Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 10 Mai 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Cynigion i warchod mannau gwyrdd yng Nghaerdydd
  • Y 2,500 o wirfoddolwyr yn helpu coedwig ddinesig Caerdydd i dyfu 
  • Agorwyd Ysgol Gynradd Llaneirwg yn swyddogol
  • Gweddnewidiad prosiect celf yn creu cwtsh darllen newydd i ysgol

 

Cynigion i warchod mannau gwyrdd yng Nghaerdydd

Gallai un ar ddeg o barciau a mannau gwyrdd yng Nghaerdydd gael eu gwarchod yn barhaol rhag datblygiad yn y dyfodol os yw cynlluniau Cyngor Caerdydd yn cael sêl bendith.

Yn amodol ar ganlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos, mae'r Cyngor yn cynnig ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gyda Fields In Trust - elusen annibynnol ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.

Mae Fields In Trust yn gwarchod parciau unigol rhag datblygiad yn gyfreithiol ac yn sicrhau eu bod yn parhau i fod fannau gwyrdd sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae deg safle sy'n eiddo i'r cyngor eisoes wedi'u gwarchod yn barhaol o dan y trefniadau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Ni fyddai Caerdydd yn Gaerdydd heb ei pharciau a'i mannau gwyrdd - maen nhw'n lleoedd hanfodol ar gyfer chwarae a lles cymdeithasol, maen nhw'n ein cysylltu â'r byd natur ar garreg ein drws, yn cefnogi bioamrywiaeth, yn gwella ansawdd yr aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu ac yn gallu helpu i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.

"Bydd ymrwymo i'r cytundeb hwn gyda Fields In Trust yn fwy na dyblu nifer parciau Caerdydd sydd wedi'u gwarchod yn barhaol ac yn gyfreithiol rhag datblygiad, gan sicrhau y byddan nhw'n parhau i fod o fudd i genedlaethau i ddod ac yn golygu bod 254,000 o drigolion - 69% o'r boblogaeth - yn byw o fewn taith gerdded 10 munud i fan gwyrdd gwarchodedig."

Darllenwch fwy yma

 

2,500 o wirfoddolwyr yn helpu coedwig ddinesig Caerdydd i dyfu 30,000 o ran ei maint

Heriodd 2,500 o wirfoddolwyr cymunedol un o'r gaeafau gwlypaf a gofnodwyd erioed er mwyn helpu i blannu 30,000 o goed mewn dim ond 6 mis, fel rhan o brosiect i greu coedwig ddinesig yng Nghaerdydd.

"Mae'r amodau gwlyb yn wych ar gyfer y coed newydd," eglurodd Rheolwr y Prosiect, Chris Engel, "maen nhw'n amsugno'r cyfan, ond roedd yn golygu i ni gael rhai diwrnodau eithaf mwdlyd. Ond dyw e byth yn dampio'r ysbryd. Mae plannu coed nid yn unig yn dda i'r blaned, mae'n dda i'r enaid hefyd a hyd yn oed os aethon nhw adref yn fwd o'u corun i'w sawdl, dwi ddim yn cofio diwrnod pan nad oedd gwên ar wynebau ein gwirfoddolwyr chwaith."

Wedi'i sefydlu yn 2021 fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd, mae prosiect Coed Caerdydd (Coedwig Caerdydd) wedi arwain at blannu 80,000 o goed newydd mewn 280 o wahanol safleoedd yng Nghaerdydd, gan gynnwys mwy na 100 o barciau a mannau agored, 17 ysgol wahanol ac 11 safle cymunedol yn ogystal ag ar dir preifat. Y tymor hwn mae'r prosiect wedi cynyddu ei ffocws ar goed stryd, gyda mwy na 200 o goed stryd mawr newydd wedi'u plannu ar strydoedd sydd heb orchudd canopi coed neu braidd dim o gwbl.

Wrth gofio am wirfoddoli gyda'r prosiect, dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke; "Ro'n i'n lwcus gyda'r tywydd felly efallai na chefais y profiad llawn, ond roedd y cyfuniad o fod yn yr awyr agored a gwneud rhywbeth 'ymarferol' i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn brofiad cadarnhaol iawn. Rwy'n gallu gweld pam fod llawer o'n gwirfoddolwyr yn dychwelyd wythnos ar ôl wythnos - mae'n bendant yn rhywbeth y byddwn i'n annog eraill i gymryd rhan ynddo.

"Mae'r hyn a gyflawnwyd trwy Goed Caerdydd mewn tri thymor plannu byr yn gyflawniad gwych - tua 24 hectar o dir wedi eu plannu â choed newydd a fydd wrth iddynt dyfu yn helpu i amsugno allyriadau carbon, lleihau llygredd aer, cefnogi bioamrywiaeth, ac yn bwysig iawn os ydym am barhau i gael y math o aeafau rydyn ni newydd eu cael,  helpu i leihau'r perygl o lifogydd."

