Back
Datgelu cynllun gweithredu a gynlluniwyd gan y gymuned leol ar gyfer Trelái a Chaerau

14/05/24 

Mae pecyn o fesurau - sydd wedi'i gynllunio i wella bywydau pobl ifanc a'r gymuned leol ar ystadau Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd - wedi cael ei gytuno gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Cafodd y Cynllun - gyda'r nod o fynd i'r afael â'r pryderon a gwella bywydau preswylwyr yn yr ardal - ei greu gan y gymuned leol, gan weithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Roedd gan Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) - sefydliad lleol sydd â hanes hir o gefnogi'r gymuned leol - rôl arweiniol, gan weithio'n agos gyda'r BGC tra'n ymgysylltu'n eang â phreswylwyr o bob oed. Dyluniwyd y dull hwn i sicrhau bod anghenion a dyheadau pobl Caerau a Threlái yn greiddiol i'r cynllun cymunedol a'i fod yn cael ei sbarduno o lawr gwlad i fyny.

Mae'r cynllun y cytunwyd arno, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, 14 Mai, wedi nodi 40 o amcanion sy'n canolbwyntio ar chwe thema allweddol:

  1. Plant a phobl ifanc
  2. Diogelwch cymunedol a diogelu
  3. Mannau a'r amgylchedd
  4. Iechyd a lles
  5. Cyflogaeth, safonau byw a chostau byw
  6. Cyfathrebu a datblygu cymunedau

 

Mae neges ar y cyd gan y Grŵp Llywio Cymunedol sydd wedi cefnogi datblygiad y Cynllun Cymunedol yn nodi: "Fe wnaeth digwyddiadau Mai 2023 beri gofid i bawb ac ysgogi ymdeimlad o ysbryd cymunedol a phenderfyniad i ddod at ein gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn Nhrelái a Chaerau. Gyda gwahoddiad a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Swyddfa'r Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cychwynnodd ACE ar ymarfer gwrando mawr i nodi cryfderau a brwydrau ein cymuned a thrwy gydweithio rydym wedi datblygu cynllun cymunedol ar gyfer Trelái a Chaerau.

"Clywsom gan 1,234 o bobl rhwng Awst a Rhagfyr 2023, mewn digwyddiadau agored, grwpiau, arolygon a sgyrsiau. Mae pobl yn Nhrelái a Chaerau yn poeni'n fawr am ein cymuned a rhannwyd amrywiaeth eang o syniadau i helpu i wneud pethau'n well i bawb sy'n byw yma. Casglwyd bron 4,000 o sylwadau ar draws 47 o ddigwyddiadau. Gwnaethom grwpio'r materion allweddol a gododd pobl yn 6 thema eang. Yn ystod gwanwyn 2024, daethom â 96 o breswylwyr a 52 o bartneriaid y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd mewn 7 gweithdy cymunedol i dreiddio'n ddyfnach i'r materion a gyda'n gilydd aethom ati i ddylunio camau gweithredu cadarnhaol a diriaethol i wneud gwahaniaeth ar draws pob un o'r 6 thema.

"Yn ystod pob cam, mae'r cynllun cymunedol hwn wedi cael ei gyd-greu gyda phreswylwyr o bob oed, pobl sy'n gweithio yma, gwasanaethau cyhoeddus a Chyngor Caerdydd. O sesiynau mapio cynnar mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol, i'r Grŵp Llywio Cymunedol o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cyfarfod bob mis i arwain, gofyn cwestiynau, ac yn y pen draw llofnodi'r 40 cam gweithredu yn y Cynllun Cymunedol hwn. Mae llawer o'r camau gweithredu i'r cyngor neu wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys ysgolion lleol a'r heddlu) eu cyflawni; mae rhai i grwpiau lleol ac elusennau eu harwain. Mae pob un ohonynt yn ymateb i'r anghenion a'r syniadau a rannwyd gan y gymuned. Gyda'n gilydd, rydym wedi llunio cynllun y credwn a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf."

