Back
Cymeradwyo cynigion Cyllideb Cyngor Caerdydd wrth i'r awdurdod geisio cau bwlch o £30.3m

08.3.24

Mae cyllideb sy'n diogelu ysgolion ac addysg, yn cefnogi gwasanaethau cymdeithasol ac yn amddiffyn y bobl sydd fwyaf agored i niwed wedi ei chymeradwyo gan Gyngor Caerdydd wrth iddo wynebu 'argyfwng ariannu sector cyhoeddus' sy'n effeithio ar awdurdodau lleol ym mhob rhan o'r DU.

Mae costau cynyddol a'r galw cynyddol am wasanaethau fel gofal cymdeithasol wedi arwain at 'benderfyniadau anodd iawn' i'r cyngor i gau'r bwlch o £30.3 miliwn yn ei gyllideb.

Yn gynharach eleni ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion ledled y ddinas a gofynnwyd iddynt am eu barn ar nifer o gynigion i arbed arian a syniadau i gynhyrchu arian.

Cymerodd dros 9,000 o bobl - y nifer fwyaf erioed - ran yn yr ymgynghoriad pedair wythnos ar y dewisiadau anodd sydd o'n blaenau.

Nawr, yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, mae'r cyngor wedi cytuno ar ei gyllideb ar gyfer 2024/25, un a fydd yn diogelu gwasanaethau allweddol wrth bontio'r bwlch yn y gyllideb.

Mae'r Cyngor bellach wedi gosod cynnydd o 6% yn y Dreth Gyngor - tua £1.60 yr wythnos ar gyfer cartref Band D. Mae'r cynnydd hwn yn y Dreth Gyngor ymhlith yr isaf a welwyd yng Nghymru eleni a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal rhai o'r gwasanaethau y gofynnodd preswylwyr iddynt gael eu diogelu neu eu harbed rhag toriadau. Mae'n cynnwys:

Rhoi codiad o 4.3% i ysgolion (gwerth £12.8 miliwn y flwyddyn) i helpu i ddelio â chostau cynyddol sy'n cyfateb i'r cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru i'r Cyngor, a chael gwared ar unrhyw ofyniad am arbedion effeithlonrwydd. Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant hefyd yn derbyn £26.3 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae mesurau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Dim toriadau i wasanaethau ieuenctid
  • Gwario £6.7m ar barciau'r ddinas gan wella a diogelu ein parciau Baner Werdd
  • Gwario £7.1 miliwn ar atgyweirio priffyrdd
  • £308 miliwn ar gyfer cyllidebau dirprwyedig ysgolion y flwyddyn nesaf

Bydd ffioedd yn cynyddu ar gyfer rhai gwasanaethau, gan gynnwys:

  • Cynyddu cost llogi meysydd chwarae - cynnydd o 10%
  • Cynyddu pris claddedigaethau (+10.6%) a'r gwasanaeth amlosgi (+6.1%)
  • Cynyddu cost prydau ysgol gan 10c, er y bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i gael ei gymorthdalu
  • Cynyddu rhai ffioedd parcio

Mae sawl ffactor, gan gynnwys chwyddiant, prisiau ynni, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio dros £57 miliwn yn fwy yn y flwyddyn ariannol nesaf (Ebrill 2024 - Mawrth 2025) nag eleni.

Bydd y cynnydd o 4.3% yng ngrant Llywodraeth Cymru i Gaerdydd - llai na hanner yr hyn a dderbyniodd y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dod â £27 miliwn yn ychwanegol, a oedd yn golygu bod angen i'r Cyngor ddod o hyd i £30.3 miliwn.

Disgwylir colli oddeutu 160 o swyddi yn y Cyngor - nifer o'r rheini drwy beidio â phenodi i swyddi gwag.

Cytunodd Cyngor Caerdydd ar y gyllideb yn y cyfarfod cyngor llawn neithiwr (Dydd Iau 7 Mawrth). 

Gallwch weld adroddiad llawn y gyllideb  yma.

