13.05.23
Ddwy flynedd yn ôl, ar ddiwedd tymor
llwyddiannus, roedd Clwb Criced Llandaf yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair,
gan gyflwyno'r gamp i fenywod, bechgyn a merched, yn ogystal â pharhau i
ddringo’r tablau cynghrair lleol gyda'i dîm hŷn.
Yna, ym mis Hydref 2022, ymosododd
fandaliaid difeddwl ar y clwb a dorrodd i mewn i'w bafiliwn yng Nghaeau
Llandaf, difrodi ei offer a chwistrellu graffiti adain dde eithafol ar y
waliau, gan ddychryn aelodau'r clwb, yr oedd llawer ohonynt wedi treulio blynyddoedd
yn ei ddatblygu'n brif ran o'r gymuned leol.
Yn ddi–ofn, penderfynodd y clwb
ailgydio’n gryfach mewn pethau a dechrau ar ymgyrch cyllido torfol i gymryd
lle'r offer a, chyda chymorth Cyngor Caerdydd, sy'n berchen ar Gaeau Chwarae
Llandaf, negodi prydles 25 mlynedd, gan ei roi mewn sefyllfa sicr ar gyfer
datblygu yn y dyfodol.
Bellach, mae dyfodol disglair i Glwb
Criced Llandaf unwaith eto.
Rhan allweddol o'i adferiad fu creu
cyfleuster rhwydi ymarfer newydd sy'n edrych dros ei dir yng Nghaeau
Llandaf.
Mae’r cyfleuster, sydd ar dir lle
safai cyrtiau tenis unwaith nas defnyddiwyd, ac a ddatblygwyd gyda chymorth
Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Chwaraeon Cymru a Gemau Stryd Cymru, cystal ag
unrhyw un o'r rhwydi artiffisial ym mhencadlys cyfagos Clwb Criced Morgannwg ac
fe'i dadorchuddiwyd mewn seremoni dros y penwythnos yr aeth Arweinydd Cyngor
Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a'r Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod
Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau, ynghyd ag Aelod
Cynulliad yr ardal, Mark Drakeford, ac AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan,
iddi.
Mewn araith yn y digwyddiad,
canmolodd y Cynghorydd Thomas ymdrechion tîm y cyngor a oedd wedi atgyweirio
ac addurno'r pafiliwn i gael gwared ar y graffiti tramgwyddus, fel bod modd ei
ddefnydd eto ar gyfer y tymor hwn. Mae'r tîm hefyd wedi
helpu'r clwb i drefnu prydles y tir, sy'n cynnwys darn o dir a glustnodwyd ar
gyfer pafiliwn newydd.
Canmolodd y Cynghorydd Thomas
aelodau'r clwb a oedd wedi gweithio'n galed i sicrhau ei fod wedi goresgyn y
trawma yn gryfach nag erioed.
Dywedodd fod y cyngor yn cefnogi chwaraeon ledled y ddinas, gan ei alw'n
'fwled arian' a all ddod â chymunedau a chenedlaethau ynghyd, gwella cydlyniant
cymdeithasol ac ymgorffori ethos 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' yr awdurdod.
Roedd Prem Sisodiya, un o chwaraewyr proffesiynol Morgannwg, wrth law i
brofi'r cyfleusterau newydd a rhoi rhai o aelodau iau'r clwb ar brawf.
"Roedd fy nhad yn rhan o'r clwb yma flynyddoedd yn ôl," meddai,
"ac rwy'n gwybod ei fod yn rhan enfawr o'r gymuned, gyda'i sesiynau
hyfforddi i bobl ifanc bob nos Wener.
"Mae cael cyfleusterau fel hyn
yn hollol enfawr wrth gyflwyno pobl ifanc i'r gêm a’u datblygu,"
ychwanegodd.
Sefydlwyd Clwb Criced Llandaf drwy uno Clwb Criced Gymkhana Caerdydd a Chlwb Criced Asiaid Cymru ym mis Medi 2019 ac mae bellach yn gwasanaethu amrywiaeth eang o gricedwyr gan gynnwys rhannau helaeth o gymuned De Asia Caerdydd.
Mae'r clwb wedi tyfu ac arallgyfeirio'n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 13 tîm ar draws pob grŵp rhywedd a grŵp oedran yn 2021, i 20 yn 2023. Erbyn hyn mae ganddo tua 200 o aelodau. Mae hyn yn cynnwys twf sylweddol yn sylfaen chwaraewyr benywaidd y clwb, y mae'r clwb yn dweud ei fod yn un o'i brif flaenoriaethau ar hyn o bryd.
Dywedodd Cadeirydd y clwb, Sohail Rauf, fod adferiad y clwb "yn profi'r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw cymunedau ynghyd a gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr lleol ac arweinwyr gwleidyddol.
"Mae ein dyled yn enfawr i bawb a helpodd wireddu hyn - ein haelodau, ein gwirfoddolwyr, ein noddwyr, ein sylfaenwyr, Cyngor Caerdydd a phawb a gyfrannodd at ein hymgyrch cyllido torfol, a'i rhannodd. Hoffem ddiolch yn arbennig am y cyngor a gawsom gan Griced Cymru, y mae ei gefnogaeth wedi bod yn aruthrol.
“Yn y pen draw, mae hyn yn golygu mwy o
fynediad at chwaraeon tîm awyr agored diogel i blant yng nghanol Caerdydd waeth
beth fo'u hamgylchiadau. Mae hyn yn beth da iawn i'n cymuned."