Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 08 Mawrth 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Pleidleisio o blaid Cyllideb Cyngor Caerdydd i bontio bwlch o £30.3m
  • Cyngor yn cytuno ar ei weledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf
  • Pont newydd yn cwblhau llwybr unwaith eto mewn llecyn hardd poblogaidd
  • Agoriad swyddogol ysgol gynradd Iaith Ddeuol gyntaf Caerdydd

 

Cymeradwyo cynigion Cyllideb Cyngor Caerdydd wrth i'r awdurdod geisio cau bwlch o £30.3m

Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn cefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac yn amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed wedi ei chymeradwyo gan Gyngor Caerdydd wrth iddo wynebu 'argyfwng ariannu sector cyhoeddus' sy'n effeithio ar awdurdodau lleol ym mhob rhan o'r DU.

Mae costau cynyddol a'r galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol wedi arwain at 'benderfyniadau anodd iawn' i'r cyngor i gau'r bwlch o £30.3 miliwn yn ei gyllideb.

Yn gynharach eleni ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion ledled y ddinas a gofynnwyd iddynt am eu barn ar nifer o gynigion i arbed arian a syniadau i gynhyrchu arian.

Cymerodd dros 9,000 o bobl - y nifer fwyaf erioed - ran yn yr ymgynghoriad pedair wythnos ar y dewisiadau anodd sydd o'n blaenau.

Nawr, yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, mae'r cyngor wedi cytuno ar ei gyllideb ar gyfer 2024/25, un a fydd yn diogelu gwasanaethau allweddol wrth bontio'r bwlch yn y gyllideb.

Mae'r Cyngor bellach wedi gosod cynnydd o 6% yn y Dreth Gyngor - tua £1.60 yr wythnos ar gyfer cartref Band D. Mae'r cynnydd hwn yn y Dreth Gyngor ymhlith yr isaf a welwyd yng Nghymru eleni a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal rhai o'r gwasanaethau y gofynnodd preswylwyr iddynt gael eu diogelu neu eu harbed rhag toriadau. Mae'n cynnwys:

Rhoi codiad o 4.3% i ysgolion (gwerth £12.8 miliwn y flwyddyn) i helpu i ddelio â chostau cynyddol sy'n cyfateb i'r cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru i'r Cyngor, a chael gwared ar unrhyw ofyniad am arbedion effeithlonrwydd. Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant hefyd yn derbyn £26.3 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae mesurau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Dim toriadau i wasanaethau ieuenctid
  • Gwario £6.7m ar barciau'r ddinas gan wella a diogelu ein parciau Baner Werdd
  • Gwario £7.1 miliwn ar atgyweirio priffyrdd
  • £308 miliwn ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion y flwyddyn nesaf

 

Bydd ffioedd yn cynyddu ar gyfer rhai gwasanaethau, gan gynnwys:

  • Cynyddu cost llogi meysydd chwarae - cynnydd o 10%
  • Cynyddu pris claddedigaethau (+10.6%) a'r gwasanaeth amlosgi (+6.1%)
  • Cynyddu cost prydau ysgol gan 10c, er y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i gael ei gymorthdalu
  • Cynyddu rhai ffioedd parcio

 

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor yn cytuno ar ei weledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf

Mae Cyngor Caerdydd wedi cytuno ei Gynllun Corfforaethol, gan amlinellu'r blaenoriaethau a'r nodau y mae wedi'u gosod i'w hun ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt.

Mae'r ddogfen yn nodi sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei weledigaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' ar gyfer Caerdydd, er mwyn gwella bywydau ei holl drigolion drwy ei raglen eang o waith.

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan cyfarfod llawn y Cyngo neithiwr (7 Mawrth).

Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, gymeradwyaeth y cynllun a dywedodd ei fod yn rhan hanfodol o ymrwymiad y Cyngor i greu dinas 'gryfach, decach, wyrddach' i'w thrigolion. "Rydym wedi gwneud cynnydd da ers ein hail-ethol yn 2022. Er gwaethaf yr argyfwng costau byw ac ôl-effeithiau'r pandemig credwn fod Caerdydd mewn sefyllfa dda i arwain yr adferiad yng Nghymru.

"Mae llawer o waith i'w wneud, fodd bynnag, ac mae'r saith amcan lles clir hyn yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r ddinas ond hefyd yn dangos yr hyn yr ydym am ei gyflawni - ac y gallwn ei gyflawni."

Darllenwch fwy yma

 

Pont newydd yn cwblhau llwybr unwaith eto mewn llecyn hardd poblogaidd

Mae taith gerdded gylchol boblogaidd ym Mharc Llyn Hendre yn cael ei defnyddio eto ar ôl i Gyngor Caerdydd gwblhau'r gwaith o ailadeiladu pont yn y llecyn prydferth poblogaidd.

Dechreuodd y gwaith y llynedd ar y bompren 22 metr, sy'n eistedd ar allfa'r brif afon sy'n bwydo'r llyn, ac fe'i hagorwyd yn swyddogol i'r cyhoedd yr wythnos hon. Fel rhan o lwybr cylchol o amgylch y llyn, sy'n addas i gadeiriau olwyn, mae'n cael ei ddefnyddio gan lawer gan gynnwys pysgotwyr, cerddwyr cŵn, gwylwyr adar a charedigion byd natur.

Wedi'i leoli yn Trowbridge ar gyrion deheuol Llaneirwg, ar Wastadeddau Gwent, mae Parc Llyn Hendre yn ofod gwyrdd naturiol sydd wedi'i wladychu gan amrywiaeth eang o adar, anifeiliaid a phlanhigion.  Mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae maes parcio bach ar gael ar y safle i ddefnyddwyr.

Darllenwch fwy yma

 

Agoriad swyddogol ysgol gynradd iaith dwy ffrwd gyntaf Caerdydd

Mae Ysgol Gynradd Groes-wen wedi dathlu ei hagoriad swyddogol yn ystod digwyddiad arbennig ym mhresenoldeb Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry. Mwynhaodd y gwesteion berfformiad gan rai o ddisgyblion ieuengaf yr ysgol a thaith o amgylch yr adeilad.

Yn un o ysgolion cynradd mwyaf newydd Caerdydd, agorodd yr ysgol £9 miliwn ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Medi. Yr ysgol gynradd gwerth £9 miliwn yw'r gyntaf o'i math i Gaerdydd ac i Gymru, gan gynnig ffrwd iaith ddeuol a ffrwd iaith Gymraeg.  Bydd y ffrwd iaith ddeuol yn cynnwys 50% o Gymraeg a 50% o Saesneg, a elwir yn rhaniad 50/50.  Yn ogystal, mae darpariaeth feithrin rhan amser â 96 lle sy'n cael ei chefnogi gan Gylch Meithrin i gynnig darpariaeth gofleidiol. Bydd y Cylch hefyd yn gweithredu clwb ar ôl ysgol i ddisgyblion.

Wedi'i lleoli yn natblygiad Plasdŵr Caerdydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd, ar dir i'r de o Heol Llantrisant, mae Ysgol Gynradd Groes-wen, a adeiladwyd gan Andrew Scott Ltd, yn ddau ffrwd fynediad ac mae'n cynnig cyfanswm o 420 o leoedd, sy'n gwasanaethu ardaloedd yng ngogledd-orllewin Caerdydd. Mae'n cynnwys pensaernïaeth gyfoes ac amrywiaeth o fwynderau sy'n hygyrch i'r cyhoedd, gan roi cyfleoedd i ddod â thrigolion a theuluoedd newydd at ei gilydd.

Darllenwch fwy yma