Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Cyllid newydd ar gael i greu cydlyniant cymunedol
Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto'n gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector ledled y ddinas am gyllid grant sydd ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol.
Mae grantiau bach o hyd at £2,000 ar gael i gefnogi prosiectau a mentrau sy'n amlygu ac yn dathlu amrywiaeth cymunedau yn y ddinas. Gellir defnyddio cyllid at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys cynnal digwyddiadau a gweithgareddau, cynhyrchu llenyddiaeth gefnogol neu feithrin gallu o fewn cymuned.
Rhaid i geisiadau fodloni o leiaf un o'r amcanion canlynol:
Gwahoddir ceisiadau gan sefydliad gwirfoddol neu grwpiau cymunedol cyfansoddedig a sefydledig sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw'r sefydliad.
Anogir cydweithio rhwng grwpiau/sefydliadau sy'n gwneud cais am y cyllid yn gryf. Mewn amgylchiadau eithriadol, bydd ceisiadau partneriaeth (mwy na dau grŵp yn gweithio gyda'i gilydd ar brosiect) o hyd at £5,000 yn cael eu hystyried.
Mae gwaharddiadau'n berthnasol i sut y gellir defnyddio'r cyllid ac anogir ymgeiswyr i ddarllen y meini prawf cymhwysedd yn y ffurflen gais yn ofalus cyn gwneud cais.
Bydd pob cais yn cael ei asesu a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gan banel. Bydd angen cwblhau'r prosiectau erbyn mis Mawrth 2025.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais am gyllid, e-bostiwch:
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 14 Mai 2024.
'Dim torri'r gwair' tan fis Medi mewn 33 safle newydd ledled Caerdydd i gefnogi natur
Mae disgwyl i drefniadau torri gwair 'un toriad', sy'n gyfeillgar i natur, lle nad yw'r gwair yn cael ei dorri tan fis Medi, gael eu cyflwyno mewn 33 o safleoedd newydd yng Nghaerdydd eleni.
Mae'r safleoedd newydd, sy'n cwmpasu tua 8 hectar o barcdir a lleiniau ymyl priffyrdd, yn golygu y bydd cyfanswm o 122.24 hectar o dir - sy'n cyfateb i 272 o gaeau pêl-droed - mewn 144 o safleoedd gwahanol yn cael eu rheoli er budd natur, gan gynnwys peillwyr pwysig fel gwenyn a gloÿnnod byw y mae ein cadwyni bwyd yn dibynnu arnynt.
Mae newid i 'un toriad' y flwyddyn wedi arwain at enillion sylweddol i fioamrywiaeth o'i gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghaerdydd lle mae'r gwair yn cael ei dorri'n amlach.
Dangosodd gwaith monitro bioamrywiaeth a wnaed yng Nghaerdydd, gyda chymorth gwirfoddolwyr o Bartneriaeth Natur Leol Caerdydd, fod 89% o safleoedd 'dim torri'r gwair' a arolygwyd yn gartref i fwy nag 11 o rywogaethau gwahanol, o'i gymharu â dim ond 11% o ardaloedd lle'r oedd y gwair yn cael ei dorri'n amlach.
Leftfield ac Orbital i chwarae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd
Bydd arloeswyr cerddoriaeth electronig Leftfield ac Orbital yn agor Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd ar 27 Medi yn Arena Utilita Caerdydd, sy'n nodi dechrau tair wythnos wefreiddiol o gyngherddau, digwyddiadau cerddoriaeth ymgolli, sioeau cudd, cyfnodau preswyl anarferol, sesiynau diwydiant, gosodiadau a pherfformiadau untro dyfeisgar ym mhrifddinas Cymru.
Yn dal i wthio ffiniau 30 mlynedd ar ôl eu prif sioe a ddiffiniodd genhedlaeth yn Glastonbury 1994, mae albwm diweddaraf OrbitalOptical Delusionyn uno synth modwleiddio nodweddiadol y brodyr Hartnoll â llais trawiadol Anna B Savage a phync-wleidyddol Sleaford Mods. Nid yw amser wedi ysgafnhau eu sioeau byw di-baid chwaith - maen nhw yn UDA ar hyn o bryd ar gyfer prif sioe yng Ngŵyl Coachella, a bydd pensetiau dwy dortsh enwog y brodyr yn rhannu llwyfan â llu o dafluniadau gweledol cynhyrfus sy'n codi'r profiad byw i lefel uwch byth.
Mae Leftfield yn enwog am bŵer sonig i ysgwyd meini yn eu sioeau byw, ac mae gwrando unwaith ar ei albwm diweddaraf,This is What We Do, yn brawf nad yw'r act electronig ddylanwadol wedi esmwytho ers i'r Sex Pistol John Lydon fynnu ein bod yn "Open Up" ar eu halbwm arloesol ac eclectig rhydd ym 1995,Leftism. Gan gymysgu traciau ffres o'r bocs â thoriadau clasurol i greu profiad ymgolli gwefreiddiol o sain wedi'i droshaenu â motiffau dro ar ôl tro a delweddau caleidosgopig, mae sioeau byw diweddar wedi cadarnhau bod Leftfield yn parhau i fod ar y brig.
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yw denu 20,000 o bobl yn ei blwyddyn gyntaf. Gan gwmpasu'r ŵyl gerddoriaeth newydd enwog Sŵn a phenwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, Llais, bydd yr ŵyl yn lledaenu cerddoriaeth ledled y ddinas, gan herio, cyffroi ac ysbrydoli cefnogwyr ar draws cenedlaethau a genres.