Back
Golau gwyrdd i gynlluniau Ysgol Uwchradd Willows newydd


9/5/2024

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi rhoi sêl bendith i adeiladu cartref newydd sbon ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows ar dir oddi ar Heol Lewis yn y Sblot.

A group of people outside a buildingDescription automatically generated

Mae'r cynllun yn cynrychioli buddsoddiad o fwy na £50m a chaiff yr ysgol bresennol ei hadleoli a'i hailadeiladu, gan ddarparu lle i 900 o ddysgwyr rhwng 11 ac 16 oed yn ogystal â Chanolfan Adnoddau Arbennig 30 lle ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd yn chynnig mynediad i amgylcheddau addysg o ansawdd rhagorol i gefnogi a gwella addysgu a dysgu.

Bydd yr ysgol newydd, a gwblheir dan raglen Band B Llywodraeth Cymru, Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn canolbwyntio ar y gymuned ac yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr fel neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama, caeau 3G a glaswellt, a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol yn yr ardal.

A group of people walking in a parkDescription automatically generated

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae'r realiti o gynnig cartref newydd sbon, modern ardderchog ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows yn symud gam yn nes gyda'r gymeradwyaeth cynllunio. Mae'r datblygiad hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol a bydd yn darparu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr a staff, yn ogystal â chynnig cyfleusterau gwych i'r gymuned gyfan eu mwynhau ac elwa ohonynt.

"Mae cynnydd yr adeilad ysgol newydd yn ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau bod gan holl blant Caerdyddgyfleoedd i ddysgu mewn ysgolion o ansawdd uchel acmae'n cefnogi statws Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n blaenoriaethu hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc, gan eu rhoi wrth wraidd popeth a wnawn."

Dwedodd Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows:  "Mae hyn yn newyddion gwych i'n staff, disgyblion a'r gymuned ehangach.  Mae'r cyffro yn bendant yn adeiladu ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at symud i'r llety newydd sbon gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf.  Bydd yn rhoi hwb enfawr a haeddiannol i'r ardal gyfan."

Yn amodol ar gaffael, disgwylir i brif waith adeiladu'r campws newydd ddechrau yn Haf 2024. Bydd disgyblion yn aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes bod adeilad newydd yr ysgol wedi'i gwblhau i leihau'r posibilrwydd o darfu.


Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y Cyngor mai Morgan Sindall oedd y contractwr a ddewiswyd i gyflawni'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun sydd wedi cynnwys;

  • Gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol, er mwyn caniatáu i'r datblygiad fynd rhagddo
  • Adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle
  • Gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol
  • Cloddio a gwaith tir gan gynnwys gwaredu deunydd llygrol ar ôl tarfu ar y tir
  • Dymchwel yr adeiladau presennol ar Heol Portmanmoor ac ar safle Marchnad y Sblot 
  • Gosod ffensys diogelwch o amgylch ffin y safle

Mae'r contractwyr hefyd wedi symud ymlaen â dyluniad y brif ysgol, o dan gontract cyn-wasanaethau.