28.5.24
Mae gan breswylwyr sy'n aros yng Nghartref Cŵn Caerdydd ardd newydd i'w mwynhau wrth iddynt aros i gael clywed am eu cartref am byth.
Mae'r ardd, sy'n rhoi lle ychwanegol i'r cŵn ymarfer corff a chwarae gyda'r tîm Cartref Cŵn, wedi ei gwneud yn bosibl gyda chefnogaeth elusen gysylltiedig y Rescue Hotel, gwirfoddolwyr y Cartref Cŵn, Cadwch Gymru'n Daclus a'r partner datblygu tai, Lovell.
Un o'r preswylwyr yn mwynhau'r ardd newydd gyda thîm y Cartref Cŵn.
Dwedodd Aelod Cabinet Caerdydd sydd â chyfrifoldeb dros Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae llawer o'r cŵn sy'n cael eu hunain yng Nghartref Cŵn Caerdydd wedi dod o sefyllfaoedd anodd ac maen nhw'n haeddu ychydig o foethusrwydd yn ystod eu harhosiad.
"Bydd cael yr ardd newydd hon ar y safle yn helpu i sicrhau bod y cŵn yn gallu treulio mwy o amser y tu allan i'w cybiau, ac yn rhoi lle iddynt lle gall y tîm weithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn barod i gael eu hailgartrefu - diolch yn fawr i'n holl wirfoddolwyr gwych, y Rescue Hotel, Cadwch Gymru'n Daclus, a'r tîm yn Lovell a gefnogodd y prosiect yn hael."
Darparodd Cadwch Gymru'n Daclus flychau plannu, blychau cynefin, planhigion, coed, tyweirch, sied storio ac offer amrywiol, yn ogystal â gwneud gwaith i'r ardal o ordyfiant gynt ger Afon Taf
Dwedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu darparu pecynnau gardd am ddim i gymunedau a sefydliadau ledled Cymru drwy'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
"Rydyn ni'n gwybod bod garddio a bod allan ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les meddyliol, ac mae'n ffordd wych o ddod â chymunedau at ei gilydd a mwynhau'r awyr agored.
"Mae'n wych gweld y bydd ein pecynnau Perllan Gymunedol a Gardd Bywyd Gwyllt yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i'r staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a'r cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd nawr ac i'r blynyddoedd i ddod."
Cyflenwyd a gosodwyd y ffensys i'r ardd gan gwmni Lovell ac aeth gwirfoddolwyr ati hefyd i helpu i weddnewid yr ardal.
Dwedodd Gemma Clissett, cyfarwyddwr partneriaethau rhanbarthol Lovell: "Mae rhoi'n ôl i'r cymunedau rydym yn adeiladu ynddynt yn un o'r gwerthoedd creiddiol i ni yn Lovell, felly roeddem yn falch iawn o gynnig ein cefnogaeth i'r prosiect hwn. Mae Cartref Cŵn Caerdydd yn gwneud gwaith rhagorol yn y gymuned, dros y cŵn y maent yn gofalu amdanynt ac i'r teuluoedd, y cyplau a'r unigolion sy'n gallu cyfoethogi eu bywydau trwy fabwysiadu anifail anwes annwyl, diolch i'r gwaith caled a wneir i gymdeithasu ac adsefydlu'r cŵn hynny yr oedd angen gofal ychwanegol arnynt.
"Rydym yn gobeithio y bydd trigolion yn mwynhau'r ardd, ac edrychwn ymlaen at roi help llaw gyda phrosiectau tebyg yn y dyfodol".