardal leol."
Twf addawol y Gymraeg yng ngweithlu'r Cyngor
Mae nifer y staff sydd â sgiliau Cymraeg sy'n gweithio i Gyngor Caerdydd wedi cynyddu mwy na thraean yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ffigurau a ddatgelwyd yn adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg yr awdurdod yn dangos cynnydd o 35% o staff sydd â rhyw lefel o sgiliau Cymraeg ers 2022-23, sy'n cynrychioli mwy na chwarter y gweithlu sydd wedi'u cofrestru ar ei system Adnoddau Dynol DigiGOV.
Cymerodd bron i 1,800 aelod o staff ran mewn cyrsiau hyfforddiant Cymraeg y llynedd - cynnydd o 11% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Dim ond rhai o uchafbwyntiau'r adroddiad blynyddol, y mae'n rhaid i'r Cyngor ei lunio bob blwyddyn i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, yw'r gwelliannau hyn.
Mae cyflawniadau eraill dros y 12 mis diwethaf yn cynnwys dros 14.2 miliwn o eiriau'n cael eu cyfieithu gan dîm Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor; lansio partneriaeth Pencampwyr Addysg Gymraeg De-ddwyrain Cymru i hyrwyddo addysg Gymraeg yn y rhanbarth; dros 300 o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn mynd i ffair yrfaoedd Cymraeg Gyrfa Gymraeg yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, lansio gwefan newydd, Ein Dinas, Ein Hiaith / Our City, Our Language ar Ddydd Gŵyl Dewi - sy'n gydweithrediad rhwng Tîm Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor a Chaerdydd Ddwyieithog i ddarparu gwybodaeth am addysg a diwylliant, gweithgareddau a chyfleoedd Cymraeg sydd ar gael yng Nghaerdydd, a llunio polisi i helpu swyddogion y Cyngor i wneud ymdrech gydwybodol i ystyried yr holl effeithiau posibl ar y Gymraeg pan fo polisïau'n cael eu datblygu a'u diwygio.
Ysgol Uwchradd Cathays yn ennill Rownd Derfynol Cwpan Debate Mate 2024!
Mae Ysgol Uwchradd Cathays wedi cael ei choroni yn bencampwr Cwpan Debate Mate ar gyfer 2024, ar ôl curo pencampwyr y ddwy flynedd ddiwethaf, Ysgol Uwchradd Willows.
Bu myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd y Dwyrain, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Glantaf, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Uwchradd Yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant ac Ysgol Uwchradd Cathays yn cymryd rhan yn y rhaglen ddadlau ysgolion 12 wythnos a gyflwynwyd gan Debate Mate ar draws yr wyth ysgol yn y ddinas.
Daeth y rhaglen 12 wythnos i ben gyda'r rownd derfynol, a noddir gan Gymdeithas Adeiladu Principality yn Stadiwm Principality. Roedd diwrnod y dadleuon pen-i-ben yn cynnwys gwirfoddolwyr o Gymdeithas Adeiladu'r Principality yn cefnogi mentoriaid Debate Mate gan gadeirio a barnu'r dadleuon.
Trafododd disgyblion faterion ynglŷn â threth carbon i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac a ddylai ysgolion ddarparu dyfeisiau TG i blant. Cyrhaeddodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Cathays ac Ysgol Uwchradd Willows ddadl olaf y dydd, gan drafod y pwnc 'Byddai'r tŷ hwn yn oedi datblygiadau Deallusrwydd Artiffisial'.
Cynhaliwyd y rownd derfynol o flaen yr holl ysgolion eraill a gystadlodd, yn ogystal â phartneriaid yn y sector preifat Cymdeithas Adeiladu Principality a Legal & General y gwnaeth sgiliau dadlau'r holl ddisgyblion argraff mawr arnynt ac a oedd wrth eu bodd yn gweld Ysgol Uwchradd Cathays yn sicrhau Cwpan Debate Mate i Gaerdydd/Cymru!
Disgyblion Ysgol Uwchradd Woodlands yn ennill cystadleuaeth Esports Minecraft!
Mae tîm o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands wedi'i goroni'n Bencampwyr Esports Minecraft ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) De Cymru ar ôl cystadleuaeth agos a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality.
Aeth Tîm Esports Woodlands i'r rownd derfynol a oedd yn eu herio i adeiladu amgylcheddau rhithwir yn seiliedig ar themâu fel mythau Cymru a'r Chwe Gwlad.
Yn cynnwys ysgolion arbennig o bob rhan o Dde Cymru, cyrhaeddodd y tîm o 10 dysgwr o Woodlands ym Mlynyddoedd 10 i 14 ornest derfynol ddwys yn erbyn Ysgol Trinity Fields o Hengoed lle gwnaethon nhw greu'r Chwe Gwlad yn Minecraft.
Mae cystadleuaeth Minecraft Esports Cymru yn gydweithrediad rhwng Hwb, Minecraft ac URC a chafodd pob gornest ei beirniadu gan weithwyr proffesiynol profiadol o Hwb, URC ac Esports Wales.
Mae gan Ysgol Uwchradd Woodlands, sy'n rhan o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin, bellach dudalen Minecraft bwrpasol ar ei gwefan, lle gall myfyrwyr arddangos eu creadigaethau drwy sgrinluniau a fideos egluro. Y nod yw annog creadigrwydd ac arloesedd pellach y tu hwnt i ffiniau traddodiadol, gan rymuso myfyrwyr i archwilio posibiliadau diderfyn.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Woodlands, Sian Thomas: "Rydym wrth ein bodd am ennill cystadleuaeth Esports Minecraft! Mae Woodlands wedi bod yn defnyddio Minecraft ers y Nadolig gyda bron pob dosbarth yn cymryd rhan trwy eu gwaith pwnc.
"Mae'r gystadleuaeth wedi rhoi hwb i'w cydweithio a'u gwaith tîm ac wedi meithrin hyder a sgiliau arwain i'r rhai sy'n dangos addewid yn y maes hwn o ddatblygu sgiliau."