Back
Cynlluniau newydd i fynd i'r afael â heriau brys a phwysig o ran tai

 

23/5/24

Mae'r argyfwng tai yng Nghaerdydd yn parhau ac mae'r angen am dai fforddiadwy mwy parhaol a rhai dros dro yn parhau i fod yn fater brys a dybryd.

 

Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu atebion cyflym i fynd i'r afael â'r galw digynsail am wasanaethau digartrefedd a thai yn y ddinas ac mae wedi datblygu cyfres o gynigion newydd i greu tua 250 o gartrefi fforddiadwy newydd yn y ddinas, cyn gynted â phosibl.

 

Mai rhai cynigion prynu eiddo a thir, a gymeradwywyd gan y Cabinet er mwyn helpu i leddfu'r pwysau pan ddatganodd yr awdurdod fod argyfwng tai yn y ddinas fis Rhagfyr, bellach ddim ar gael, felly mae cynlluniau newydd wedi'u cyflwyno i gynyddu argaeledd llety ar fyrder.

 

Yn ei gyfarfod heddiw (dydd Iau, Mai 23) cymeradwyodd y Cabinet argymhellion i brynu dau eiddo masnachol - un y gellid ei addasu at ddefnydd preswyl i gynnig 79 o gartrefi newydd, tra byddai'r ail adeilad yn darparu 20 o fflatiau teuluol newydd, yn amrywio o unedau un ystafell wely i bedair ystafell wely.

 

Mae safle datblygu gwag yn agos at y ddau adeilad yma hefyd ar gael a byddai'n caniatáu i'r Cyngor ehangu ei raglen cartrefi modiwlaidd llwyddiannus yn gyflym i greu tua 150 o gartrefi ar gyfer llety teuluol dros dro neu dymor hir. 

 

Dwedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Rydym wedi gwneud cynnydd da ers mis Rhagfyr.  Mae gwaith i atal teuluoedd rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf a'n cartrefi modiwlaidd ychwanegol ar safle'r hen Waith Nwy yn Grangetown wedi helpu i leihau nifer y teuluoedd sy'n aros am lety dros dro.

 

"Mae nifer y bobl sengl sy'n dod at ein gwasanaeth digartref y tu allan i oriau wedi gostwng o 88 y noson ar gyfartaledd ar ddiwedd y llynedd i gyfartaledd o dri y noson ar hyn o bryd, ac mae cysgu ar y stryd wedi gostwng o 43 ym mis Rhagfyr i 23.

 

"Ond nid yw'r argyfwng drosodd o bell ffordd ac mae'r rheswm dros y sefyllfa hynod anodd hon yr ydym ynddi, sef yn sylfaenol diffyg tai fforddiadwy, yn parhau.

 

"Mae 1,028 o bobl sengl yn dal i fod mewn llety dros dro a llety argyfwng, mae 122 o deuluoedd yn byw mewn gwestyau a 595 o deuluoedd mewn darpariaeth dros dro safonol.  Ac erbyn hyn mae angen mynd i'r afael â heriau gwahanol, sydd wedi dod i'r amlwg ers mis Rhagfyr, gan roi straen pellach ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau.

 

"Gan nad yw rhai o'r opsiynau a gymeradwywyd gennym yn ôl ym mis Rhagfyr ar gael bellach, mae'n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd amgen o gynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy o ansawdd da yn gyflym, tra bod ein rhaglen datblygu tai bresennol yn parhau i ddarparu atebion mwy hirdymor."

 

Yn y tymor canolig, mae'r Cyngor yn bwriadu bod rhai safleoedd gwag yn cael eu ‘defnyddio yn y cyfamser' ar gyfer codi tua 350 o unedau modiwlaidd ychwanegol trwy Cartrefi Caerdydd, ei raglen partneriaeth cartrefi newydd gyda'r datblygwr Wates Residential. Mae'r camau i sicrhau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a chefnogaeth ariannol ar gyfer 35 uned yn Nhŷ Effraim, un o ddarpariaethau presennol y Cyngor ar gyfer pobl sengl, wedi bod yn llwyddiannus ac mae trafodaethau'n parhau ynghylch safleoedd pellach.

 

Yn y tymor hwy, bydd rhaglen adeiladu tai'r Cyngor yn parhau i ddarparu tai cyngor newydd a fforddiadwy i'w gwerthu mewn 60 o safleoedd ledled y ddinas, gyda'r capasiti ar gyfer mwy na 4,000 o gartrefi newydd. Ar hyn o bryd mae 1,127 o dai cyngor newydd wedi'u cwblhau ac mae 368 o unedau ychwanegol wrthi'n cael eu codi.

 

Yn ogystal â chymeradwyo'r caffaeliadau eiddo a thir newydd, cymeradwyodd y Cabinet

barhau i ddefnyddio gwestyau yn y ddinas fel llety dros dro am 12 mis arall.

 

Yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn, mae gwestyau wedi bod yn rhan hanfodol o'r ddarpariaeth llety dros dro i ateb y galw ac er bod y Cyngor wedi dod â'r contract i ben gydag un o'r gwestyau a ddefnyddir ar gyfer teuluoedd, mae dau yn parhau i gael eu defnyddio a bydd yr angen amdanynt yn parhau yn y byrdymor.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Bydd y defnydd o westyau yn dod i ben cyn gynted ag y gallwn, ond ar hyn o bryd, mae'r defnydd arfaethedig a neilltuedig o westyau yn rhoi mwy o sicrwydd i ni o argaeledd na lleoliadau ad hoc a mwy o sefydlogrwydd i breswylwyr sydd eisoes yn mynd trwy brofiad anghyfforddus.  Bydd staff cymorth y cyngor yn parhau i gael eu lleoli yn y gwestyau i gynorthwyo preswylwyr i gael gafael ar gymorth a gwasanaethau."

 

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8216&LLL=0