Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Yr Arglwydd Faer Newydd yn dewis banc bwyd i elwa o'i blwyddyn yn y swydd
Mae'r Cynghorydd Jane Henshaw wedi ymgymryd yn swyddogol â'i rôl fel Arglwydd Faer newydd Caerdydd.
Cyflwynwyd y gadwyn swyddogol iddi mewn seremoni yn Neuadd y Sir heddiw, yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol Cyngor Caerdydd.
Yn gyn-Ddirprwy Faer i'r Cynghorydd Bablin Molik, mae'r Cynghorydd Henshaw wedi dewis Banc Bwyd Caerdydd fel elusen enwebedig, achos sy'n agos at ei chalon.
"Trwy fy ngwaith ar y Cyngor, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith gwych y mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yn yr elusen yn ei wneud, y ffordd y maen nhw'n newid bywydau yn y cyfnod anodd hwn ac yn helpu pobl allan o dlodi. Mae'n ffaith drist eu bod yn bodoli o gwbl, wrth gwrs, ond rwy'n benderfynol o helpu Banc Bwyd Caerdydd mewn unrhyw ffordd y gallaf eleni."
Cynlluniau newydd i fynd i'r afael â heriau brys a phwysig o ran tai
Mae'r argyfwng tai yng Nghaerdydd yn parhau ac mae'r angen am dai fforddiadwy mwy parhaol a rhai dros dro yn parhau i fod yn fater brys a dybryd.
Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu atebion cyflym i fynd i'r afael â'r galw digynsail am wasanaethau digartrefedd a thai yn y ddinas ac mae wedi datblygu cyfres o gynigion newydd i greu tua 250 o gartrefi fforddiadwy newydd yn y ddinas, cyn gynted â phosibl.
Mai rhai cynigion prynu eiddo a thir, a gymeradwywyd gan y Cabinet er mwyn helpu i leddfu'r pwysau pan ddatganodd yr awdurdod fod argyfwng tai yn y ddinas fis Rhagfyr, bellach ddim ar gael, felly mae cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno i gynyddu argaeledd llety ar fyrder.
Yn ei gyfarfod ddoe (dydd Iau, Mai 23) cymeradwyodd y Cabinet argymhellion i brynu dau eiddo masnachol - un y gellid ei addasu at ddefnydd preswyl i gynnig 79 o gartrefi newydd, tra byddai'r ail adeilad yn darparu 20 o fflatiau teuluol newydd, yn amrywio o unedau un ystafell wely i bedair ystafell wely.
Mae safle datblygu gwag yn agos at y ddau adeilad yma hefyd ar gael a byddai'n caniatáu i'r Cyngor ehangu ei raglen cartrefi modiwlaidd llwyddiannus yn gyflym i greu tua 150 o gartrefi ar gyfer llety teuluol dros dro neu dymor hir.
Gerddi Clare i elwa ar fuddsoddiad
Bydd gardd gymunedol, ardal ymarfer corff a man cymdeithasol newydd yn cael eu cyflwyno i Erddi Clare yng Nglan-yr-afon, ochr yn ochr â phlannu dolydd, ac amrywiaeth o welliannau eraill.
Ariannwyd gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Mehefin a bydd yn cynnwys:
Bwriad y gwelliannau yw ategu'r ardal chwarae a'r cyfleusterau chwaraeon yng Ngerddi Despenser gerllaw.
Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn chwilio am aelodau newydd
Mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn chwilio am dri aelod newydd i helpu i ddatblygu a chefnogi sîn gerddoriaeth y ddinas.
Wedi'i sefydlu ddiwedd 2019, mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni strategaeth gerddoriaeth Cyngor Caerdydd ac mae wedi bod yn rhan annatod o ddod â'r Ŵyl 6Music i Gaerdydd, cyflwyno cyfres o sesiynau diwydiant yn ystod Gŵyl Sŵn, cynnal cyfres o gigs awyr agored yng Nghastell Caerdydd i gefnogi lleoliadau annibynnol lleol yn ystod y pandemig, lansiad 'Gigs Bach' - prosiect datblygu talent cerddoriaeth newydd yn ysgolion Caerdydd, gan sicrhau safle newydd ar Lôn y Barics ar gyfer bar a lleoliad annibynnol poblogaidd, Porters a'r cyhoeddiad diweddar am Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, a gynhelir yr hydref hwn.
Mae arbenigedd ac ymrwymiad aelodau'r bwrdd wedi bod yn amhrisiadwy i gefnogi'r sector cerddoriaeth mewn cyfnod heriol a daw'r alwad am wynebau newydd ar ôl i rai aelodau ymestyn eu telerau aelodaeth cychwynnol, i sicrhau parhad ar ôl y pandemig.