Back
Cymuned Pentwyn yn rhoi barn ar gynlluniau’r ganolfan hamdden

04.04.24
Daeth dros 180 o bobl i sesiwn galw heibio ddeuddydd Cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf i archwilio cynlluniau a rhoi eu barn ar waith adnewyddu arfaethedig ac ailagor Canolfan Hamdden Pentwyn.

Roedd y sesiynau'n gyfle i bobl leol drafod gyda swyddogion y cyngor fanylion y gwaith adnewyddu, sydd wedi ei gynllunio i ddigwydd pan fydd Clwb Rygbi Caerdydd, sydd wedi bod yn defnyddio'r ganolfan ar gyfer ei sesiynau hyfforddi, yn gadael yr adeilad ym mis Mai.

Ymhlith y cyfleusterau newydd sydd wedi'u cynllunio mae:

  •  Pwll 25m gyda llawr symudol addasadwy sy'n caniatáu i ddyfnder y dŵr gael ei amrywio, gan ei alluogi i gael ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o weithgareddau ac arbed costau gwresogi. Bydd sleid y pwll yn cael ei gadw hefyd
  • Cadw'r neuadd chwaraeon bresennol a'r cae bach 3G awyr agored
  • Ail-agor cyfleusterau'r stiwdio a'r gampfa ac adnewyddu'r ystafelloedd newid
  • Buddsoddi mewn paneli solar wedi'u gosod ar y to a phwmp gwres ffynhonnell aer i gynhesu'r pwll

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Roeddem yn falch bod cymaint o bobl wedi dod a'n bod ni wedi gallu gwrando ar eu barn nhw ac esbonio'r cynlluniau newydd ar gyfer y ganolfan. Cawsom adborth cadarnhaol ar ein penderfyniad i newid dyluniad y pwll ac i gynyddu maint a dyfnder y pwll newydd. Rydym yn gobeithio bod ar y safle’n fuan i ddechrau ar y gwaith."

Yn y sesiynau, datgelodd y Cyngor y byddai GLL, gweithredwyr y ganolfan, yn ail-agor rhannau o'r ganolfan, gan gynnwys y gampfa, ganol mis Mehefin gyda gwaith ar y pwll yn dechrau tua'r un pryd. Mae disgwyl i'r gwaith ar y pwll gael ei gwblhau erbyn y flwyddyn nesaf.

Bydd GLL hefyd yn cynnal cyfres o sesiynau rhoi cynnig arni a sesiynau blasu yn yr haf i hyrwyddo'r cyfleusterau a chael barn y gymuned.

Os hoffech roi eich barn ar ddyfodol y ganolfan, neu os hoffech fwy o fanylion ar y cynlluniau, e-bostiwch ymgynghoriad@caerdydd.gov.uk