Darllenwch fwy yma

 

Agor Ysgol Gynradd newydd sbon yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn swyddogol

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg wedi dathlu agoriad swyddogol ei hadeilad newydd sbon gwerth £6m yn ystod digwyddiad arbennig ym mhresenoldeb Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.

Gwnaeth y gwesteion fwynhau perfformiad gan rai o ddisgyblion yr ysgol a thaith o amgylch yr adeilad. Mae'r ysgol newydd  yn natblygiad Sant Edern i'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau ac agorodd ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Medi ar ôl adleoli o'i hen safle yn Llanrhymni.

Wedi'i chyflwyno'n rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd gan Halsall Construction ar ran Persimmon Homes, mae'r ysgol newydd yn un 1 dosbarth mynediad, gyda lle i 210 o ddisgyblion gan gynnwys meithrinfa ran amser 48 lle gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (â lle i 420) yn y dyfodol. Mae cyfleuster cymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiol sy'n cynnig buddion i'r gymuned ehangach.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Rwyf wedi bod yn falch iawn o allu mynd i agoriad swyddogol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, sydd ers dechrau'r flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi, wedi dechrau ar bennod newydd gyffrous, gan ei sefydlu ei hun yn ased yng nghalon ei chymuned.

"Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd dysgu modern, effeithlon ac ysbrydoledig i staff a disgyblion, ac yn ogystal, mae'r cyfleusterau cymunedol yn yr ysgol yn rhoi mynediad i deuluoedd a thrigolion lleol i ystod o gyfleoedd. 

"Rwy'n edrych ymlaen at weld yn uniongyrchol sut y bydd yr adeilad newydd hyfryd hwn yn ei leoliad newydd, yn tyfu ac yn helpu i fodloni'r cynnydd yn y galw am leoedd ysgol i blant o Hen Laneirwg, Pontprennau, Llanrhymni a'r rhai sy'n byw yn natblygiad Sant Edern."

Darllenwch fwy yma

 

Prosiect celf lleol yn creu cwtsh darllen newydd i'r ysgol

Mae hen ardal ystafell gotiau lom mewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael ei thrawsnewid yn hafan ddarllen, diolch i ymdrechion ar y cyd gan dîm Gwasanaethau Gofalu y Cyngor, athrawon ac artistiaid gwirfoddol.

Erbyn hyn, mae gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 Ysgol y Berllan Deg yn Llanedern Gwtsh Darllen lliwgar a chlyd ar ôl i Sean Thomas o'r tîm gwaredu graffiti yn y Gwasanaethau Gofalu gydweithio gydag artistiaid lleol, Gary ac Amanda Piazzon, i weddnewid y gofod.

Syniad y plant oedd y prosiect, a oedd wedi sicrhau cyllid i brynu adnoddau darllen newydd gan Ffrindiau, sef Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol, ac a oedd eisiau ardal ddiogel a chyfforddus yn yr ysgol i fwynhau darllen a gweithio.

Aeth yr ysgol at City Art Project, menter a sefydlwyd gan Sean yn ei amser sbâr ei hun i wneud y mwyaf o dalentau artistiaid gwirfoddol lleol a chreu gwaith celf deniadol ledled y ddinas. Mae'r prosiect wedi trawsnewid tanffyrdd, cypyrddau cyfleustodau, waliau allanol ar adeiladau ysgol ac yn awr, y gornel fach hon o Ysgol y Berllan Deg, gan ddefnyddio paent a roddwyd gan gontractwyr y Cyngor drwy eu gweithgareddau gwerth cymdeithasol.

Travis Perkins oedd yn darparu'r cyflenwadau i Sean, Amanda a Gary fynd ati i weithio ar y waliau, a chafodd carped newydd ei roi a'i ffitio gan un o gydweithwyr Sean, Shaun Brady a'i frawd, Craig Brady.

Dywedodd Sian Ward, athrawes Ysgol y Berllan Deg a gydlynodd y prosiect gyda Sean: "Mae cynnwys City Art Project wedi ein galluogi i wneud i'r ystafell edrych yn hyfryd a dyma'r lle anhygoel yr oedd y plant a'r staff wedi'i ddymuno. Mae'r gwaith paent a'r dyluniadau celf a gwblhawyd gan Gary, Amanda a Sean wedi trawsnewid yr ystafell gan ddefnyddio syniadau ac awgrymiadau'r plant fel cynnwys.

"Mae CRhA yr ysgol hefyd wedi cefnogi'r plant ymhellach drwy ddarparu dodrefn a sachau ffa er mwyn gwella'r gofod. Mae'r lloriau newydd wedi helpu i greu amgylchedd cyfforddus a glân. Rydym yn gyffrous iawn i ddefnyddio ein Cwtsh Darllen!"

Darllenwch fwy yma