Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 14 Mai 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Datgelu cynllun gweithredu a gynlluniwyd gan y gymuned leol ar gyfer Trelái a Chaerau
  • Datgelu strategaeth buddsoddi addysg newydd i ysgolion Caerdydd
  • Cyd-Arolygiaeth Adolygiad o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) cydnabod cryfderau yng Nghaerdydd
  • Y Cyngor yn helpu clwb criced y ddinas i oresgyn fandaliaeth a hiliaeth

 

Datgelu cynllun gweithredu a gynlluniwyd gan y gymuned leol ar gyfer Trelái a Chaerau

Mae pecyn o fesurau - sydd wedi'i gynllunio i wella bywydau pobl ifanc a'r gymuned leol ar ystadau Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd - wedi cael ei gytuno gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cafodd y Cynllun - gyda'r nod o fynd i'r afael â'r pryderon a gwella bywydau preswylwyr yn yr ardal - ei greu gan y gymuned leol, gan weithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Roedd gan Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) - sefydliad lleol sydd â hanes hir o gefnogi'r gymuned leol - rôl arweiniol, gan weithio'n agos gyda'r BGC tra'n ymgysylltu'n eang â phreswylwyr o bob oed. Dyluniwyd y dull hwn i sicrhau bod anghenion a dyheadau pobl Caerau a Threlái yn greiddiol i'r cynllun cymunedol a'i fod yn cael ei sbarduno o lawr gwlad i fyny.

Mae'r cynllun y cytunwyd arno, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, 14 Mai, wedi nodi 40 o amcanion sy'n canolbwyntio ar chwe thema allweddol:

1. Plant a phobl ifanc

2. Diogelwch cymunedol a diogelu

3. Mannau a'r amgylchedd

4. Iechyd a lles

5. Cyflogaeth, safonau byw a chostau byw

6. Cyfathrebu a datblygu cymunedau

Darllenwch fwy yma

 

Datgelu strategaeth buddsoddi addysg newydd i ysgolion Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi strategaeth buddsoddi addysg newydd gyda'r nod o sicrhau y bydd mwy o bobl ifanc ledled Caerdydd yn cael cyfleoedd i ddysgu mewn ysgolion o ansawdd uchel nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r strategaeth - sy'n cwmpasu'r naw mlynedd nesaf hyd at 2033 - yn darparu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ac yn cefnogi statws Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n blaenoriaethu hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc, gan eu gwneud yn greiddiol i bopeth a wnawn. Mae'n datblygu'r gwaith da a wnaed eisoes ar draws y ddinas fel rhan o raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol).

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae dros £460m wedi cael ei fuddsoddi yn cwblhau'r gwaith o adeiladu tair ysgol uwchradd newydd, gyda dwy ysgol arall ar y gweill, naw ysgol gynradd newydd, cannoedd o leoedd arbenigol ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol cymhleth a gwaith i uwchraddio llawer o ysgolion eraill ledled y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r buddsoddiad addysg y mae'r weinyddiaeth hon wedi'i sbarduno ers 2014 wedi gweld cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud yng Nghaerdydd. Mae nifer yr ysgolion yng Nghaerdydd sydd yn cynnig profiad addysgol o ansawdd uchel i'w disgyblion, fel y gwelir drwy adroddiadau Estyn, wedi cynyddu'n sylweddol. Mae hyn wedi cael ei sbarduno gan arweinyddiaeth gref, ein llywodraethwyr, ein penaethiaid, ein hathrawon, a'n staff cymorth addysgu, ochr yn ochr â'n disgyblion gweithgar. Rydym bob amser wedi ceisio gwneud ein gorau, o fewn y cyllidebau sydd ar gael, i wella'r amgylchedd ar gyfer addysgu a dysgu yn y ddinas, ac mae'r gwaith hwn, a'r buddsoddiad hwn, hefyd wedi chwarae ei ran yn helpu Caerdydd i neidio i fyny'r rhengoedd addysg yng Nghymru i gynhyrchu rhai o'r canlyniadau arholiadau gorau yn y wlad ar gyfer Safon Uwch a TGAU yn ystod y blynyddoedd diwethaf."

