May 21, 2024
Mae'r safle dymchwel yn hen adeiladau swyddfa CThEF yn NhŷGlas yn Llanishenyn rhoi cyfle unigryw i ddisgyblion ysgolion lleol ddysgu am a phrofi proses o ddymchwel byw.
Dan ofal Erith, y contractwr dymchwel a ddewiswyd i ymgymryd â'r gwaith, mae disgyblion o Ysgol Gynradd Crist y Brenin, Ysgol y Wern ac Ysgol Uwchradd Llanisien, wedi mwynhau ymweliadau pwrpasol â'r safle lle maent wedi gweld y gwaith dymchwel adeilad uchel trawiadol ar waith, wedi cynnal trafodaethau ag uwch aelodau'r tîm dymchwel ac wedi gweld cyflwyniadau i ategu eu profiadau dysgu yn y dosbarth. Mae'r ardaloedd dan sylw wedi cynnwys hanes lleol, dymchwel, ailgylchu deunyddiau, agweddau amgylcheddol a gweithdrefnau cynllunio, yn ogystal â mewnwelediad gyrfaol i ddymchwel.
Dywedodd Brenda Miles, Pennaeth Ysgol Gynradd Crist y Brenin: "Roedd ein hymweliad â safle'r Swyddfa Dreth ynNhŷGlasyn rhan o'n hastudiaethau am yr ardal leol. Fel ysgol Baner Platinwm Eco, roedd gennym ddiddordeb mewn darganfod sut y bydd cael gwared ar y deunyddiau a ddymchwelwyd, ac roeddem yn falch o weld eu bod yn mynd i gael eu hailgylchu fel agregiad ar gyfer gwaith adeiladu yn y dyfodol."
Dywedodd Pennaeth Ysgol y Wern, Moira Kellaway: "Roedd yn gyfle gwych i'n disgyblion weld drostynt eu hunain beth sy'n digwydd ar y safle yn eu hardal leol a gallu trafod digwyddiad neu fater amserol. Yn sicr, mae wedi meithrin diddordeb ymhlith y disgyblion ac wedi ehangu eu gwybodaeth am newidiadau sy'n digwydd yn eu hardal leol."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'n bwysig ein bod yn cynnwys pobl ifanc wrth drawsnewid eu hamgylchedd lleol ac mae'r cynllun hwn yn ffordd wych o ymgysylltu â meddyliau ifanc brwd. Fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU, ein blaenoriaeth yw cynnwys pobl ifanc yn y prosiectau rydym yn eu cynnal, yn enwedig pan fyddant yn cael effaith ar ddyfodol eu hardal.
"Mae'r cyfleoedd cyffrous hyn yn dyfnhau dealltwriaeth myfyrwyr o hanes lleol, technegau dymchwel, a phwysigrwydd ailgylchu deunydd tra'n sicrhau nad gwylwyr yn unig ydyn nhw, ond yn gyfranogwyr gweithredol wrth ail-lunio eu cymuned."
Mae'r mentrau addysgol hyn yn rhan o ymrwymiad Erith i werthoedd cymdeithasol. Mae ysgolion eraill eisoes wedi mynychu sesiynau ar y safle ac wrth i'r prosiect barhau, mae Erith yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ysgolion y gwanwyn hwn, gan gynnwys Greenhill a Choleg Caerdydd a'r Fro.
Dechreuodd y gwaith ar safleTŷGlasym mis Mehefin 2023 ac mae disgwyl iddo orffen yn yr hydref ar hyn o bryd.