10.05.24
Howzat! Mae un o glybiau criced amatur mwyaf blaenllaw
Caerdydd yn dathlu gyda chyfleusterau cymunedol newydd ar ôl gwrthod cael eu
maeddu gan fandaliaid a graffiti hiliol.
Cafodd llawer o offer Clwb Criced Llandaf, yng Nghaeau Llandaf, ei ddinistrio a chafodd y pafiliwn sloganau asgell dde eithafol wedi eu paenti arno mewn ymosodiad ar y safle ar ddiwedd tymor 2022.
Ond diolch i ddull rhagweithiol a phenderfynol a welodd y clwb yn sefydlu ymgyrch ariannu torfol a helpodd i brynu offer newydd yn lle’r rhai a ddygwyd, a diolch i waith Cyngor Caerdydd yn trwsio ac addurno'r pafiliwn er mwyn cael gwared ar y graffiti, mae’r cyfleusterau nôl ar waith ar gyfer y tymor hwn.
Mae cefnogaeth adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Caerdydd, ynghyd â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Gemau Stryd Cymru a Chwaraeon Cymru, wedi helpu i roi'r clwb yn ôl ar y droed a pharhau i ddatblygu fel un o ddarparwyr criced iau mwyaf Cymru.
Dywedodd ysgrifennydd Clwb Criced Llandaf, Adnan Haddadi: "Pan gafodd y pafiliwn roedden ni’n ei ddefnyddio yng Nghaeau Llandaf ei fandaleiddio ym mis Hydref 2022 bu’n rhaid i ni daflu ein holl offer a chychwyn ymgyrch ariannu torfol ar gyfer cost yr offer newydd, tua £6,000. Roedd yn ymateb anhygoel ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb a helpodd.
"Yn ogystal â'r offer, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r Cyngor i adnewyddu'r brydles ar dir yng Nghaeau Llandaf ac erbyn hyn mae gennym gyfleusterau rhwydi newydd gwych ar ddau o'r hen gyrtiau tenis ac ardal o dir lle gallwn hyfforddi a lle rydyn ni’n gobeithio codi pafiliwn newydd ymhen ychydig flynyddoedd."
I nodi'r hyn y mae'r clwb yn ei alw'n 'gam tyngedfennol' ar ei daith o dwf ac adferiad, mae'n dadorchuddio ei gyfleusterau newydd ar ddydd Gwener, 10 Mai gyda sesiwn hyfforddi agored gyda chwaraewyr proffesiynol o Forgannwg ynghyd â chynrychiolwyr y Cyngor, gan gynnwys yr arweinydd y Cynghorydd Huw Thomas a'r Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau.
"Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o allu helpu'r clwb ar ôl digwyddiadau ofnadwy 2022," meddai'r Cynghorydd Burke. "Mae Clwb Criced Llandaf wedi bod yn symbol o amrywiaeth yng Nghaerdydd ers amser maith ac mae'n dod â chriced i'r gymuned ehangach trwy ei dimau iau, merched a menywod. Rydym yn gobeithio, gyda'r brydles 25 mlynedd newydd yn ei lle, fod gan y clwb lwyfan cadarn i dyfu a chyflwyno hyd yn oed mwy o bobl i'r gamp."
Dywedodd cadeirydd y clwb, Sohail Rauf: "Mae
adferiad y clwb yn profi'r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw cymunedau at ei
gilydd a gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr lleol ac arweinwyr
gwleidyddol. Yn y pen draw, mae hyn yn
golygu mwy o fynediad at chwaraeon tîm awyr agored diogel i blant yng nghanol
Caerdydd waeth beth fo'u hamgylchiadau. Mae hyn yn beth da iawn i'n
cymuned."