Darllenwch fwy yma

 

Adolygiad Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) yn cydnabod cryfderau mewn Addysg a Gwasanaethau Plant Caerdydd

Mae canfyddiadau Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) gan Gyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi'u cyhoeddi.

Roedd yr adolygiad helaeth yn canolbwyntio ar werthuso ymateb amlasiantaethol y ddinas i honiadau o gam-drin ac esgeulustod, ansawdd yr asesu a'r prosesau gwneud penderfyniadau, amddiffyn plant 11 oed ac iau sydd mewn perygl o niwed, arweinyddiaeth, effeithiolrwydd y rheoli mewn ymdrechion amddiffyn plant a chadernid y trefniadau diogelu amlasiantaeth.

Wedi'i gynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (ACGTAeF), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Phrif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn), roedd y canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

Galw Uchel a Chymhlethdod

Mae Caerdydd yn wynebu lefelau galw sy'n gyson uchel a chymhlethdod cynyddol o ran diogelu plant. Er gwaethaf heriau fel cyfyngiadau cyllidebol a diffyg gweithlu, mae ffocws cadarnhaol ar ddiogelu ar draws asiantaethau.

Gwaith Partneriaeth Cadarnhaol

Mae perthnasoedd proffesiynol ar draws asiantaethau yn gadarn, ac mae diwylliant o ddiogelu yn cael ei hyrwyddo fel cyfrifoldeb ar y cyd. Nod newidiadau diweddar mewn trefniadau llywodraethu yw cryfhau'r monitro, yr atebolrwydd a'r cydweithio ar draws y bartneriaeth.

Ymateb Amlasiantaethol Effeithiol

Mae'r ymateb amlasiantaethol i atgyfeiriadau diogelu yn gymesur ac yn drylwyr yn gyffredinol, gan ganolbwyntio ar anghenion y plentyn a gweithredu'n amserol i leihau'r risg o niwed.

Dulliau yn Seiliedig ar Gryfderau

Mae Caerdydd yn mabwysiadu dull seiliedig ar gryfderau ac atebion, gan sicrhau bod teuluoedd yn rhan o'r gwaith o gynllunio a chyflawni cynlluniau amddiffyn gofal a chymorth. Defnyddir dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i leihau risgiau a diwallu anghenion plant.

Rhagoriaeth Addysg

Mae ysgolion Caerdydd yn blaenoriaethu diogelu, gan sicrhau bod dysgwyr yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi. Mae partneriaethau cryf rhwng addysg a gwasanaethau plant yn hwyluso gwelliant parhaus a chefnogaeth wedi'i thargedu i ddisgyblion sy'n agored i niwed.

Hyrwyddo Sensitifrwydd Diwylliannol

Mae ymarferwyr yn dangos dealltwriaeth dda o anghenion diwylliannol ac yn blaenoriaethu arferion sy'n sensitif yn ddiwylliannol, gan sicrhau ymgysylltiad effeithiol â chymunedau amrywiol.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at sawl cyflawniad arwyddocaol yn benodol ar draws Gwasanaethau Plant ac Addysg Cyngor Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, Aelod Cabinet Caerdydd dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant: "Mae diogelu plant a phobl ifanc yn ymdrech ar y cyd, ac mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwaith amlasiantaeth rhwng yr Awdurdod Lleol, ysgolion, yr heddlu a'r bwrdd iechyd. Mae'r adroddiad yn cydnabod yr heriau parhaus sy'n cael eu hwynebu ledled y DU a'r cynnydd yn y galw a chymhlethdod yr achosion. Fodd bynnag, mae arolygwyr wedi canfod bod gan Gyngor Caerdydd ffocws cadarnhaol ar ddiogelu a bod gan ein staff, rheolwyr ac arweinyddiaeth rheng flaen ddealltwriaeth dda o brofiadau plant a theuluoedd sydd angen help ac amddiffyniad. Mae ymarferwyr yn deall eu rolau, mae gwybodaeth yn cael ei rhannu'n effeithlon, ac mae lleisiau plant yn cael eu clywed."