Yn yr ymgynghoriad, dywedwyd wrth drigolion fod dwy ran o dair (66.4%) o gyllideb flynyddol y Cyngor o £804 miliwn yn cael ei gwario ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn gadael dim ond £176 miliwn i dalu am wasanaethau eraill fel casgliadau ailgylchu a gwastraff, priffyrdd, goleuadau stryd, llyfrgelloedd a hybiau, ac adfywio economaidd. Mae tua £57 miliwn o'r gyllideb yn mynd tuag at gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, rhyddhad ardrethi ac ardollau eraill sy'n cael eu talu i sefydliadau fel y gwasanaeth tân; tra bod £37 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer cyllid cyfalaf i ad-dalu llog ar brosiectau fel ysgolion newydd ac Arena Caerdydd, sydd wedi'i gynllunio mewn modd a fydd yn ad-dalu'r gost yn llawn dros gyfnod ei les.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Rydyn ni'n wynebu penderfyniadau anodd iawn. Mae toriadau termau real i gyllid dros y 14 mlynedd diwethaf, chwyddiant, a phwysau galw cynyddol o ran gofal plant, gofal i'r henoed, a digartrefedd - yn enwedig mewn dinasoedd mawr fel Caerdydd - yn cynyddu costau cynghorau ym mhobman.

"Mae'r darlun hwn yn gyffredin ar draws y DU - yn Lloegr mae'r darlun hyd yn oed yn waeth nag yng Nghymru. Credaf fod angen cael sgwrs onest gyda'r llywodraeth ynglŷn â gwir werth y sector cyhoeddus a llywodraeth leol i'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os bydd llywodraeth leol yn parhau i wynebu'r toriadau di-baid hyn, yna byddwn yn cael ein dal yn y cylch hwn tan fod dim ar ôl i'w dorri."

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:  "Ar ddechrau'r ymgynghoriad, dywedais ein bod yn wynebu argyfwng ariannu sector cyhoeddus a'i bod yn bwysig bod trigolion yn rhannu eu barn gyda ni ar gynigion y gyllideb. Mae'r ffaith bod y nifer uchaf erioed o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn dangos bod ein trigolion yn pryderu am y toriadau di-baid hyn i'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt a'r difrod sy'n cael ei wneud i'r sector cyhoeddus, nid yn unig yma, ond ledled Cymru a gweddill y DU.

"Heb godi'r dreth gyngor, fydden ni ddim yn gallu diogelu rhai o'r gwasanaethau sy'n bwysig i'n trigolion. Bydd y cynnydd hwn ymhlith yr isaf yng Nghymru, ond bydd yn rhoi £10.4 miliwn yn ychwanegol i ni a bydd yn ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion wedi dod i ddibynnu arnynt. Yr un mor bwysig, bydd unrhyw un sy'n cael trafferth talu ac sy'n gymwys yn gallu cael cymorth drwy gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor.

"Wrth gwrs, nid yw'r cynnydd hwn yn y Dreth Gyngor yn golygu na fydd yn rhaid i ni wneud arbedion. Yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn gwneud £15.8 miliwn o arbedion swyddfa gefn a mesurau corfforaethol eraill, ynghyd â'r £4.1 miliwn o arbedion gwasanaeth rheng flaen yn seiliedig ar yr ymgynghoriad. Daw'r arbedion hyn ar ben y £250 miliwn rydym wedi'i dorri o'n cyllideb dros y 10 mlynedd diwethaf.

"Yn anffodus, bydd tua 160 o swyddi'n cael eu colli ar draws y cyngor. Y llynedd cafodd tua 172 o rolau eu colli. Byddwn bob amser yn ceisio gwneud arbedion effeithlonrwydd a newid y ffordd rydym yn gweithio cyn newid gwasanaethau rheng flaen, ond mae graddfa'r gostyngiad i'n cyllideb yn rhy fawr i osgoi rhai newidiadau eleni.

