Back
Dechrau sgwrs yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth


 

20/3/24

Dechreuodd sgyrsiau am sut i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n deall niwrowahaniaeth ddoe mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Wedi'i drefnu gan y Cyngor, ac yn digwydd yn ystod Wythnos fyd-eang Dathlu Niwroamrywiaeth (Mawrth 18 - 24), daeth y digwyddiad â siaradwyr arbenigol, partneriaid gwasanaethau cyhoeddus, rhanddeiliaid eraill ac unigolion at ei gilydd i ystyried sut olwg sydd ar ddinas sy'n deall niwrowahaniaeth a sut y gall Caerdydd ddod yn ddinas sy'n fwy cefnogol i bobl niwrowahanol a'u teuluoedd.

Mae tua 1 o bob 7 o bobl y DU yn niwrowahanol, sy'n golygu eu bod yn gweld y byd mewn ffordd fwy unigryw nag eraill. Mae pobl sydd â nodweddion a chyflyrau niwrowahanol yn wynebu amrywiaeth o heriau ar draws ein cymdeithas, gan gynnwys dod o hyd i gyflogaeth, tebygolrwydd uwch o ddiagnosis iechyd meddwl, a thrafferthion yn cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. 

Fodd bynnag, mae niwrowahaniaeth yn dod â llawer o gryfderau a phatrymau meddwl unigryw sydd o fudd i'n cymunedau a'n gweithleoedd.  

Cymeradwyodd y Cyngor Llawn gynnig ym mis Medi 2023 i weithio tuag at ddod yn ddinas sy'n deall niwrowahaniaeth yn well, dechrau'r daith honno oedd digwyddiad ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Dim ond drwy gydweithio y gallwn gyflawni Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth, gyda'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth ac empathi tuag at bobl niwrowahanol ledled y ddinas, a gwneud Caerdydd yn dinas ble maen nhw'n cael eu cefnogi i fyw'n dda.

"Mae gan bobl niwrowahanol gryfderau enfawr i'w dathlu a'u harneisio - o fewn gweithleoedd ac o fewn cymdeithas yn gyffredinol felly mae'n gwneud synnwyr ein bod fel dinasyddion, sefydliadau ac fel dinas yn gweithio i greu'r amgylcheddau iawn ar gyfer y rhai sy'n niwrowahanol, fel y gallwn fanteisio ar eu cryfderau, ar eu cryfderau, a'u cefnogi i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu.

"Bydd Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth yn gweithio i sicrhau ein bod, fel dinas, yn datblygu amgylchedd lle mae pobl niwrowahanol yn cael eu dathlu, eu cefnogi ac wrth gwrs yn cael eu cynnwys. Y cam cyntaf yn hyn oedd pasio cynnig yn y Cyngor Llawn ym mis Medi 2023 i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n deall niwrowahaniaeth."

Roedd siaradwyr eraill ddoe yn cynnwys arbenigwr o fri rhyngwladol ym maes Niwroamrywiaeth, yr Athro Amanda Kirby, Dyspracsig falch ac agored, yr actor a digrifwraig, Eleri Morgan, Darlithydd a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru, Dr Catherine Jones a'r gyfansoddwraig a pherfformwraig, Kizzy Crawford.

Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys grwpiau ffocws a stondinau yn hyrwyddo gwasanaethau i'r rhai sy'n uniaethu fel pobl â niwrowahaniaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl sefydliadau ac aelodau'r cyhoedd a gymerodd ran yn y digwyddiad ddoe - dechrau ein taith Deall Niwrowahaniaeth.  Mae'n amlwg eon bod yn rhannu ymrwymiad i weithio tuag at ddinas lle gall unigolion niwrowahanol ffynnu a theimlo'u bod wedi'u cynnwys yn llawn, ac ymroddiad enfawr yn y ddinas i ysgogi newid cadarnhaol."

 

Yn dilyn y digwyddiad, bydd y camau nesaf yn cynnwys mapio'r cymorth a'r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd i unigolion niwrowahanol yng Nghaerdydd, a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu strategaeth ar gyfer y ddinas gyfan.