Back
Cyngor yn lansio dogfen ymgynghori newydd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yng Nghaerdydd

24.05.24
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori gynhwysfawr newydd yn amlinellu sut mae'n bwriadu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y ddinas dros y pedair blynedd nesaf.

Mae'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (2024-2028) wedi'i chynllunio i esbonio'r mesurau y mae'r awdurdod yn eu mabwysiadu i sicrhau y cyflawnir ei nod o Gaerdydd 'Gryfach, Decach, Gwyrddach'.

Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad a gymeradwywyd gan Gabinet y Cyngor ddoe (23 Mai) yn pwysleisio bod creu dinas 'Decach' yn golygu "sicrhau y gall pawb fwynhau'r cyfleoedd gwych o fyw yng Nghaerdydd, beth bynnag fo'u cefndir, lle mae'r rhai sy'n dioddef anfantais yn cael eu cefnogi a lle mae pob dinesydd yn cael ei werthfawrogi ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi."

Mae hefyd yn amlinellu bod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), a ddaeth i rym yn 2011, yn sicrhau bod y nodweddion canlynol yn cael eu diogelu

  •  Oedran
  • Anabledd 
  • Ailbennu Rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil – gan gynnwys tras ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
  • Crefydd neu gred, gan gynnwys diffyg crefydd neu gred
  • Rhyw, a
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Mae'r DCSC hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gyhoeddi amcanion bob pedair blynedd o leiaf a chyhoeddi datganiad yn rhoi manylion y camau y mae wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd i'w bodloni, gan gynnwys mynd i'r afael ag unrhyw fwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Sangani, Aelod Cabinet arweiniol Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb, fod gan Gaerdydd eisoes hanes balch o hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. “Ni yw’r awdurdod lleol mwyaf ethnig amrywiol yng Nghymru ac un o'r cymunedau ethnig amrywiol hynaf ym Mhrydain, gyda thros 100 o ieithoedd yn cael eu siarad yma.

"Rydym hefyd yn cael ein hystyried fel y ddinas orau yn Ewrop ar gyfer mewnfudwyr a theuluoedd â phlant ifanc ac rydym ymysg y 10 dinas orau i aelodau o'r gymuned LHDTC+ fyw.

"Fel pob dinas yn y DU, fodd bynnag, rydym yn wynebu achosion o anghydraddoldeb hirsefydlog a dwfn. Mae rhai preswylwyr yn wynebu rhwystrau rhag byw bywydau llawn a gweithgar ac mae angen gwneud mwy i sicrhau nad oes neb yn profi gwahaniaethu o unrhyw fath oherwydd pwy ydyn nhw.

“Mae'r patrymau tlodi ac anghydraddoldeb a ddaeth i'r amlwg genhedlaeth yn ôl yn parhau, wedi’u gwaethygu gan y pandemig a'r argyfwng costau byw. Bydd cau'r bwlch anghydraddoldeb yn gofyn am barhau i ddarparu addysg ragorol, creu swyddi sy'n rhoi cyfleoedd ar gyfer cynnydd, a chyflawni datrysiadau tai cynaliadwy sy'n diwallu anghenion pawb, yn ogystal â lleihau anghydraddoldebau iechyd.”

Mae'r Cyngor eisoes wedi sefydlu arferion da tuag at wella cydraddoldeb, gan gynnwys:

  •  Sefydlu Tasglu Cydraddoldeb Hiliol
  • Dod yn awdurdod sydd ar frig mynegai Stonewall yng Nghymru a’r DU, gan dynnu sylw at ei ymrwymiad i gefnogi staff a chwsmeriaid LHDTC+
  • Cyflawni statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF, a
  • Arwain ymateb ledled y ddinas i groesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Nawr, i ddatblygu'r strategaeth ddrafft ar gyfer 2024-28, mae'r Cyngor wedi cynnal cyfres gynhwysfawr o asesiadau, wedi adolygu cynlluniau gweithredu lleol a chenedlaethol ac wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid blaenllaw yn y ddinas ac wedi amlinellu pum amcan allweddol:

  •  Caerdydd Decach - Byddwn yn lleihau anghydraddoldeb ac yn cefnogi pawb yng Nghaerdydd i gyflawni eu potensial.
  • Caerdydd Hygyrch - Byddwn yn gweithio i sicrhau y gall pawb gymryd rhan ym mhopeth sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.
  • Caerdydd Gynhwysol - Byddwn yn gwneud Caerdydd yn ddinas lle mae gwahaniaethau’n cael eu deall a'u dathlu, a lle mae pob cymuned yn teimlo ei bod yn perthyn.

Cyngor sy’n adlewyrchu ei gymunedau - Byddwn yn gwneud Cyngor Caerdydd yn sefydliad mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu, a lle mae’r gweithwyr yn hyderus i fod yn nhw eu hunain ac yn cael eu grymuso i wneud cynnydd, a

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn greiddiol i’r sefydliad - Byddwn yn sicrhau bod prosesau craidd Cyngor Caerdydd yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae'r Cyngor nawr yn gofyn am farn preswylwyr Caerdydd ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft ar gyfer 2024-28 er mwyn helpu i sicrhau dinas decach i'n holl breswylwyr. Am fwy o fanylion, ewch i: www.cardiff.gov.uk/DraftStrategicEqualityPlan Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 3 Mehefin a bydd yn rhedeg am 6 wythnos, gan ddod i ben ar 14 Gorffennaf.