Back
Ysgol Gynradd Moorland yn dathlu cwblhau datblygiad ysgol newydd.

 

30/4/2024

Mae gwaith sylweddol i ailddatblygu a gwella cyfleusterau yn Ysgol Gynradd Moorland yn Sblot wedi'u cwblhau. 

Mae'r buddsoddiad o £7 miliwn wedi sicrhau Canolfan Adnoddau Arbenigol newydd ag 20 lle yn yr ysgol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth ac Uned Blynyddoedd Cynnar newydd yr oedd yn hanfodol iddi gael ei diweddaru.

Mae darpariaeth Dechrau'n Deg newydd, Twinkle Star, hefyd wedi'i darparu gan gynyddu nifer y lleoedd o 32 i 40 gyda'r potensial ar gyfer 6 lle cynnig gofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed a fydd ar gael maes o law. Bydd hyn yn galluogi plant i symud draw o'r safle Dechrau'n Deg presennol yn Ysgol Uwchradd Willows sydd i'w hadleoli a'i hailgodi ar dir oddi ar Heol Lewis yn 2026.

Bydd y cyfleuster campws cymunedol newydd yn darparu addysg ynghyd â gwasanaethau cymorth i deuluoedd er budd teuluoedd o'r cyfnod cyn-geni, ac sydd â babanod a phlant hyd at oed cynradd. Yn ogystal, mae'r cynllun hefyd wedi darparu Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd newydd, gwell mannau awyr agored, nodweddion draenio cynaliadwy ac ystafell gymunedol newydd a crèche ar gyfer rhianta a defnydd cymunedol.Mae'r hen dŷ gofalwr wedi ei ddymchwel ac mae Clwb Bocsio Amatur Splott Adventure wedi cael ei adleoli i Parc y Cefnfor.

 

Dwedodd y Pennaeth Emma Laing:  "Rydym wrth ein bodd y bydd ein hadeiladau hardd a'n meysydd chwarae newydd yn ein galluogi i wasanaethu'n cymuned yn fwy effeithiol. Mae'r safle wrth galon yr ardal ac rydym yma i groesawu pawb, ac i ddiwallu anghenion pob plentyn a'u teuluoedd yn yr ardal."

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae cwblhau'r ailddatblygiad newydd cyffrous hwn ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland wedi mynd i'r afael â chyflwr gwael uned Blynyddoedd Cynnar yr ysgol a oedd wedi'i lleoli mewn uned symudol. Mae hefyd wedi galluogi'r Cyngor i gyflawni ei raglen sylweddol ledled y ddinas i helpu i ateb y galw am leoedd ysgol arbennig trwy ehangu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwella safon y cyfleusterau ledled y ddinas.

"Mae'r campws cymunedol newydd hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal y Sblot. Mae bellach yn cynnig amgylchedd dysgu modern o'r radd flaenaf wrth gyflwyno cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i'r ysgol ac i anghenion ei chymuned.  Bydd y safle Dechrau'n Deg newydd yn cynnig cyfleusterau buddiol i'r gymuned fel ystafell gymunedol ar gyfer cyrsiau rhianta a chyfleuster crèche, hefyd at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned y tu allan i oriau'r ysgol."

Wedi'i adeiladu gan Knox a Wells, mae'r cynllun wedi'i gyflawni drwy gyllid Adnewyddu Asedau ac Addasrwydd y Cyngor gyda chymorth cyfraniad Dechrau'n Deg uwch Llywodraeth Cymru.

Meddai Guy Leach, Rheolwr GyfarwyddwrKnox and Wells: "Mae Knox & Wells wedi mwynhau gweithio ar y gwelliannau i Ysgol Gynradd Moorland. Rydym yn falch o'r prosiect gorffenedig ac wrth ein bodd ein bod wedi chwarae ein rhan yn darparu cyfleusterau newydd o'r safon uchaf y mae mawr eu hangen ar gyfer yr ysgol."