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu ymrwymiad Caerdydd i gefnogi, diogelu a sicrhau gwelliant parhaus mewn addysg a gwasanaethau plant ac mae'n adlewyrchu'r gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud i sefydlu diwylliant o ddiogelu ar draws yr Awdurdod Lleol, sy'n cael ei hyrwyddo fel cyfrifoldeb i bawb ar y cyd."

Darllenwch fwy yma

 

Y Cyngor yn helpu clwb criced y ddinas i oresgyn fandaliaeth a hiliaeth

Ddwy flynedd yn ôl, ar ddiwedd tymor llwyddiannus, roedd Clwb Criced Llandaf yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair, gan gyflwyno'r gamp i fenywod, bechgyn a merched, yn ogystal â pharhau i ddringo'r tablau cynghrair lleol gyda'i dîm hŷn.

Yna, ym mis Hydref 2022, ymosododd fandaliaid difeddwl ar y clwb a dorrodd i mewn i'w bafiliwn yng Nghaeau Llandaf, difrodi ei offer a chwistrellu graffiti adain dde eithafol ar y waliau, gan ddychryn aelodau'r clwb, yr oedd llawer ohonynt wedi treulio blynyddoedd yn ei ddatblygu'n brif ran o'r gymuned leol.

Yn ddi-ofn, penderfynodd y clwb ailgydio'n gryfach mewn pethau a dechrau ar ymgyrch cyllido torfol i gymryd lle'r offer a, chyda chymorth Cyngor Caerdydd, sy'n berchen ar Gaeau Chwarae Llandaf, negodi prydles 25 mlynedd, gan ei roi mewn sefyllfa sicr ar gyfer datblygu yn y dyfodol. 

Bellach, mae dyfodol disglair i Glwb Criced Llandaf unwaith eto.

Rhan allweddol o'i adferiad fu creu cyfleuster rhwydi ymarfer newydd sy'n edrych dros ei dir yng Nghaeau Llandaf. 

Mae'r cyfleuster, sydd ar dir lle safai cyrtiau tenis unwaith nas defnyddiwyd, ac a ddatblygwyd gyda chymorth Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Chwaraeon Cymru a Gemau Stryd Cymru, cystal ag unrhyw un o'r rhwydi artiffisial ym mhencadlys cyfagos Clwb Criced Morgannwg ac fe'i dadorchuddiwyd mewn seremoni dros y penwythnos yr aeth Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a'r Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau, ynghyd ag Aelod Cynulliad yr ardal, Mark Drakeford, ac AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, iddi.

"Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o allu helpu'r clwb ar ôl digwyddiadau ofnadwy 2022," meddai'r Cynghorydd Burke.  "Mae Clwb Criced Llandaf wedi bod yn symbol o amrywiaeth yng Nghaerdydd ers amser maith ac mae'n dod â chriced i'r gymuned ehangach trwy ei dimau iau, merched a menywod. Rydym yn gobeithio, gyda'r brydles 25 mlynedd newydd yn ei lle, fod gan y clwb lwyfan cadarn i dyfu a chyflwyno hyd yn oed mwy o bobl i'r gamp."

Mewn araith yn y digwyddiad, canmolodd y Cynghorydd Thomas ymdrechion tîm y cyngor a oedd wedi atgyweirio ac addurno'r pafiliwn i gael gwared ar y graffiti tramgwyddus, fel bod modd ei ddefnydd eto ar gyfer y tymor hwn. Mae'r tîm hefyd wedi helpu'r clwb i drefnu prydles y tir, sy'n cynnwys darn o dir a glustnodwyd ar gyfer pafiliwn newydd.

Canmolodd y Cynghorydd Thomas aelodau'r clwb a oedd wedi gweithio'n galed i sicrhau ei fod wedi goresgyn y trawma yn gryfach nag erioed.

Dywedodd fod y cyngor yn cefnogi chwaraeon ledled y ddinas, gan ei alw'n 'fwled arian' a all ddod â chymunedau a chenedlaethau ynghyd, gwella cydlyniant cymdeithasol ac ymgorffori ethos 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' yr awdurdod. 

Darllenwch fwy yma