Back
Gofalwr maeth o Gaerdydd yn rhannu rysáit teuluol mewn llyfr coginio sydd â chefnogaeth gan enwogion


 

13/5/24 

Fe gyfrannodd Claire rysáit i ‘Dewch â rhywbeth at y bwrdd', llyfr newydd sy'n llawn dop â ryseitiau ac atgofion maethu trawsffurfiol, gan ofalwyr a phobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal .

Mae Claire yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiadau o faethu yn annog rhagor o bobl i ddod yn ofalwyr.

 

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth™ eleni, mae Maethu Cymru Caerdydd yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

 

Mae ymchwil ddiweddar gan Maethu Cymru - y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol - yn dangos nad yw pobl yn gwneud cais i ddod yn ofalwyr oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a'r profiad ‘cywir'.

 

Yn eu llyfr newydd - Dewch â rhywbeth at y bwrdd - mae Maethu Cymru'n tynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig - megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda'r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

 

Mae gan Dewch â rhywbeth at y bwrdd dros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

 

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; beirniad Young MasterChef, Poppy O'Toole; a'r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys yr athletwraig ac ymgyrchydd dros ofal maeth, Fatima Whitbread, a fu mewn gofal.

 

Fe gyfrannodd cyn-gystadleuydd y Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a'r ddigrif-wraig Kiri Pritchard McLean ryseitiau hefyd - gan dynnu o'u profiadau personol fel gofalwyr maeth.

 

Pan gyrhaeddodd y bobl ifanc gartref Claire, roedden nhw'n arfer cymryd bwyd o'r cypyrddau a chuddio bwyd yn eu pocedi i'w bwyta yn ddiweddarach. "Doedden nhw erioed wedi bwyta fel teulu", esboniodd Claire. "Mae eistedd lawr fel teulu nawr yn rhywbeth rydyn ni'n ei wneud bob dydd, mae'n amser gwych i sgwrsio am y diwrnod a hefyd amser i gael jôc, siarad am bethau rydyn ni wedi'u gwneud yn y dydd a'r lleoedd rydyn ni wedi bod."

 

Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn rhannu profiadau go iawn

 

I lansio'r llyfr bydd Colleen Ramsey, awdur ‘Bywyd a Bwyd, Life Through Food', yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Byddant yn dysgu rysáit newydd  a sgiliau coginio hollbwysig i gymryd gyda nhw i'w bywydau annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y llyfr coginio hefyd.

 

Sophia Warner, Cymraes sy'n ddarlunydd, ymgyrchydd ac yn berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal greodd ddarluniau a rhagair y llyfr:

 

"Pan oeddwn i'n iau, dw i'n cofio croesholi fy mam faeth ynglŷn â tharddiad y bwyd y byddai'n ei baratoi. Roeddwn i'n mynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, sef milltir sgwâr fy mhlentyndod. Fe ysgrifennais ‘Bolognese Aberhonddu' ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

"Mae'r rysáit yn annwyl iawn i mi, gan mai dyma'r pryd o fwyd cyntaf ges i pan symudais i mewn i'm cartref maeth. Soniais fod fy mam enedigol arfer ei baratoi i mi, ac aeth fy mam faeth ati i'w baratoi i mi. Wrth i mi eistedd wrth y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, cefais deimlad cynnes - teimlais fy mod yn perthyn a chefais groeso cynnes."

Mae angen rhagor o deuluoedd maeth ledled Cymru

 

Bob mis Mai mae Pythefnos Gofal Maeth™ - ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau. Mae'r ymgyrch yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr maeth.

Yng Nghymru mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Mae Maethu Cymru wedi cychwyn ar eu nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Mae'r llyfr coginio ‘Gall pawb gynnig rhywbeth' yn ddathliad gwych o'r peth syml hwnnw - pryd cartref - yn ogystal â'r gofalwyr maeth gwych sydd wedi cyfrannu'r ryseitiau blasus hyn at y llyfr. Yma yng Nghaerdydd, rydym yn falch iawn o weld bod Claire wedi'i chynnwys.

 

"Rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth ac annog pawb i edrych ar y llyfr coginio - rydyn ni'n gobeithio y bydd wir yn codi awydd ar unrhyw un sy'n gallu darparu cartref cefnogol a meithringar i blant a phobl ifanc dan ein gofal.

 

"Rhowch gynnig ar y ryseitiau, mwynhewch fwyd blasus ond yn bwysicaf oll, meddyliwch beth allech chi ei gynnig. Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bawb a allai gamu i'r adwy."

 

 

Bydd y llyfr coginio'n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru, a gellir lawrlwytho fersiwn digidol o: https://maethucymru.llyw.cymru/gall-pawb-gynnig-rhywbeth/

 

Er mwyn darganfod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yng Nghaerdydd, ewch i https://caerdydd.maethucymru.llyw.cymru/