Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 12 Ebrill 2024
12/04/24

Dyma’ch diweddariad dydd Gwener, sy’n cynnwys:

·       Ansawdd ailgylchu Caerdydd yn gwella’n sylweddol oherwydd y cynllun ailgylchu newydd

·       Rhaid i drigolion ddod â phrawf adnabod â llun wrth bleidleisio ym mis Mai

·       Cerddorion o Gaerdydd wedi'u comisiynu i greu 'Sŵn y Ddinas' newydd.

Ansawdd ailgylchu Caerdydd yn gwella’n sylweddol oherwydd y cynllun ailgylchu newydd

Mae’r cam diweddaraf yn y gwaith o gyflwyno’r cynllun ailgylchu 'sachau didoli', i 37,000 eiddo ledled Caerdydd, wedi arwain at welliant sylweddol yn ansawdd yr ailgylchu a gesglir o gartrefi preswylwyr, gall Cyngor Caerdydd ddatgelu.

Wedi i’r cynllun fod ar waith am chwe wythnos mae ffigyrau ailgylchu diweddaraf y cyngor ar gyfer ailgylchu cartrefi yn dangos y gellir ailgylchu tua 92% o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr drwy'r system newydd. O dan y cynllun casglu bagiau gwyrdd cymysg dim ond 70% o'r deunydd a gesglir sy'n gallu cael ei ailgylchu, drwy ein prosesau mewnol.

Mae cam diweddaraf y gwaith o gyflwyno’r cynllun newydd yn cynhyrchu ffigurau tebyg i'r prosiect peilot a gynhaliwyd y llynedd yn dangos gwerth amlwg y cynllun o ran gwella ansawdd yr ailgylchu a gasglwyd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r ffigurau rydyn ni'n eu gweld yn gwneud gwahaniaeth mawr ac rydyn ni am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i drigolion am ymuno â'r cynllun ac addasu iddo mor gyflym.  Mae'r ffigurau ar hyn o bryd yn dangos gwelliant sylweddol a pharhaus o'i gymharu â'r system casglu ailgylchu cymysg mewn bagiau gwyrdd. 

"Mae'r trigolion yn gwneud gwaith gwych. Mae gwahanu deunyddiau ailgylchu i ffrydiau gwahanol yn arwain at lai o halogi. Mae 30% o'r hyn rydyn ni'n ei gasglu yn y bagiau cymysg plastig gwyrdd yn ddeunyddiau nad oes modd eu hailgylchu.  Mewn llawer o achosion byddai'r bagiau hynny'n cynnwys gwastraff bwyd neu gewynnau budr ymhlith pethau eraill, gan achosi niwsans i'n staff, a chostio rhagor o arian i'r cyngor i losgi'r gwastraff nad oedd modd ei ailgylchu, a chreu problemau gydag anifeiliaid ac adar yn torri bagiau’n agored ar y stryd. Mae'r system newydd yn ei gwneud hi'n anoddach i anifeiliaid ac adar dorri'r sachau ar agor, ond mae'r ffaith eu bod yn cynnwys llai o wastraff bwyd nag roedden ni’n ei weld mewn bagiau gwyrdd hefyd yn helpu i ddatrys y broblem hon. Mae'r cynllun yn gweithio a bydd yn ein helpu i ddod yn agosach at gyrraedd  targedau ailgylchu Llywodraeth Cymrua bydd yn lleihau'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig ag allyriadau carbon cynhyrchu deunyddiau crai newydd.

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33371.html

Rhaid i drigolion ddod â phrawf adnabod â llun wrth bleidleisio ym mis Mai

Bydd angen i drigolion Caerdydd ddangos prawf adnabod ffotograffig i bleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar 2 Mai.

Mae trigolion yn cael eu hannog i sicrhau eu bod yn barod i bleidleisio drwy wirio bod ganddynt ffurflen adnabod dderbyniol, sy'n cynnwys trwydded pasbort neu drwydded yrru'r DU, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Gymanwlad; a rhai tocynnau teithio rhatach, fel cerdyn bws i berson hŷn. Bydd pleidleiswyr yn cael defnyddio prawf adnabod sydd wedi dod i ben os ydy hi'n dal i fod yn bosibl adnabod yr unigolyn o'r llun.  Dyma restr lawn o'r mathau o brawf adnabod a dderbynnir: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Pleidleisio-ac-etholiadau/Ddeddf-Etholiadau-2022/Pages/default.aspx

Bydd unrhyw un nad oes ganddo un o'r ffurfiau adnabod derbyniol yn gallu gwneud cais am brawf adnabod am ddim ar-lein yn https://www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr  neu drwy lenwi ffurflen bapur. Y dyddiad cau i wneud cais yw Ebrill 24.

Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Caerdydd:  "Gydag etholiadau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 2 Mai, mae'n bwysig bod y rhai sydd am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn sicrhau bod ganddynt ffurflen adnabod dderbyniol, ac os na wnânt, dylent wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr am ddim.  Gall unrhyw un sydd angen help i wneud cais am y prawf adnabod am ddim neu sydd am ofyn am ffurflen gais, e-bostio gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk

"Mae'n rhaid i fanylion am brawf adnabod llun pleidleisiwr fod yr un fath â'r wybodaeth sydd gennym amdanyn nhw ar y gofrestr etholiadol, felly os oes unrhyw un wedi newid ei enw, neu wedi symud tŷ yn ddiweddar, rydym yn eu hannog i ddiweddaru eu manylion ar y gofrestr cyn y dyddiad cau ar 16 Ebrill i sicrhau y gallant fwrw eu pleidlais mewn gorsaf bleidleisio ar 2 Mai."

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33357.html

Cerddorion o Gaerdydd wedi'u comisiynu i greu 'Sŵn y Ddinas' newydd

Mae pedwar cerddor talentog o Gaerdydd wedi derbyn comisiynau 'Sŵn y Ddinas' i gefnogi creu gwaith newydd arbrofol, a bydd rhai ohonynt yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni fel rhan Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a gyflwynwyd yn ddiweddar.

Y 'cerddorion preswyl' y dyfarnwyd comisiynau iddynt yw N'famady Kouyaté, Natalie Roe, Eugene Capper a Gemma Smith.

Mae'r comisiynau, sy'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, yn rhan o strategaeth gerddoriaeth Cyngor Caerdydd a'u nod yw meithrin a chynnal datblygiad yn sector cerddoriaeth y ddinas.

Mwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/33362.html