13.5.24
Mae camlas gyflenwi'r dociau Caerdydd, a adeiladwyd yn y 1830au, wedi dechrau cyfnod newydd yn ei hanes yn ddiweddar, pan ddatgelwyd rhan o ddyfrffordd y ddinas a oedd wedi'i chuddio o dan Ffordd Churchill yng nghanol dinas Caerdydd ers 1948.
Nawr, mae codau QR y gellir eu sganio gan ffôn clyfar i gysylltu â gwybodaeth am y gamlas, wedi'u gosod ar hyd y llwybr cyfan - o'i tharddle yn y Gored Ddu i'r Pierhead ym Mae Caerdydd - i ffurfio 'Taith Camlas Gyflenwi'r Dociau Caerdydd' newydd sy'n gwneud hanes y gamlas hyd yn oed yn fwy hygyrch. Gellir dilyn y daith hefyd yn rhithiol ar wefan historypoints.org.
Yr olygfa i'r de ar hyd yr hyn sydd bellach yn Ffordd Churchill yng nghanol yr 20fed Ganrif, mae'r union ddyddiad yn anhysbys.
(Credyd llun: Llyfrgelloedd Caerdydd)
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Roedd y gwaith o adeiladu camlas gyflenwi'r dociau yn rhan annatod o'r fasnach lo a sbardunodd lawer o ddatblygiad Caerdydd ac mae ailagor Ffordd Churchill yn ddiweddar yn golygu ei bod hefyd yn rhan fawr o ddyfodol y ddinas. Gobeithio y bydd y llwybr newydd hwn yn galluogi pobl i ddarganfod mwy am yr hanes cyfoethog sydd weithiau'n cuddio ychydig o dan yr wyneb."
Mae'r daith newydd, a grëwyd gyda chefnogaeth Cyngor Caerdydd, y mae'r codau yn cael eu harddangos ar ei eiddo, yn rhan o'r prosiect 'HistoryPoints'. Nod y prosiect, a sefydlwyd yn 2012, yw helpu pobl i gysylltu â hanes lleol gan ddefnyddio eu ffonau clyfar.Ers hynny, mae'r sefydliad nid er elw wedi gosod codau QR ar fwy na 2,200 o bwyntiau o ddiddordeb hanesyddol ledled Cymru.
Ffôn symudol yn sganio cod QR HistoryPoints. (Credyd llun: Cyngor Caerdydd)
Ers 2019 mae codau QR HistoryPoints yng Nghaerdydd wedi datgelu sut y gwnaeth Camlas Sir Forgannwg, ar un adeg, dreiddio drwy'r ddinas. Mae miloedd o bobl wedi gweld yr wybodaeth a'r lluniau hanesyddol, ac ysbrydolodd hyn y prosiect i greu taith debyg ar hyd camlas gyflenwi'r dociau.
Dywedodd sylfaenydd HistoryPoints, Rhodri Clark: "Mae hanes camlas gyflenwi'r dociau yn mynd yn ôl i'r oesoedd canol. Trawsnewidiwyd yr hyn a ddechreuodd fel nant, a oedd yn pweru olwynion melin, yn ddarn allweddol o seilwaith diwydiannol, menter a hyrwyddwyd gan Ardalydd Bute.
"Roedd glo o dde Cymru yn arfer pweru'r byd ac, ar un adeg, Caerdydd oedd porthladd prysuraf y byd ar gyfer allforion. Roedd y porthladd yn dibynnu ar gamlas gyflenwi'r dociau - ac mae dilyn ei llwybr trwy'r ddinas yn cynnig cipolwg diddorol ar hanes a datblygiad Caerdydd i'r ddinas fodern a welwn nawr."
Llong yn mynd i Ddoc Gorllewin Bute tua 1902 (ffynhonnell anhysbys)
Pum peth efallai nad ydych chi'n gwybod am Gamlas Gyflenwi'r Dociau Caerdydd: