Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Mai 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cymorth grant i wella adeiladau cymunedol
  • Llwybr newydd yn archwilio hanes Camlas Gyflenwi'r Dociau Caerdydd
  • Golau gwyrdd i gynlluniau Ysgol Uwchradd Willows newydd
  • Cerflun Torwyr Cod y Byd Rygbi yn ennill Gwobr Treftadaeth Chwaraeon

 

Cymorth grant i wella adeiladau cymunedol

Gwahoddir ceisiadau nawr am arian grant i gefnogi sefydliadau cymunedol y sector gwirfoddol i wella eu hadeiladau cymunedol.

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol ledled y ddinas wneud cais am gyllid hyd at £10,000 i wneud gwelliannau mewnol ac allanol i'w hadeiladau, megis gwella hygyrchedd, gwella diogelwch, adnewyddu ceginau, a mesurau effeithlonrwydd ynni, a fyddai'n helpu i sicrhau neu gynyddu'r defnydd o'u cyfleusterau gan y gymuned leol.

Gyda chefnogaeth Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, mae'r Cynllun Grantiau Adeiladu Cymunedol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr cymwys ariannu o leiaf 15% o gyfanswm costau'r prosiect o ffynonellau eraill.

Mae adeiladau cymunedol cymwys yn cynnwys neuaddau cymunedol, canolfannau cymunedol a chyfleusterau eraill sy'n cael eu defnyddio gan, ac sy'n hygyrch i'r gymuned gyfan, ac nid dim ond yn cael ei ddefnyddio gan un grŵp neu nifer gyfyngedig o grwpiau.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rydym am glywed gan sefydliadau cymunedol a grwpiau lleol sydd angen cyllid i wella eu hadeilad fel y gall y gymuned leol wneud gwell defnydd o'r cyfleuster, a chan y rheini sy'n ceisio ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy wneud newidiadau i'w hadeilad a fydd yn helpu i leihau'r defnydd o ynni."

Gellir defnyddio cyllid i wella'r adeiledd, uwchraddio darpariaethau diogelwch tân, iechyd a diogelwch neu ddiogelwch, gosod ceginau, ffenestri a drysau neu gyfleusterau toiled newydd; gwella mynediad neu uwchraddio systemau trydanol, draenio a goleuo.

Ni ellir defnyddio cyllid ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio arferol, costau staff na chostau cynnal, prosiectau sy'n elwa ar aelodaeth gyfyngedig neu waith sydd eisoes ar y gweill neu wedi'i gwblhau. Mae eithriadau eraill yn berthnasol.

Ar gyfer y pecyn cais am grant, ewch i  yma

Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch:  Adfywiocymdogaethau@caerdydd.gov.uk 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Mehefin.

Rhaid cwblhau ceisiadau llwyddiannus erbyn 21 Chwefror 2025.

 

Llwybr newydd yn archwilio hanes Camlas Gyflenwi'r Dociau Caerdydd

Mae camlas gyflenwi'r dociau Caerdydd, a adeiladwyd yn y 1830au, wedi dechrau cyfnod newydd yn ei hanes yn ddiweddar, pan ddatgelwyd rhan o ddyfrffordd y ddinas a oedd wedi'i chuddio o dan Ffordd Churchill yng nghanol dinas Caerdydd ers 1948. 

Nawr, mae codau QR y gellir eu sganio gan ffôn clyfar i gysylltu â gwybodaeth am y gamlas, wedi'u gosod ar hyd y llwybr cyfan - o'i tharddle yn y Gored Ddu i'r Pierhead ym Mae Caerdydd - i ffurfio 'Taith Camlas Gyflenwi'r Dociau Caerdydd' newydd sy'n gwneud hanes y gamlas hyd yn oed yn fwy hygyrch. Gellir dilyn y daith hefyd yn rhithiol ar  wefan historypoints.org.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Roedd y gwaith o adeiladu camlas gyflenwi'r dociau yn rhan annatod o'r fasnach lo a sbardunodd lawer o ddatblygiad Caerdydd ac mae ailagor Ffordd Churchill yn ddiweddar yn golygu ei bod hefyd yn rhan fawr o ddyfodol y ddinas. Gobeithio y bydd y llwybr newydd hwn yn galluogi pobl i ddarganfod mwy am yr hanes cyfoethog sydd weithiau'n cuddio ychydig o dan yr wyneb."  

Mae'r daith newydd, a grëwyd gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, y mae'r codau yn cael eu harddangos ar ei eiddo, yn rhan o'r prosiect 'HistoryPoints'. Nod y prosiect, a sefydlwyd yn 2012, yw helpu pobl i gysylltu â hanes lleol gan ddefnyddio eu ffonau clyfar. Ers hynny, mae'r sefydliad nid er elw wedi gosod codau QR ar fwy na 2,200 o bwyntiau o ddiddordeb hanesyddol ledled Cymru.

Darllenwch fwy yma

 

Golau gwyrdd i gynlluniau Ysgol Uwchradd Willows newydd

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi rhoi sêl bendith i adeiladu cartref newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows ar dir oddi ar Heol Lewis yn y Sblot.

Mae'r cynllun yn cynrychioli buddsoddiad o fwy na £50m a chaiff yr ysgol bresennol ei hadleoli a'i hailadeiladu, gan ddarparu lle i 900 o ddysgwyr rhwng 11 ac 16 oed yn ogystal â Chanolfan Adnoddau Arbennig 30 lle ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd yn chynnig mynediad i amgylcheddau addysg o ansawdd rhagorol i gefnogi a gwella addysgu a dysgu.

Bydd yr ysgol newydd, a gwblheir dan raglen Band B Llywodraeth Cymru, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn canolbwyntio ar y gymuned ac yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr fel neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama, caeau 3G a glaswellt, a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol yn yr ardal.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae'r realiti o gynnig cartref newydd sbon, modern ardderchog ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows yn symud gam yn nes gyda'r gymeradwyaeth cynllunio. Mae'r datblygiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol a bydd yn darparu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr a staff, yn ogystal â chynnig cyfleusterau gwych i'r gymuned gyfan eu mwynhau ac elwa ohonynt.

"Mae cynnydd yr adeilad ysgol newydd yn ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod gan holl blant Caerdydd gyfleoedd i ddysgu mewn ysgolion o ansawdd uchel ac mae'n cefnogi statws Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n blaenoriaethu hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc, gan eu rhoi wrth wraidd popeth a wnawn."

Darllenwch fwy yma

 

Cerflun Torwyr Cod y Byd Rygbi yn ennill Gwobr Treftadaeth Chwaraeon

Mae cerflun sy'n anrhydeddu 'Torwyr Cod y Byd Rygbi' chwedlonol Caerdydd wedi ennill categori 'Gwobr Dathlu Treftadaeth Ddu Chwaraeon' yn y Gwobrau Treftadaeth Chwaraeon.

Wedi'i ddadorchuddio ym Mae Caerdydd ym mis Gorffennaf y llynedd, cerflun Billy Boston, Clive Sullivan a Gus Risman yw'r cyntaf erioed yng Nghymru i gynnwys dynion du fu fyw go iawn.

Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan alwadau o gymunedau Butetown a Bae Caerdydd ehangach am deyrnged addas i'r chwaraewyr, a gafodd i gyd eu magu yn agos at y man lle mae eu cerflun bellach yn sefyll, cyn gadael eu tref enedigol a mynd yn eu blaen i ennill enwogrwydd yn y byd chwaraeon.

Roedd Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Is-gadeirydd pwyllgor Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, yn arbennig o falch bod y cerflun wedi cael ei gydnabod yn y categori 'Dathlu Treftadaeth Ddu Chwaraeon', a dywedodd: "Mae'r cyflawniadau chwaraewyr hyn wedi cael eu tanbrisio am yn rhy hir. Daethon nhw â balchder iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, y gamp a'r cymunedau amlddiwylliannol yng Nghaerdydd y cawson nhw eu magu ynddyn nhw ac roedden nhw'n haeddu cael eu dathlu yn eu tref enedigol eu hunain.

"Bydd y cerflun yn ysbrydoliaeth i genedlaethau eto ac rwyf wrth fy modd bod ei gyfraniad i ddathlu treftadaeth ddu chwaraeon wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr hon."

Darllenwch fwy yma