Cafodd y Cynllun Seilwaith
Bysiau, sy'n nodi cyfres o ymyriadau ar-y-stryd posibl gyda'r nod o wella
coridorau bysiau allweddol i Gaerdydd, ei drafod gan Gabinet y cyngor yn ei
gyfarfod ddydd Iau, 21 Mawrth.
Mae'r cynllun, sydd wedi'i
lunio mewn ymgynghoriad â Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru, a gweithredwyr
eraill, yn nodi cyfres o welliannau a allai wneud teithiau bysiau yn gyflymach
ac yn fwy dibynadwy.
Yn dilyn y cyfarfod, mae
awdurdod bellach wedi cael ei roi gan y Cabinet i ymgynghori â'r cyhoedd ar y
cynlluniau.
Dywedodd
llefarydd ar gyfer Cyngor Caerdydd: "Ym mis Ionawr 2020, nododd Cyngor Caerdydd strategaeth drafnidiaeth
uchelgeisiol 10 mlynedd gyda ffocws penodol ar gynyddu nifer y bobl sy'n
teithio ar fws, ac ar gynyddu nifer y bobl sy'n dewis cerdded neu feicio yn lle
defnyddio car preifat. Gosodwyd targed i ddyblu nifer y bobl sy'n teithio ar
fws rhwng 2018 a 2030.
"Trwy
fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, byddwn yn cynnig dewis
arall realistig i deithio mewn car preifat, sydd yn ei dro’n cynnig manteision
sylweddol, gan roi opsiynau gwell ac iachach i drigolion ac ymwelwyr deithio o
amgylch y ddinas. Y nod yw lleihau tagfeydd, gwella'r aer rydyn ni i gyd yn ei
anadlu yn sylweddol, gan wneud Caerdydd yn lle gwell i drigolion ac ymwelwyr.
"Yn 2021, cynhyrchwyd
strategaeth bysiau ac ymgynghorwyd arni gyda'r cyhoedd. Roedd yn nodi nifer o welliannau gan gynnwys
prisiau, opsiynau tocynnauintegredig, gwell
gwasanaethau, fflyd drydan fwy modern, a gwell seilwaith ffyrdd.
"Yn anffodus, tarodd y
pandemig COVID y DU, a gafodd effaith sylweddol ar wasanaethau bws ym mhobman.
Gostyngodd nifer y bobl a oedd yn teithio ar fws yng Nghaerdydd i lefel
hanesyddol isel, ac yng Nghymru darparwyd swm sylweddol o arian gan Lywodraeth
Cymru i gefnogi'r diwydiant.
"Ers hynny, mae
defnydd wedi cynyddu'n raddol, ond mae tagfeydd a phwyntiau pinsio penodol ar y
rhwydwaith priffyrdd yn parhau i achosi problemau i weithredwyr bysiau ddarparu
gwasanaeth dibynadwy i'w cwsmeriaid.
"Mae'r cynllun hwn yn
cynnig chwe llwybr bysiau allweddol a fydd yn cysylltu â phwyntiau cyfnewid
allweddol, gan gynnwys y Gyfnewidfa Fysiau newydd, Gorsaf Waungron, Ysbyty
Athrofaol Cymru a safleoedd parcio a theithio presennol a’r dyfodol.
"Y nod yw darparu
gwasanaethau cyflymach, gwasanaethau mwy hygyrch sy'n haws eu defnyddio,
integreiddio gwell rhwng bysiau, trenau, rheilffyrdd ysgafn, beicio a cherdded,
a sylfaen well i wneud cais am gyllid trafnidiaeth yn y dyfodol.
"Mae'n bwysig datgan
yn glir nad ydym yn cynnig lonydd bysiau pwrpasol ar hyd y chwe llwybr hwn, ond
yn hytrach ymyriadau wedi'u targedu gan ddefnyddio ystod o ddulliau gwahanol i
wneud teithiau bws yn fwy deniadol i drigolion ac ymwelwyr.”
