Diweddariad Dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Gwaith adeiladu yn dechrau ar system newydd amddiffyn llifogydd i warchod cartrefi Caerdydd
Mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd newydd a fydd yn amddiffyn 2,800 o gartrefi rhag perygl llifogydd.
Yn ymestyn dros 1.5 cilomedr ar hyd y blaendraeth, o Tidefields Road i aber Afon Rhymni, bydd y cynllun £35 miliwn, y mae'r rhan fwyaf ohono'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cymryd tua thair blynedd i'w gwblhau ac fe'i cynlluniwyd i:
Bydd y gwaith yn golygu y bydd 150,000 tunnell o amddiffynfeydd creigiog yn cael eu gosod ar hyd y glannau i reoli erydiad a llanw uchel yn ogystal â gosod pyst seiliau a dalenni a chynnal a chadw argloddiau pridd ar hyd aber yr afon.
Fel rhan o'r prosiect, gwneir gwelliannau hefyd i gyflwr rhan o Lwybr Arfordir Cymru sydd wedi'i leoli o fewn ffiniau'r cynllun, law yn llaw â gwelliannau mynediad i'r llwybr.
Datgelu cynllun Caerdydd i wella llwybrau bysiau allweddol
Mae cynllun newydd i wella chwe llwybr bysiau allweddol i ganol dinas Caerdydd, a gynlluniwyd i roi hwb i nifer y teithwyr a chynnig amseroedd teithio cyflymach, wedi'i ddatgelu.
Bydd y Cynllun Seilwaith Bysiau, sy'n nodi cyfres o ymyriadau ar-y-stryd posibl gyda'r nod o wella coridorau bysiau allweddol i Gaerdydd, yn cael ei drafod gan Gabinet y cyngor yn ei gyfarfod ddydd Iau, 21 Mawrth.
Mae'r cynllun, sydd wedi'i lunio mewn ymgynghoriad â Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru, a gweithredwyr eraill, yn nodi cyfres o welliannau a allai wneud teithiau bysiau yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy.
Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, rhoddir awdurdod i ymgynghori â'r cyhoedd ar y cynlluniau.
Dyma amlinelliad o'r chwe llwybr bysiau allweddol arfaethedig:
Llwybr 1) Trelái i Ganol y Ddinas - Bydd y llwybr hwn yn cysylltu Trelái, Treganna a Glan-yr-afon gyda chysylltiadau ymlaen i ganol y ddinas.
Llwybr 2) Ysbyty Athrofaol Cymru i'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol - Mae'r llwybr hwn wedi cael ei ddewis i sicrhau llwybr bws hanfodol i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac i greu cyswllt allweddol â Grangetown, y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac ymlaen i Fro Morgannwg.
Llwybr 3) Canol y Ddinas i Heol Casnewydd, i Barc Caerdydd a Chasnewydd - Bydd y llwybr hwn yn rhedeg o Ganol y Ddinas i lawr Heol Casnewydd i Barc Caerdydd ac ymlaen i ffin Casnewydd. Bydd hyn yn darparu gwasanaethau i Bentwyn, Pontprennau, Tredelerch a Llaneirwg.
Llwybr 4) Canol y Ddinas i Fae Caerdydd - Nod y llwybr hwn fyddai diogelu llwybrau bysiau presennol at y dyfodol i gefnogi datblygiadau yn y dyfodol a llwybrau rheilffordd presennol.
Llwybr 5) Canol y Ddinas i Ogledd Caerdydd, RhCT a Chaerffili - Y llwybr hwn yw'r llwybr bysiau mwyaf sefydledig hyd yma ac mae'n cynnwys sawl llwybr sy'n cysylltu â Gogledd Caerdydd trwy Gylchfan Gabalfa ac ymlaen i ganol y ddinas, gydag opsiynau i deithio ymlaen i RhCT a Chaerffili.
Llwybr 6) Canol y Ddinas i Blasnewydd a Gogledd-ddwyrain Caerdydd - Bydd y llwybr hwn yn cysylltu ardaloedd poblog Plasnewydd a Phen-y-lan, gan gynnig mynediad i gyfleusterau addysgol allweddol.
Bydd partner dylunio ac adeiladu newydd yn cael ei benodi ar gyfer Cledrau Croesi Caerdydd
Mae cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd wedi cymryd cam pellach ymlaen heddiw - gyda'r newyddion y bydd partner dylunio ac adeiladu yn cael ei benodi, er mwyn cyflwyno'r dyluniad manwl ar gyfer cam cyntaf y cynllun o Gaerdydd Canolog i Orsaf Drenau Bae Caerdydd.
Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn diweddariad ar y cynllun yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth, gydag argymhellion i gaffael a phenodi partner cyflawni i gyflwyno cam cyntaf y cynllun, a rhoi awdurdod i'r cyngor a Thrafnidiaeth Cymru (TC) ddechrau'r broses ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Ym mis Ionawr 2023, sicrhaodd Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â TC, £100m o gyllid ar gyfer prosiect Cledrau Croesi Caerdydd. Sicrhawyd £50m gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol o £50m pellach ar gyfer y prosiect.
Rhaid gwario'r £50m o gyllid Llywodraeth y DU erbyn canol 2026 a bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyfarnu mewn pedwar rhandaliad blynyddol o £12.5m yr un o 2026.