Back
Cymorth grant i wella adeiladau cymunedol


15/5/24

Gwahoddir ceisiadau nawr am arian grant i gefnogi sefydliadau cymunedol y sector gwirfoddol i wella eu hadeiladau cymunedol.

 

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol ledled y ddinas wneud cais am gyllid hyd at £10,000 i wneud gwelliannau mewnol ac allanol i'w hadeiladau, megis gwella hygyrchedd, gwella diogelwch, adnewyddu ceginau, a mesurau effeithlonrwydd ynni, a fyddai'n helpu i sicrhau neu gynyddu'r defnydd o'u cyfleusterau gan y gymuned leol. 

Gyda chefnogaeth Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, mae'r Cynllun Grantiau Adeiladu Cymunedol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr cymwys ariannu o leiaf 15% o gyfanswm costau'r prosiect o ffynonellau eraill.

Mae adeiladau cymunedol cymwys yn cynnwys neuaddau cymunedol, canolfannau cymunedol a chyfleusterau eraill sy'n cael eu defnyddio gan, ac sy'n hygyrch i'r gymuned gyfan, ac nid dim ond yn cael ei ddefnyddio gan un grŵp neu nifer gyfyngedig o grwpiau. 

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rydym am glywed gan sefydliadau cymunedol a grwpiau lleol sydd angen cyllid i wella eu hadeilad fel y gall y gymuned leol wneud gwell defnydd o'r cyfleuster, a chan y rheini sy'n ceisio ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy wneud newidiadau i'w hadeilad a fydd yn helpu i leihau'r defnydd o ynni." 

Gellir defnyddio cyllid i wella'r adeiledd, uwchraddio darpariaethau diogelwch tân, iechyd a diogelwch neu ddiogelwch, gosod ceginau, ffenestri a drysau neu gyfleusterau toiled newydd; gwella mynediad neu uwchraddio systemau trydanol, draenio a goleuo.

Ni ellir defnyddio cyllid ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio arferol, costau staff na chostau cynnal, prosiectau sy'n elwa ar aelodaeth gyfyngedig neu waith sydd eisoes ar y gweill neu wedi'i gwblhau. Mae eithriadau eraill yn berthnasol. 

Ar gyfer y pecyn cais am grant, ewch i https://www.devandregencardiff.co.uk/cy/prosiectpresennol/grant-adeiladau-cymunedol-caerdydd/ Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch Adfywiocymdogaethau@caerdydd.gov.uk 

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Mehefin. Rhaid cwblhau ceisiadau llwyddiannus erbyn 21 Chwefror 2025.