"Rydw i am i drigolion wybod ein bod wedi gwrando ar eu barn, rydyn ni'n cyflwyno cyllideb a fydd yn diogelu'r gwasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw - addysg, diogelu pobl agored i niwed, a gofal cymdeithasol.

"Yn Lloegr rydym wedi gweld Cynghorau lle yn y bôn, mae'r hwch wedi mynd drwy'r siop, a llawer mwy yn rhybuddio bod hynny ar fin digwydd.  Mae argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus yn real, ac mae'n niweidiol.

"Yn y cyd-destun hwn, rhaid i'n cyllideb nid yn unig gyflawni uchelgeisiau pobl y ddinas hon, ond rhaid iddi fod yn gadarn, yn ddarbodus a pharatoi ar gyfer yr hirdymor. 

"Byddai'n anghyfrifol heddiw gwneud penderfyniadau byrdymor, heb eu hariannu a phenderfyniadau sy'n anghynaliadwy.

"Mae ein cynnydd o 6% yn y Dreth Gyngor gyda'r isaf yng Nghymru, a bydd yn gadael ein Treth Gyngor Band D yn is na chyfartaledd llawer o awdurdodau ledled y Deyrnas, ond yn hollbwysig, mae'n codi mwy na £10 miliwn i ariannu ein gwasanaethau.  Dyma'r lefel gywir i gynnal ein Cyngor dros y blynyddoedd anodd sydd o'n blaenau - mor isel ag y gallwn ei fforddio, mor uchel ag sydd ei angen arnom.

"Y brif flaenoriaeth i'r cyhoedd, ac un y weinyddiaeth hon, yw plant a phobl ifanc. 

"Rwy'n falch nad ydym wedi cynnig gwneud unrhyw arbedion o gyllidebau ysgolion, ac yn gallu cyflwyno cynnydd ariannol o £12.8 miliwn i ysgolion, a thros £4 miliwn yn ychwanegol i gyllidebau addysg canolog, a chynnydd o £10.8 miliwn i'r Gwasanaethau Plant.

"Fe wnaethon ni hefyd amddiffyn y Gwasanaethau Ieuenctid - gan gynnig dim toriad i'w cyllideb o gwbl.

"Dyma ein gwerthoedd, diogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn cystal ag y gallwn.

"Er ein bod yn gwybod bod ysgolion yn genedlaethol ac yma yng Nghaerdydd yn wynebu cynnydd difrifol mewn costau a galw, ar adeg pan fo cyfraddau geni yn gostwng, mae'r sefyllfa'n heriol, felly rydym yn gwneud yr hyn a allwn ni, o ystyried ein cyllid, i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol yn ein dinas.

"Rwyf hefyd yn falch ein bod wedi cynnig peidio â bwrw ymlaen ag arbedion anodd ar lanhau strydoedd a darparu biniau cyhoeddus, ac y gallem leihau arbedion ar wasanaethau pwysig fel y Timau Gweithredu Lleol - a gyflwynodd Llafur ychydig flynyddoedd yn ôl.

"Yn yr un modd, fe wnaethon ni wrando ar yr ymgynghoriad ac felly ein cynnig yw lleihau oriau agor mewn llawer o'n hybiau a'n llyfrgelloedd, ond nid lleihau'r diwrnodau maen nhw'n ar agor.  Hwn oedd y mwyaf poblogaidd o'r cynigion yr ymgynghorwyd â nhw, ac mae'n cydbwyso'r angen i wneud arbedion gyda'n huchelgais i ddiogelu ein hybiau a'n llyfrgelloedd trwy'r amseroedd anodd hyn."  

Bwriedir i'r cynnig i gasglu biniau/bagiau du bob tair wythnos ddod i rym yn ddiweddarach eleni. Mae Llywodraeth Cymru yn ffafrio casglu'r math hwn o wastraff bob tair wythnos er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu. Os na fydd Caerdydd yn gwella ei chyfradd ailgylchu gallai wynebu dirwy gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru. Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud ar ffioedd Gwastraff Gardd felly bydd y casgliadau hyn yn parhau am ddim pan fyddant yn dechrau eto yn y gwanwyn. Bydd penderfyniad ynghylch a fydd angen cyflwyno taliadau yn y dyfodol yn cael ei wneud yn ddiweddarach eleni.

