24/5/24
Bydd gardd gymunedol, ardal ymarfer corff a man cymdeithasol newydd yn cael eu cyflwyno i Erddi Clare yng Nglan-yr-afon, ochr yn ochr â phlannu dolydd, ac amrywiaeth o welliannau eraill.
Gerddi Clare
Ariannwyd gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, disgwylir i'r gwaith ddechrau ym mis Mehefin a bydd yn cynnwys:
Bwriad y gwelliannau yw ategu'r ardal chwarae a'r cyfleusterau chwaraeon yng Ngerddi Despenser gerllaw.
Dywedodd yr Aelod Cabinet drosDai a Chymunedau, y Cyng. Lee Bridgeman: "Mae gwelliannau Gerddi Clare yn rhan o'n rhaglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau sy'n darparu prosiectau adfywio ledled y ddinas.
"Mae cynlluniau i uwchraddio'r parc wedi eu datblygu mewn ymgynghoriad ag aelodau lleol a'r gymuned leol, a fydd, rwy'n siŵr, yn hapus gyda'r canlyniad terfynol. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n mwynhau'r gerddi ar hyn o bryd am eu hamynedd wrth i ni gyflawni'r gwaith hwn."
Cynllun o'r awyr o Erddi Clare, yn amlinellu'r gwelliannau fydd yn cael eu gwneud.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Rydym am i bawb allu mwynhau parciau Caerdydd a Glan-yr-afon yw'r ardal ddiweddaraf i elwa ar fuddsoddiad, gyda gwerth £6 miliwn o welliannau wedi'u gwneud i ardaloedd chwarae a mannau awyr agored ledled y ddinas, dros y tair blynedd diwethaf."
Er mwyn caniatáu i'r gwelliannau gael eu cwblhau mor ddiogel a chyflym â phosibl, bydd y parc ar gau i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith gwella. Yn amodol ar amgylchiadau annisgwyl, mae disgwyl i'r parc ailagor ym mis Medi.
Fel rhan o'r cynllun, mae rheiliau'r parc yng Ngerddi Despenser hefyd yn cael eu hailbeintio, trwy raglen Gwneud Iawn â'r Gymuned Carchardai EF a'r Gwasanaeth Prawf.
Dywedodd Robert Robbins, Rheolwr Gweithrediadau Gwneud Iawn â'r Gymuned ar gyfer y Gwasanaeth Prawf: "Mae'r Tîm Gwneud Iawn â'r Gymuned yng Ngwasanaeth Prawf Cymru Caerdydd yn falch o fod yn gwneud gwaith adfer ystyrlon a chadarnhaol yng Ngerddi Despenser, Glan-yr-afon. Mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd, mae troseddwyr yn talu eu dyledion yn ôl trwy helpu i wella mannau awyr agored gwyrdd yn y ddinas i'r cymunedau lleol eu mwynhau."
Mae'r gwaith i gyd yn rhan o Raglen Cynlluniau Adnewyddu Cymdogaethau Cyngor Caerdydd sy'n darparu prosiectau adfywio ledled y ddinas, gan gynnwys parciau newydd gwell, ardaloedd cyhoeddus a gwelliannau diogelwch cymunedol.