Dywedodd Craig
Hampton-Stone, Rheolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd:
"Mae Bws Caerdydd yn
llwyr gefnogi'r uchelgais i gyflwyno seilwaith blaenoriaeth bysiau fel y nodwyd
yn y cynllun hwn. Mae bysiau'n hanfodol i anghenion trafnidiaeth y
ddinas ac yn cyfrif am 80% o'r holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Nawr
yw'r amser i ategu hyn drwy roi ein bysiau ar ben ffordd unwaith eto, a
gobeithiwn y bydd y dull cydweithredol yn tanlinellu pwysigrwydd y cynllun i
Gaerdydd ac yn ennill cefnogaeth glir a chyllid gan Lywodraeth Cymru.”
Dyma amlinelliad o'r chwe
llwybr bysiau allweddol arfaethedig a'r ymyriadau posibl:
Llwybr 1) Trelái i Ganol y
Ddinas - Bydd y llwybr hwn yn
cysylltu Trelái, Treganna a Glan-yr-afon gyda chysylltiadau ymlaen i ganol y
ddinas.
Ar y llwybr hwn nid yw'r
briffordd yn ddigon llydan i greu lonydd bysiau pwrpasol ar naill ochr y
ffordd, er y bydd lonydd blaenoriaeth a chyfyngiadau posibl ar gyfer traffig
cyffredinol yn cael eu hasesu i wella amseroedd teithio. Gallai ymyriadau
posibl eraill gynnwys:
Llwybr 2) Ysbyty Athrofaol
Cymru i'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol - Mae'r llwybr hwn wedi cael ei ddewis i sicrhau
llwybr bws hanfodol i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac i greu cyswllt allweddol â
Grangetown, y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac ymlaen i Fro Morgannwg.
Ar y llwybr hwn, bydd
ymyriadau amrywiol yn cael eu hystyried i wella amseroedd teithio trwy
Blasnewydd, Cathays a Gabalfa, gan gynnwys:
Llwybr 3) Canol y Ddinas i
Heol Casnewydd, i Barc Caerdydd a Chasnewydd - Bydd y llwybr hwn yn rhedeg o Ganol y Ddinas i
lawr Heol Casnewydd i Barc Caerdydd ac ymlaen i ffin Casnewydd. Bydd hyn yn darparu
gwasanaethau i Bentwyn, Pontprennau, Tredelerch a Llaneirwg.
Gallai'r ymyriadau posibl
ar y llwybr hwn gynnwys:
·
Lonydd bysiau i roi blaenoriaeth ar rannau penodol o'r llwybr
·
Technoleg i roi blaenoriaeth i fysiau
·
Gwelliannau i gyffordd Heol Casnewydd/Heol Gwynllŵg, cyffordd Heol
Casnewydd/Heol y Plwca a chyffordd Heol Casnewydd/Westgrove
·
Rheolaethau ymyl ffordd - i atal parcio ar y palmant, parcio mewn safleoedd
bysiau a cheir yn rhwystro lonydd bysiau
· Adleoli safleoedd bysiau - er mwyn sicrhau bod yna groesfannau mwy diogel i gerddwyr
Llwybr 4) Canol y Ddinas i
Fae Caerdydd – Nod y
llwybr hwn fyddai diogelu llwybrau bysiau presennol at y dyfodol i gefnogi
datblygiadau yn y dyfodol a llwybrau rheilffordd presennol.
Gallai'r ymyriadau posibl
ar y llwybr hwn gynnwys rhai o’r ymyriadau sydd ar gael i flaenoriaethu
teithiau bysiau, neu bob un ohonynt.
Llwybr 5) Canol y Ddinas i
Ogledd Caerdydd, RhCT a Chaerffili – Y llwybr hwn yw'r llwybr bysiau mwyaf sefydledig hyd yma ac mae'n cynnwys
sawl llwybr sy'n cysylltu â Gogledd Caerdydd trwy Gylchfan Gabalfa ac ymlaen i
ganol y ddinas, gydag opsiynau i deithio ymlaen i RhCT a Chaerffili.
Gallai'r ymyriadau posibl
ar y llwybr hwn gynnwys:
Llwybr 6) Canol y Ddinas i
Blasnewydd a Gogledd-ddwyrain Caerdydd – Bydd y llwybr hwn yn cysylltu ardaloedd poblog
Plasnewydd a Phen-y-lan, gan gynnig mynediad i gyfleusterau addysgol allweddol.
Mae'r ymyriadau posibl yn
cynnwys: