Back
Celf wal newydd ar gyfer Stryd Tudor lliwgar


 1.5.24

Murlun newydd bywiog yw'r ychwanegiad diweddaraf at waith celf a strydlun lliwgar ffordd a adfywiwyd yn ddiweddar yng nghanol y ddinas.

 

Lili'r dŵr pinc cain yw canolbwynt y paentiad newydd a gynhyrchwyd gan yr artist lleol, Rmer One, ar ochr adeilad Canolfan Iechyd Meddygaeth Tseiniaidd Draddodiadol sy'n eiddo i Mr Pak Hong Lam ar Stryd Tudor.

 

Y murlun yw'r darn mwyaf newydd o gelf yn ardal Stryd Tudor lle mae cynllun adfywio mawr, gan gynnwys gwelliannau masnachol, amgylcheddol a thrafnidiaeth, sydd wedi'i gwblhau yn ddiweddar.

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy ei fentrau Trawsnewid Trefi a Theithio Llesol yn ogystal â buddsoddiad Cyngor Caerdydd, mae'r cynllun wedi darparu amgylchedd dymunol a chroesawgar i fusnesau, trigolion a'r gymuned ehangach gyda ffryntiadau lliwgar newydd i siopau, palmentydd newydd, celfi stryd a goleuadau a seilwaith gwyrdd newydd, gan hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth a gwell ansawdd aer.

Mae yna ynys fysus newydd sy'n hwyluso teithio ar fws i'r Sgwâr Canolog a chanol ehangach y ddinas, lôn feicio ar wahân newydd, palmentydd mwy llydan a chroesfannau gwell i gerddwyr i gyd wedi helpu i wella'r amgylchedd lleol ar hyd Stryd Tudor.

Fel rhan o'r rhaglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd, cafodd Tudor Lane gerllaw hefyd ei weddnewid gyda gwaith celf llachar a lliwgar i addurno ei waliau, arwyddion newydd wrth ei fynedfeydd, baneri llachar a bywiog ar golofnau goleuadau a chafwyd gwelliannau goleuadau stryd yn ogystal â mesurau gostegu traffig.

Dewiswyd y syniad ar gyfer y murlun o lili'r dŵr gan Mr Lam, cyn i Rmer One, crëwr murluniau dinas adnabyddus eraill gan gynnwys Gary Speed ar Heol Lecwydd a ‘Mona Lisa' Caerdydd yn Butetown, gynllunio ac yna peintio'r blodyn cain wedi'i amgylchynu gan ddail lili gwyrdd ffrwythlon.

 

Mewn prosiect ar y cyd â Phrifysgol De Cymru, Rmer One oedd hefyd y tu ôl i'r murlun ar ochr yr hen Glwb Trafnidiaeth, sydd bellach yn gartref i SustainableStudios, darparwr gofod stiwdio fforddiadwy i artistiaid, yn Stryd Tudor. Dyluniwyd y gwaith celf gan fyfyriwr o Brifysgol De Cymru ac yna fe'i peintiwyd gan Rmer One.

 

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Yn dilyn buddsoddiad mawr yn adfywio'r rhan hon o Lan-yr-afon i greu ardal siopa fywiog a ffyniannus i drigolion ac ymwelwyr, mae Stryd Tudor bellach yn doreth o liw, o'r siopau a busnesau aml-donau i'r gwaith celf nodedig sydd wedi'i greu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae murlun newydd Rmer One yn ychwanegiad gwych at yr ardal ddisglair a phrysur hon yng nghanol y ddinas."

 

  • I arddangos eu cynnyrch, bydd y busnesau a'r gwneuthurwyr ar Tudor Lane yn cynnal diwrnod agored arall ddydd Sul 23 Mehefin (11am - 5pm). Croeso i bawb.