10.4.24
Mae pedwar cerddor talentog o Gaerdydd wedi derbyn comisiynau 'Sŵn y Ddinas' i gefnogi creu gwaith newydd arbrofol, a bydd rhai ohonynt yn cael eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni fel rhan Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Y 'cerddorion preswyl' y dyfarnwyd comisiynau iddynt yw N'famady Kouyaté, Natalie Roe, Eugene Capper a Gemma Smith.
Mae'r comisiynau, sy'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, yn rhan o strategaeth gerddoriaeth Cyngor Caerdydd a'u nod yw meithrin a chynnal datblygiad yn sector cerddoriaeth y ddinas.
N'famady Kouyaté
Bydd N'famady Kouyaté yn uno ei dreftadaeth gerddorol draddodiadol o Orllewin Affrica ag offerynnau Ewropeaidd clasurol Sinfonia Cymru, yn yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel "cydweithrediad unigryw sy'n dod â gwahanol ddiwylliannau cerddorol at ei gilydd i greu rhywbeth newydd a chyffrous."
Ganwyd y cerddor o fri N'famady yn Guinea i deulu 'djeli' sydd â chyfrifoldeb etifeddol dros warchod diwylliant traddodiadol Mandingue drwy rannu rhythmau, caneuon a straeon hynafol, ac mae'n amryddawn ar y balaffon (seiloffon pren traddodiadol, naturiol) yn ogystal â chanwr, offerynnwr taro, ac aml-offerynnwr.
Natalie Roe
Mae Natalie Roe wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a bydd yn asio seiniau a gasglwyd o bob cwr o'r ddinas â'i chyfansoddiadau electronig, i baentio llun sain o Gaerdydd. Yn flaenorol, mae Natalie wedi ysgrifennu cerddoriaeth gyngerdd ar gyfer Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Band y Gwarchodlu Cymreig. Mae ei chyfansoddiadau electronig yn cynnwys gosodiad cromen ag 16 seinydd a arddangosir yn Helsinki a chyngerdd electro-acwstig ymgolli byw, o'r enw 'MINDSET'.
Mae cydweithio yn allweddol i Natalie ac fel rhan o'r comisiwn mae'n bwriadu gweithio gydag artist gweledol i greu profiad ymgolli. "Dwi wastad wedi teimlo bod croeso mawr i mi fel cyfansoddwr a cherddor yng Nghymru, ac yn enwedig Caerdydd," meddai. "Mae prosiectau fel hyn ond yn cryfhau ac yn tanio egni pobl greadigol a dwi wrth fy modd yn derbyn comisiwn Sŵn y Ddinas."
Eugene Capper
Mae'r cerddor, dylunydd sain ac artist sain, Eugene Capper, wedi gweithio a pherfformio gyda Richard James, The Gentle Good, Girl Ray, Ivan Moult, Teddy Hunter a'u tebyg. Cyrhaeddodd ei albwm 'Pontvane' gyda Rhodri Brooks restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ac fe'i comisiynwyd y llynedd gan Ymddiriedolaeth Greenman i ysgrifennu sgôr ffilm gyda'r artist Kathryn Ashill o'r enw 'Gunsmoke City'.
Yn ôl yn 2015 adeiladodd Eugene stiwdio yng Nglan-yr-afon hefyd. Wedi'i wneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, mae'r stiwdio wedihelpu nifer o artistiaid, gan gynnwys dau enillydd Greenman Rising a nifer o enwebeion Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, i ddatblygu eu harfer. Bellach fel rhan o'i gomisiwn 'Sŵn y Ddinas' ei nod yw cydweithio â rhai o'r bandiau a'r cerddorion sydd wedi recordio ac ymarfer yn y stiwdio, i greu casgliad o ddeunydd newydd am y gymdogaeth leol. Wrth siarad am y comisiwn, dywedodd Eugene:"Dwi'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth dwi a'r gymuned gerddoriaeth wedi'i derbyn gymaint. Mae wedi creu cyfle na fyddai wedi bod ar gael fel arall: i greu rhywbeth arbennig i ni."
Gemma Smith
Aelod sylfaenol rhwydwaith Ladies of Rage, Gemma Smith (a elwir hefyd Missy G) oedd yr unig ferch yng Nghymru i fod yn MC drwm a bas ar un adeg. Nawr, gyda chymorth comisiwn 'Sŵn y Ddinas', mae'r DJ, rapiwr, cynhyrchydd a chanwr - sydd hefyd yn rhedegsefydliad sy'n mentora pobl ifanc lleol i ddatblygu sgiliau creu cerddoriaeth -yn creu albwm aml-genre newydd. Dros ddeg trac yn rhychwantu genres grime, R&B, hip-hop a roc meddal, mae'n gobeithio adrodd ei stori ei hun a "dangos pobl eraill sy'n wynebu rhwystrau, gyda phrofiad byw ac sy'n byw mewn tlodi, i beidio byth â rhoi'r gorau iddi."
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae sector cerddoriaeth Caerdydd werth tua £100 miliwn bob blwyddyn i'r economi ac roedd y cyfoeth o dalent yn y ddinas yn amlwg yng nghryfder y ceisiadau ar gyfer y comisiynau ‘Sŵn y Ddinas' agoriadol hyn.
"Trwy ei waith datblygu dinasoedd cerddoriaeth nod y Cyngor yw cefnogi cerddorion a gweithwyr proffesiynol cerddoriaeth y ddinas, a chreu'r amodau a fydd yn helpu'r sector cerddoriaeth i barhau i dyfu a ffynnu."
Roedd y comisiynau'n agored i ymgeiswyr ag o leiaf dwy flynedd o brofiad o berfformio neu gynhyrchu proffesiynol, gan weithio mewn unrhyw genre cerddorol ac aseswyd ceisiadau gan banel a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, Clwb Ifor Bach aTŷ Cerdd - Canolfan Gerdd Cymru.