Back
Y newyddion gennym ni - 11/03/24

 

Image

11/03/24 - Bydd partner dylunio ac adeiladu newydd yn cael ei benodi ar gyfer Cledrau Croesi Caerdydd

Mae cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd wedi cymryd cam pellach ymlaen heddiw - gyda'r newyddion y bydd partner dylunio ac adeiladu yn cael ei benodi, er mwyn cyflwyno'r dyluniad manwl ar gyfer cam cyntaf y cynllun o Gaerdydd Canolog i Orsaf Drenau Bae Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/03/24 - Bydd eiddo gwag hirdymor yn talu premiwm treth gyngor hyd at 300% mewn ymgais i ddefnyddio cartrefi unwaith eto

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno ar fesurau newydd llym i helpu i ddefnyddio tai gwag hirdymor yn y ddinas unwaith eto.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/03/24 - Cyngor yn cytuno ar ei weledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno ei Gynllun Corfforaethol, gan amlinellu'r blaenoriaethau a'r nodau y mae wedi'u gosod i'w hun ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt.

Darllenwch fwy yma

 

Image

08/03/24 - Cymeradwyo cynigion Cyllideb Cyngor Caerdydd wrth i'r awdurdod geisio cau bwlch o £30.3m

Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn cefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac yn amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed wedi ei chymeradwyo gan Gyngor Caerdydd wrth iddo wynebu 'argyfwng ariannu sector cyhoeddus' sy'n effeithio ar awdurdodau lleol ym mhob rhan o'r DU.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/03/24 - Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen yn helpu i lansio menter fwyd newydd ac ysbrydoledig.

Mae Ysgol Gynradd Pentre-baen wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect peilot rhyngwladol sy'n ceisio annog plant i ymgysylltu â chynnyrch lleol a'u helpu i archwilio eu diwylliant a'u treftadaeth bwyd unigryw.

Darllenwch fwy yma

 

Image

07/03/24 - BBC Crimewatch Live yn arddangos dull arloesol Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd o fynd i'r afael â throsedd ymhlith pobl

Yr wythnos hon, ymddangosodd James Healan, Prif Swyddog Ieuenctid Caerdydd, ar BBC Crimewatch Live i siarad am yr effaith gadarnhaol y mae menter Realiti Rhithwir arloesol yn ei chael ar bobl ifanc ledled y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

06/03/24 - Pont newydd yn cwblhau llwybr unwaith eto mewn llecyn hardd poblogaidd

Mae taith gerdded gylchol boblogaidd ym Mharc Llyn Hendre yn cael ei defnyddio eto ar ôl i Gyngor Caerdydd gwblhau'r gwaith o ailadeiladu pont yn y llecyn prydferth poblogaidd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

05/03/24 - Agoriad swyddogol ysgol gynradd iaith dwy ffrwd gyntaf Caerdydd

Mae Ysgol Gynradd Groes-wen wedi dathlu ei hagoriad swyddogol yn ystod digwyddiad arbennig ym mhresenoldeb Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.

Darllenwch fwy yma

 

Image

04/03/24 - Cynlluniau i helpu Clwb Rygbi Rhiwbeina i gael gafael ar gyllid newydd

Mae cynlluniau i helpu Clwb Rygbi Rhiwbeina i gael cyfleoedd ariannu newydd a sicrhau buddsoddi mewn cyfleusterau presennol ym Mharc Caedelyn wedi cael eu datgelu.

Darllenwch fwy yma

 

Image

04/03/24 - Rôl allweddol Cyngor Caerdydd yn sicrhau Rolls Royce ar gyfer Llaneirwg

Mae penderfyniad Rolls Royce Submarines i agor swyddfa newydd ym Mharc Busnes Llaneirwg yng Nghaerdydd, fydd yn creu 130 o swyddi newydd, wedi cael ei groesawu gan Gyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma