Back
Datgelu cynllun Caerdydd i wella llwybrau bysiau allweddol

11/03/24


Mae cynllun newydd i wella chwe llwybr bysiau allweddol i ganol dinas Caerdydd, a gynlluniwyd i roi hwb i nifer y teithwyr a chynnig amseroedd teithio cyflymach, wedi'i ddatgelu.

Bydd y Cynllun Seilwaith Bysiau, sy'n nodi cyfres o ymyriadau ar-y-stryd posibl gyda'r nod o wella coridorau bysiau allweddol i Gaerdydd, yn cael ei drafod gan Gabinet y cyngor yn ei gyfarfod ddydd Iau, 21 Mawrth.

Mae'r cynllun, sydd wedi'i lunio mewn ymgynghoriad â Bws Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru, a gweithredwyr eraill, yn nodi cyfres o welliannau a allai wneud teithiau bysiau yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy.

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, rhoddir awdurdod i ymgynghori â'r cyhoedd ar y cynlluniau.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Ym mis Ionawr 2020, nododd Cyngor Caerdydd strategaeth drafnidiaeth uchelgeisiol 10 mlynedd gyda ffocws penodol ar gynyddu nifer y bobl sy'n teithio ar fws, ac ar gynyddu nifer y bobl sy'n dewis cerdded neu feicio yn lle defnyddio car preifat. Gosodwyd targed i ddyblu nifer y bobl sy'n teithio ar fws rhwng 2018 a 2030.

"Trwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, byddwn yn cynnig dewis arall realistig i deithio mewn car preifat, sydd yn ei dro'n cynnig manteision sylweddol, gan roi opsiynau gwell ac iachach i drigolion ac ymwelwyr deithio o amgylch y ddinas. Y nod yw lleihau tagfeydd, gwella'r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu yn sylweddol, gan wneud Caerdydd yn lle gwell i drigolion ac ymwelwyr.

"Yn 2021, cynhyrchwyd strategaeth bysiau ac ymgynghorwyd arni gyda'r cyhoedd.  Roedd yn nodi nifer o welliannau gan gynnwys prisiau, opsiynau tocynnauintegredig, gwell gwasanaethau, fflyd drydan fwy modern, a gwell seilwaith ffyrdd.

"Yn anffodus, tarodd y pandemig COVID y DU, a gafodd effaith sylweddol ar wasanaethau bws ym mhobman. Gostyngodd nifer y bobl a oedd yn teithio ar fws yng Nghaerdydd i lefel hanesyddol isel, ac yng Nghymru darparwyd swm sylweddol o arian gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant.

"Ers hynny, mae defnydd wedi cynyddu'n raddol, ond mae tagfeydd a phwyntiau pinsio penodol ar y rhwydwaith priffyrdd yn parhau i achosi problemau i weithredwyr bysiau ddarparu gwasanaeth dibynadwy i'w cwsmeriaid.

"Mae'r cynllun hwn yn cynnig chwe llwybr bysiau allweddol a fydd yn cysylltu â phwyntiau cyfnewid allweddol, gan gynnwys y Gyfnewidfa Fysiau newydd, Gorsaf Waungron, Ysbyty Athrofaol Cymru a safleoedd parcio a theithio presennol a'r dyfodol.

"Y nod yw darparu gwasanaethau cyflymach, gwasanaethau mwy hygyrch sy'n haws eu defnyddio, integreiddio gwell rhwng bysiau, trenau, rheilffyrdd ysgafn, beicio a cherdded, a sylfaen well i wneud cais am gyllid trafnidiaeth yn y dyfodol.

"Mae'n bwysig datgan yn glir nad ydym yn cynnig lonydd bysiau pwrpasol ar hyd y chwe llwybr hwn, ond yn hytrach ymyriadau wedi'u targedu gan ddefnyddio ystod o ddulliau gwahanol i wneud teithiau bws yn fwy deniadol i drigolion ac ymwelwyr."

Dywedodd Craig Hampton-Stone, Rheolwr Gyfarwyddwr Bws Caerdydd:

"Mae Bws Caerdydd yn llwyr gefnogi'r uchelgais i gyflwyno seilwaith blaenoriaeth bysiau fel y nodwyd yn y cynllun hwn. Mae bysiau'n hanfodol i anghenion trafnidiaeth y ddinas ac yn cyfrif am 80% o'r holl deithiau trafnidiaeth gyhoeddus. Nawr yw'r amser i ategu hyn drwy roi ein bysiau ar ben ffordd unwaith eto, a gobeithiwn y bydd y dull cydweithredol yn tanlinellu pwysigrwydd y cynllun i Gaerdydd ac yn ennill cefnogaeth glir a chyllid gan Lywodraeth Cymru."

Dyma amlinelliad o'r chwe llwybr bysiau allweddol arfaethedig a'r ymyriadau posibl:

Llwybr 1) Trelái i Ganol y Ddinas- Bydd y llwybr hwn yn cysylltu Trelái, Treganna a Glan-yr-afon gyda chysylltiadau ymlaen i ganol y ddinas.

Ar y llwybr hwn nid yw'r briffordd yn ddigon llydan i greu lonydd bysiau pwrpasol ar naill ochr y ffordd, er y bydd lonydd blaenoriaeth a chyfyngiadau posibl ar gyfer traffig cyffredinol yn cael eu hasesu i wella amseroedd teithio. Gallai ymyriadau posibl eraill gynnwys:

  • Rheolaethau ymyl ffordd - i atal parcio ar y palmant, parcio mewn safleoedd bysiau a cheir yn rhwystro lonydd bysiau
  • Aildrefnu safleoedd bysiau i sicrhau bod croesfan ddiogel i gerddwyr
  • Gosod technoleg ar gyffyrdd er mwyn rhoi blaenoriaeth i fysiau.

Llwybr 2) Ysbyty Athrofaol Cymru i'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol- Mae'r llwybr hwn wedi cael ei ddewis i sicrhau llwybr bws hanfodol i Ysbyty Athrofaol Cymru, ac i greu cyswllt allweddol â Grangetown, y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac ymlaen i Fro Morgannwg.

Ar y llwybr hwn, bydd ymyriadau amrywiol yn cael eu hystyried i wella amseroedd teithio trwy Blasnewydd, Cathays a Gabalfa, gan gynnwys:

  • Rheolaethau ymyl ffordd - sy'n cynnwys atal parcio ar y palmant, parcio mewn safleoedd bysiau neu geir yn stopio a rhwystro lonydd bysiau
  • Gwelliannau i gyffordd Heol Albany/Heol y Plwca/Heol Richmond/Heol y Crwys a chyffordd Heol Casnewydd/Heol y Plwca
  • Defnyddio technoleg i roi blaenoriaeth i fysiau a gwella safleoedd bysiau.
  • Gellid ystyried ymyriadau pellach yn nes at y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, fel lonydd bysiau, oherwydd lled y briffordd ar y rhan hon o'r llwybr.

Llwybr 3) Canol y Ddinas i Heol Casnewydd, i Barc Caerdydd a Chasnewydd- Bydd y llwybr hwn yn rhedeg o Ganol y Ddinas i lawr Heol Casnewydd i Barc Caerdydd ac ymlaen i ffin Casnewydd. Bydd hyn yn darparu gwasanaethau i Bentwyn, Pontprennau, Tredelerch a Llaneirwg.

Gallai'r ymyriadau posibl ar y llwybr hwn gynnwys:

  • Lonydd bysiau i roi blaenoriaeth ar rannau penodol o'r llwybr
  • Technoleg i roi blaenoriaeth i fysiau
  • Gwelliannau i gyffordd Heol Casnewydd/Heol Gwynllŵg, cyffordd Heol Casnewydd/Heol y Plwca a chyffordd Heol Casnewydd/Westgrove
  • Rheolaethau ymyl ffordd - i atal parcio ar y palmant, parcio mewn safleoedd bysiau a cheir yn rhwystro lonydd bysiau
  • Adleoli safleoedd bysiau - er mwyn sicrhau bod yna groesfannau mwy diogel i gerddwyr 

Llwybr 4) Canol y Ddinas i Fae Caerdydd -Nod y llwybr hwn fyddai diogelu llwybrau bysiau presennol at y dyfodol i gefnogi datblygiadau yn y dyfodol a llwybrau rheilffordd presennol.

Gallai'r ymyriadau posibl ar y llwybr hwn gynnwys rhai o'r ymyriadau sydd ar gael i flaenoriaethu teithiau bysiau, neu bob un ohonynt.

Llwybr 5) Canol y Ddinas i Ogledd Caerdydd, RhCT a Chaerffili -Y llwybr hwn yw'r llwybr bysiau mwyaf sefydledig hyd yma ac mae'n cynnwys sawl llwybr sy'n cysylltu â Gogledd Caerdydd trwy Gylchfan Gabalfa ac ymlaen i ganol y ddinas, gydag opsiynau i deithio ymlaen i RhCT a Chaerffili.

Gallai'r ymyriadau posibl ar y llwybr hwn gynnwys:

  • Asesiad parhaus o gylchfan Gabalfa i nodi sut y gellir rhoi blaenoriaeth i fysiau
  • Technoleg newydd i roi blaenoriaeth i fysiau wrth gyffyrdd
  • Ad-drefnu safleoedd bysiau
  • Gwelliannau i gyffordd Heol Merthyr/Heol Caerffili

Llwybr 6) Canol y Ddinas i Blasnewydd a Gogledd-ddwyrain Caerdydd -Bydd y llwybr hwn yn cysylltu ardaloedd poblog Plasnewydd a Phen-y-lan, gan gynnig mynediad i gyfleusterau addysgol allweddol.

Mae'r ymyriadau posibl yn cynnwys:

  • Ymyriadau ymyl ffordd - i atal parcio ar y palmant, parcio mewn safleoedd bysiau a cheir yn rhwystro lonydd bysiau
  • Adleoli safleoedd bysiau er mwyn sicrhau bod yna groesfan ddiogel i gerddwyr
  • Gosod technoleg wrth gyffyrdd er mwyn rhoi blaenoriaeth i fysiau
  • Gwelliannau i gyffordd Heol Albany/Heol y Plwca/Heol Richmond/Heol y Crwys a gwelliannau i gyffordd Heol Casnewydd/Westgrove.