Bydd Bruce Springsteen a’r E Street Band yn
cychwyn eu Taith Byd 2024 ar 5 Mai 2024 yn Stadiwm Principality Caerdydd. Bydd
gatiau'r stadiwm yn agor am 4pm, felly bydd ffyrdd canol y ddinas yn cau o
gwmpas y stadiwm o 2pm tan hanner nos am resymau diogelwch.
Mae disgwyl i
draffordd yr M4 fod yn brysur iawn oherwydd y cyngerdd, felly cynlluniwch
ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau
parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon -
CF11 0JS.
Gallwch chi
weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd ar wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS
ar Twitter a Facebook.
Mae pobl sy'n
mynd i’r cyngerdd yn cael eu cynghori'n gryf i gynllunio eu taith o flaen llaw
a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau
gwaharddedig ar principalitystadium.wales, yn enwedig y
polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn
gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o
drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 2pm tan ganol nos.
·
Yn ogystal,
bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r cyngerdd orffen ac am hyd at awr wedi
iddo ddod i ben am resymau diogelwch i deithwyr trên sy’n cyrraedd a gadael yr
orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig
drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad,
rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio
preifat.
Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys
Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y
Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Bydd Trafnidiaeth
Cymru yn ychwanegu
capasiti lle y bo modd ar drenau sy’n cyrraedd/gadael Caerdydd ddydd Sul 5 Mai,
ond mae llai o drenau’n rhedeg ar ddydd Sul a disgwylir iddynt fod yn brysur
iawn felly teithiwch yn gynnar.
Bydd ciwiau ar ôl y
digwyddiad ar gyfer gwasanaethau’r brif lein yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar
gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i’r orsaf. Bydd Heol y Frenhines
Caerdydd yn cau am 21:30 heblaw am fynediad hygyrch a theithwyr sy'n dymuno
teithio i Fae Caerdydd.
Oherwydd amser y digwyddiad
nid oes gwasanaethau wedi'r digwyddiad i Birmingham na Gogledd Cymru.
Ewch i tfw.cymru neu’r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth
ddiweddaraf am deithio.
Os bydd gennych unrhyw
broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy
difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu
ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch
999 mewn argyfwng bob tro.
Great Western Railway (GWR)
Bydd GWR yn cynnal
gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref wedi'r
cyngerdd. Bydd trenau ychwanegol o
Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Swindon; gyda llawer o lefydd
parcio ar gael ym meysydd parcio'r orsaf.
Fodd bynnag, mae disgwyl i
drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y cyngerdd ac fe fydd system giwio ar
waith y tu allan i'r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i’r trenau'n ddiogel.
Dylai'r rhai sy'n teithio’n
bellach wirio gwasanaethau cyswllt, ac amser eu trên olaf adref yn www.gwr.com/check.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd y cyfleusterau parcio a theithio
ar gyfer y digwyddiad yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.
Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y
ddinas yn Sgwâr Callaghan.
Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.45am, a bydd
y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am ganol nos a
bydd y safle yn cau’n fuan wedi hynny.
Y gost yw £15. Arian parod yn unig.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod
Digwyddiad (Ceir a Bysus)
Cyrraedd yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4,
ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan
ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 am fws – mae taliadau
cerdyn hefyd ar gael.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn
agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Taith gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm
Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 ar gyfer ceir a £30 i fysus - mae
taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw
ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd
ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael
rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau
beicio neu gerdded.Mae
ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km
o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei
feicio’n braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd
nad ydyn nhw’n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud
beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag
yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio
Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac
NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi
Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio
preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau
am 2pm ac yn ailagor am hanner nos.