Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 15 Mawrth 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Buddsoddiad o £1bn i ddarparu cartrefi fforddiadwy i Gaerdydd
  • Y Cyngor yn addo mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle
  • Cyngor teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn yr Eidal ar 16 Mawrth yng Nghaerdydd
  • Datgelu cynlluniau ar gyfer 'Papur Gwyrdd' ar fuddsoddiad Ynni Gwyrdd

 

Buddsoddiad o £1bn i ddarparu cartrefi fforddiadwy i Gaerdydd

Mae adeiladu cartrefi cyngor newydd ar adeg o alw digynsail am dai a gwasanaethau digartrefedd yn parhau i fod yn hollbwysig i Gyngor Caerdydd dros y flwyddyn i ddod.

Yn ei Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2024/25, mae'r awdurdod yn nodi'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer ei ystod eang o wasanaethau Tai, gan helpu i gyflawni'r ymrwymiadau strategol a nodir yng ngweledigaeth 'Cryfach Tecach Gwyrddach' y Cyngor.

Yn dilyn blwyddyn hynod heriol pan ddatganodd y Cyngor argyfwng tai oherwydd pwysau eithriadol a galw di-ildio am wasanaethau digartrefedd, mae darparu mwy o dai fforddiadwy ar raddfa a chyflymder ar frig y rhestr er mwyn mynd i'r afael â'r lefelau sylweddol o angen.

Gwnaeth y rhaglen ddatblygu uchelgeisiol, a fydd yn y pen draw yn darparu mwy na 4,000 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf, gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o gartrefi cyngor newydd yn 2023, gyda stoc y Cyngor bellach ar 14,000 o gartrefi ledled y ddinas.

Mae gwaith i gynyddu nifer y safleoedd o fewn y rhaglen ddatblygu yn parhau, er mwyn sicrhau y darperir 2,800 o gartrefi cyngor a 1,200 o gartrefi i'w gwerthu.

Mae delio â digartrefedd yn nodwedd bwysig yn y cynllun, o ran atal aelwydydd rhag colli eu cartref a lleddfu ar ddigartrefedd pan fydd yn digwydd.

Mae'r broses gyflym o osod cartrefi modiwlar ar safle'r Gasworks yn Grangetown i gefnogi teuluoedd digartref yn dangos y datrysiadau arloesol y mae'r Cyngor yn eu defnyddio i gynyddu llety dros dro tra bod y gwaith o alinio gwasanaethau Datrysiadau Tai, Atal Digartrefedd a Chynghori bellach yn cynnig pecyn cyflawn o gymorth a chefnogaeth i bobl sy'n profi problemau digartrefedd.

Darllenwch fwy yma

 

Y Cyngor yn addo mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle

Cyngor Caerdydd yw'r awdurdod lleol diweddaraf i arwyddo siarter gwrth-hiliaeth UNSAIN.

Mae'r siarter, sy'n ceisio mynd i'r afael â hiliaeth yn y sector cyhoeddus, yn ymrwymo sefydliadau a'u harweinwyr i gael polisi cydraddoldeb hiliol clir a gweladwy, yn ogystal â rhaglen o fentrau gwrth-hiliaeth.

Cafodd ei datblygu mewn ymateb i arolwg gan UNSAIN - undeb mwyaf y sector cyhoeddus - o 1,000 o weithwyr du yn Llundain a ddatgelodd mai dim ond 30% oedd yn teimlo bod eu cyflogwr yn cymryd cydraddoldeb hiliol o ddifrif.

Yn rhan o'r siarter mae cyfres o addewidion sy'n ymrwymo'r Cyngor i gyflwyno mesurau o fewn y 12 mis nesaf, gan gynnwys:

 

  • Cydnabod yr angen a'r budd o hyrwyddo gweithlu sy'n amrywiol o ran hil
  • Herio hiliaeth yn fewnol ac yn allanol lle bynnag mae'n dod i'r amlwg yn y sefydliad
  • Darparu hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod a gwrth-hiliaeth i bob aelod o staff
  • Adolygu prosesau recriwtio i nodi a mynd i'r afael â gwahaniaethau ar sail hil o ran cyfle cyfartal, a
  • Bod yn wrth-hiliol, nid dim ond peidio â bod yn hiliol, ym mhopeth y mae'n ei wneud

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn yr Eidal ar 16 Mawrth yng Nghaerdydd

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Eidal Ddydd Sadwrn 16 Mawrth yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 2.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10.15am tan 6.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon.

Bydd y gatiau'n agor am 12pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar.  Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn  principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Datgelu cynlluniau ar gyfer 'Papur Gwyrdd' ar fuddsoddiad Ynni Gwyrdd

Mae cynlluniau ar gyfer 'Papur Gwyrdd' i archwilio cyfleoedd buddsoddi o ran y trawsnewidiad i ynni gwyrdd sy'n gysylltiedig ag ymateb Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd a thargedau carbon niwtral wedi cael eu datgelu.

Nod y Papur Gwyrdd yw rhoi darlun cliriach o:

  • raddfa'r cyllid sydd ei angen i gyrraedd targedau carbon niwtral;
  • cyfleoedd economaidd y trawsnewidiad i ynni gwyrdd; ac
  • effaith polisïau a mentrau cenedlaethol.

Mae allyriadau carbon a gynhyrchir yn uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd wedi gostwng 11.7% ers i waith ddechrau ar ei strategaeth Caerdydd Un Blaned mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn 2019/20, ond mae adroddiad i'w drafod mewn cyfarfod Cabinet ar 21 Mawrth yn amlinellu nifer o heriau sylweddol sy'n dod i'r amlwg.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y risg i Gaerdydd o lifogydd o ganlyniad i newid hinsawdd, ar wahân i ymdrechion y ddinas i leihau allyriadau. Er mwyn lliniaru'r risg hon, mae'r Cyngor wrthi'n datblygu nifer o gynlluniau atal llifogydd gan gynnwys cynllun amddiffyn llifogydd arfordirol mawr ar 1.5 cilomedr o flaendraeth.

Darllenwch fwy yma