8.5.24
Gallai un ar ddeg o barciau a mannau gwyrdd yng Nghaerdydd gael eu gwarchod yn barhaol rhag datblygiad yn y dyfodol os yw cynlluniau Cyngor Caerdydd yn cael sêl bendith.
Yn amodol ar ganlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos, mae'r Cyngor yn cynnig ymrwymo i gytundeb cyfreithiol a elwir yn 'weithred gyflwyno' gydaFields In Trust- elusen annibynnol ledled y DU sy'n ymroddedig i warchod parciau a mannau gwyrdd.
Mae Fields In Trustyn gwarchod parciau unigol rhag datblygiad yn gyfreithiol ac yn sicrhau eu bod yn parhau i fod fannau gwyrdd sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae deg safle sy'n eiddo i'r cyngor eisoes wedi'u gwarchod yn barhaol o dan y trefniadau hyn.
Gerddi'r Faenor - un o'r parciau yng Nghaerdydd sydd eisoes wedi'i warchod gan Fields In Trust.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Ni fyddai Caerdydd yn Gaerdydd heb ei pharciau a'i mannau gwyrdd - maen nhw'n lleoedd hanfodol ar gyfer chwarae a lles cymdeithasol, maen nhw'n ein cysylltu â'r byd natur ar garreg ein drws, yn cefnogi bioamrywiaeth, yn gwella ansawdd yr aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu ac yn gallu helpu i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.
"Bydd ymrwymo i'r cytundeb hwn gyda Fields In Trust yn fwy na dyblu nifer parciau Caerdydd sydd wedi'u gwarchod yn barhaol ac yn gyfreithiol rhag datblygiad, gan sicrhau y byddan nhw'n parhau i fod o fudd i genedlaethau i ddod ac yn golygu bod 254,000 o drigolion - 69% o'r boblogaeth - yn byw o fewn taith gerdded 10 munud i fan gwyrdd gwarchodedig."
Os cytunir gan y Cabinetmewn cyfarfod a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau 16 Mai, bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ym mis Mehefin ar warchod:
Mae'r parciau dethol yn canolbwyntio ar ardaloedd o'r ddinas, naill ai lle mae faint o fannau gwyrdd yn gyfyngedig, lle mae lefelau uwch o dlodi, neu le nad oes unrhyw safleoedd sy'n eiddo i'r Cyngor eisoes wedi'u gwarchod gan Fields In Trust.
Y deg man gwyrdd sy'n eiddo i'r cyngor sydd eisoes wedi'u gwarchod rhag datblygiad am byth gan Fields In Trust yw: Gerddi Alexandra, Gerddi'r Faenor, Parc y Mynydd Bychan, Man Agored Hywel Dda, Parc Llanisien, Parc y Morfa, Caeau Pontcanna, Caeau Pontprennau, Maes Hamdden y Rhath a Maes Hamdden Tredelerch.
Mae dau fan gwyrdd arall yng Nghaerdydd, a reolir gan Gynghorau Cymuned lleol, hefyd yn cael eu gwarchod gan Fields In Trust, sef Maes Hamdden Creigiau a Chae Chwarae Pentref Llaneirwg.
Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd y cynigion yn cael eu craffu gan Bwyllgor Craffu yr Economi a Diwylliant yn ei gyfarfod cyhoeddus am 4.30pm ddydd Mawrth 14 Mai. Mae papurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=8189&LLL=0 lle bydd gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod ar gael ar y diwrnod hefyd.
Bydd cyfarfod y Cabinet yn cael ei gynnal am 2pm ddydd Iau 16 Mai. Bydd holl bapurau'r cyfarfod ar gael cyn y cyfarfod, ynghyd â gwe-ddarllediad byw ar y diwrnod, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8216&LLL=0
Mae dogfen Cwestiynau Cyffredin yn ymwneud â'r cynigion hyn ar gael yma: https://newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33495.html