23.05.24
Mae'r Cynghorydd Jane Henshaw
wedi ymgymryd yn swyddogol â'i rôl fel Arglwydd Faer newydd Caerdydd.
Cyflwynwyd y gadwyn swyddogol
iddi mewn seremoni yn Neuadd y Sir heddiw, yn ystod cyfarfod cyffredinol
blynyddol Cyngor Caerdydd.
Yn gyn-Ddirprwy Faer i’r Cynghorydd
Bablin Molik, mae'r Cynghorydd Henshaw wedi dewis Banc Bwyd Caerdydd fel elusen
enwebedig, achos sy'n agos at ei chalon.
"Trwy fy ngwaith ar y
Cyngor, rwyf wedi gweld drosof fy hun y gwaith gwych y mae'r staff a'r
gwirfoddolwyr yn yr elusen yn ei wneud, y ffordd y maen nhw'n newid bywydau yn
y cyfnod anodd hwn ac yn helpu pobl allan o dlodi. Mae'n ffaith drist eu bod yn
bodoli o gwbl, wrth gwrs, ond rwy'n benderfynol o helpu Banc Bwyd Caerdydd mewn
unrhyw ffordd y gallaf eleni."
Mynychodd Prif Swyddog
Gweithredol Banc Bwyd Caerdydd, Rachel Biggs, seremoni’r Maer heddiw a
siaradodd â'r Cyngor am ei gwaith.
Etholwyd y Cynghorydd Henshaw,
sydd bellach â'r teitl Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, i'r Cyngor am
y tro cyntaf yn 2017 ac mae'n cynrychioli ward Y Sblot. Mae ganddi radd BA mewn
Saesneg a Hanes.
Yn wreiddiol o Wrecsam,
symudodd i Gaerdydd yn 2014 ac mae'n fam i bedwar o blant. Mae ganddi bedwar o
wyrion hefyd. Bydd ei merch, Angharad Anderson, yn ei chefnogi fel yr Arglwydd
Faeres.
Etholwyd y Cynghorydd Helen
Lloyd Jones, sy'n cynrychioli Radur a Phentre-poeth, yn Ddirprwy Arglwydd Faer.