Bydd y cynllun, y cytunwyd arno, yn gweld tua £2m o gyllid grant a sicrhawyd o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a Chyngor Caerdydd, yn cael ei fuddsoddi yn yr ardal dros y flwyddyn nesaf.

 

  • Mae'r cynlluniau a gytunwyd yn y cynllun yn cynnwys:
  • Datblygu darpariaeth ieuenctid gynaliadwy ar y stryd i ddatblygu a gwella'r berthynas gyda phobl ifanc
  • Lansio man pwrpasol newydd i ieuenctid yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
  • Cyflwyno rhaglen arweinwyr ifanc mewn ysgolion uwchradd lleol
  • Darparu camau i darfu ar droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u hatal
  • Datblygu rhaglenni pwrpasol i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn addysg na chyflogaeth
  • Darparu prentisiaethau, swyddi a hyfforddiant drwy Addewid Caerdydd
  • Gweithredu dan arweiniad y gymuned i wella mannau gwyrdd, parciau a'r amgylchedd lleol
  • Cynyddu'r ddarpariaeth iechyd meddwl benodol ar gyfer y glasoed
  • Darparu cymorth cyflogaeth wedi'i dargedu i'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur
  • Cyflwyno cyfeirlyfr a gwefan gymunedol
  • Cefnogi a datblygu dinasyddiaeth weithgar leol

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae'r Cynllun Cymunedol ar gyfer Trelái a Chaerau yn adlewyrchu gweledigaeth gyfunol preswylwyr, sefydliadau lleol ac awdurdodau sy'n cydweithio i greu cymuned gryfach, fwy gwydn. Mae'r Cyngor yn rhannu uchelgais y gymuned ar gyfer lleoedd newydd i blant a phobl ifanc. Rydym nawr eisiau gweithio gyda phobl ifanc Trelái a Chaerau, gyda phartneriaid, a Llywodraeth Cymru i wneud i hyn ddigwydd.

"Roedd, ac mae hyn, i gyd am yr hyn y mae pobl Trelái a Chaerau wedi dweud wrthym sydd ei angen arnynt i ail-ddatblygu eu cymuned ar ôl digwyddiadau trasig y llynedd. Bydd y gymuned leol a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus nawr yn cydweithio i gyflawni'r cynllun dros y 12 mis.

"Er bod y rhan fwyaf o'r camau hyn yn ymrwymiadau blwyddyn ac yn cael eu hariannu ar y sail honno - bydd hyn yn ysgogi ffyrdd newydd o weithio ac yn rhoi dulliau newydd ar brawf, a allai gael effaith barhaol yn yr ardal, ac a allai hefyd ein helpu i lunio'r ffordd rydym yn ceisio creu cymunedau gwydn ledled Caerdydd yn y dyfodol."

Dywedodd Jane Hutt, y Trefnydd a'r Prif Chwip, sydd wedi cadeirio'r Grŵp Cyfeirio Cymunedol dros y flwyddyn ddiwethaf: "Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi dod â phobl sy'n byw ac yn gweithio yma yn Nhrelái a Chaerau at ei gilydd gyda sefydliadau lleol, gwasanaethau cyhoeddus, a'r cyngor i helpu'r gymuned i wella ar ôl trasiedi a gwella bywydau pobl ifanc sy'n byw yn yr ardal.

"Nawr yw'r amser i syniadau gan y grŵp gweithredu gael eu datblygu ymhellach ac edrychaf ymlaen at weld gweledigaeth bwerus y gymuned yn gwneud gwahaniaeth am flynyddoedd i ddod."

Bydd ACE yn cynnal digwyddiad lansio cymunedol yn Hyb Trelái Caerau ddydd Mercher, 15 Mai, 10am-1pm, lle bydd y gymuned leol yn gallu galw heibio a gofyn cwestiynau am y cynllun a'i nodau a'i amcanion.

Mae'r cynllun llawn ar gael i'w ddarllen  yma [aceplace.org/community-plan]  a bydd fersiynau copi caled o'r cynllun ar gael i'w casglu yn Hyb Trelái Caerau ac yn y Dusty Forge.