Back
Cerflun Torwyr Cod y Byd Rygbi yn ennill Gwobr Treftadaeth Chwaraeon

10.5.24

Mae cerflun sy'n anrhydeddu 'Torwyr Cod y Byd Rygbi' chwedlonol Caerdydd wedi ennill categori 'Gwobr Dathlu Treftadaeth Ddu Chwaraeon' yn y Gwobrau Treftadaeth Chwaraeon.

Wedi'i ddadorchuddio ym Mae Caerdydd ym mis Gorffennaf y llynedd, cerflun Billy Boston, Clive Sullivan a Gus Risman yw'r cyntaf erioed yng Nghymru i gynnwys dynion du fu fyw go iawn.

A statue of a group of menDescription automatically generated

Cerflun Torwyr Cod y Byd Rygbi Cymru.

Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan alwadau o gymunedau Butetown a Bae Caerdydd ehangach am deyrnged addas i'r chwaraewyr, a gafodd i gyd eu magu yn agos at y man lle mae eu cerflun bellach yn sefyll, cyn gadael eu tref enedigol a mynd yn eu blaen i ennill enwogrwydd yn y byd chwaraeon.

Arweiniodd Cadeirydd pwyllgor Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd, y dyn busnes a'r  dyngarwr, Syr Stanley Thomas OBE, yr ymdrech i godi arian ar gyfer y cerflun gyda chyfraniad personol hael.

Mynegodd ei lawenydd gyda'r newyddion am y wobr, gan ddweud, "Rwyf wrth fy modd, ar ôl dim ond dwy flynedd o ymgyrchu a chodi arian o fewn y pwyllgor, ein bod wedi gallu dadorchuddio darn mor wych sy'n talu teyrnged i'r eiconau chwaraeon anhygoel hyn yn y ddinas oedd yn golygu cymaint iddynt, Caerdydd.

"Mae clywed am y gydnabyddiaeth i'r prosiect gan y Gwobrau Treftadaeth Chwaraeon, yn enwedig yn y categori Dathlu Treftadaeth Ddu Chwaraeon, yn wych.

"Mae'r fenter hon, sy'n anrhydeddu cyflawniadau rhagorol Billy, Clive, a Gus, tri o chwaraewyr gorau erioed rygbi'r gynghrair, yn sicrhau y bydd eu hetifeddiaeth a stori'r gymuned fywiog, amlddiwylliannol a'u magodd bob amser yn cael eu cofio."

Dywedodd Gaynor Legall, cyd-aelod o bwyllgor Torwyr Cod y Byd Rygbi a Chadeirydd y Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant:"Mae'n galonogol gweld y cerflun a chyflawniadau rhyfeddol y chwaraewyr hyn, yn cael eu cydnabod, yn enwedig fel rhywun a fagwyd yn yr un gymuned."Roedd gosod y cerflun yn golygu llawer i ni, rhywbeth oedd yn edrych fel ni ac oedd amdanom ni a'n stori; roedd yn ffordd o rannu'r balchder oedd gennym ni am yr unigolion hynny â gweddill Cymru. Mae cael cerfluniau sy'n dathlu eu llwyddiannau yn rhywbeth i Gymru gyfan, nid Tiger Bay yn unig."

Roedd Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Is-gadeirydd pwyllgor Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, yn arbennig o falch bod y cerflun wedi cael ei gydnabod yn y categori 'Dathlu Treftadaeth Ddu Chwaraeon', a dywedodd: "Mae'r cyflawniadau chwaraewyr hyn wedi cael eu tanbrisio am yn rhy hir. Daethon nhw â balchder iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, y gamp a'r cymunedau amlddiwylliannol yng Nghaerdydd y cawson nhw eu magu ynddyn nhw ac roedden nhw'n haeddu cael eu dathlu yn eu tref enedigol eu hunain.

"Bydd y cerflun yn ysbrydoliaeth i genedlaethau eto ac rwyf wrth fy modd bod ei gyfraniad i ddathlu treftadaeth ddu chwaraeon wedi cael ei gydnabod gyda'r wobr hon."

Dywedodd Dr Justine Reilly, Rheolwr Gyfarwyddwr Sporting Heritage: "Rydym wrth ein bodd o weld Torwyr Cod y Byd Rygbi Bae Caerdydd yn derbyn y wobr Dathlu Treftadaeth Ddu Chwaraeon.

"Mae'r wobr hon yn tynnu sylw at eu cyflawniadau rhyfeddol ond hefyd eu dylanwad parhaol ar naratif ac etifeddiaeth hanes chwaraeon.  Mae'r cerflun yn symbol pwerus o'u gwydnwch, eu dewrder a'u cyfraniad at lunio tirwedd y byd rygbi a'r tu hwnt."