Fel rhan o'r Gyllideb, bydd y Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i'w raglen gwariant cyfalaf 5 mlynedd, 2023/24 - 2027/28. Bwriad y rhaglen yw creu swyddi, adeiladu mwy o gartrefi cyngor, a gwella opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ynghyd â llu o fesurau eraill i wella'r ddinas.

Mae'n cynnwys y canlynol:

  • Buddsoddiad o £716.3 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd
  • £234 miliwn ar adeiladau ysgol newydd
  • £129.8 miliwn i ddatblygu Cledrau Croesi Caerdydd, llwybrau beicio strategol, gwella'r seilwaith trafnidiaeth ac annog teithio llesol, yn amodol ar gyllid grant
  • Buddsoddiad o £41 miliwn yn y seilwaith ysgolion presennol
  • Buddsoddiad o £32.7 miliwn yn y seilwaith priffyrdd
  • £215.5m ar fentrau datblygu economaidd, gan gynnwys y pentref chwaraeon rhyngwladol ac Arena Dan Do newydd (sy'n cael ei ariannu gan y datblygwr yn bennaf)
  • £47.3 miliwn i wneud addasiadau i bobl anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain
  • £34.9 miliwn i fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol
  • Buddsoddi £19.9 miliwn mewn parciau, meysydd chwarae, mannau agored a seilwaith yr harbwr
  • £14.2 miliwn i gefnogi gweithgareddau casglu ac ailgylchu gwastraff
  • £20.7 miliwn ar gyfer gwella cymdogaethau
  • Buddsoddi £4.6 miliwn mewn canolfannau hamdden
  • Buddsoddi £4.8 miliwn yn y Strategaeth Cartrefi Cywir Cymorth Cywir i blant, darpariaeth seibiant plant a llety porth i bobl ifanc

Cymerodd dros 9,000 o drigolion - y nifer fwyaf erioed - ran yn yr ymgynghoriad ar gyllideb Cyngor Caerdydd.

Helpodd eu barn i lunio'r gyllideb ar gyfer 2024/25, gan gynnwys

  • Roedd 81.6% yn cytuno y dylid cau amgueddfa Caerdydd ar un diwrnod yr wythnos
  • Roedd 81% yn cytuno y dylid trosglwyddo asedau meysydd chwarae a chyfleusterau newid
  • Roedd 78.1% o blaid dod o hyd i bartneriaid i gefnogi Planhigfa Parc Bute a Thŷ Gwydr Parc y Rhath
  • Roedd 76.7% yn cytuno y dylid dod o hyd i weithredwr amgen ar gyfer Ysgol Farchogaeth Caerdydd
  • Roedd 76.2% yn cytuno gyda'r cynnig i gynyddu'r tâl fesul awr am wasanaethau gofal cartref yn raddol
  • Roedd 69.3% yn cytuno y dylid cael gwared ar gopïau caled o bapurau newydd, cylchgronau a chyfnodolion
  • Roedd 67.7% yn cytuno y dylid blaenoriaethu cyllidebau ysgolion
  • Roedd 67.1% yn cytuno y dylid codi tâl am gasgliadau gwastraff swmpus
  • Roedd 66.3% yn cytuno y dylid cynyddu ffioedd claddu ac amlosgi
  • Roedd 63.8% yn cytuno y dylid cymhwyso cap Llywodraeth Cymru ar gyfer ffioedd gwasanaethau gofal cartref
  • Roedd 61.8% yn cytuno y dylid cynyddu ffioedd i oedolion sy'n llogi meysydd chwarae a chyfleusterau newid
  • Roedd 56.6% yn cytuno y dylid cynyddu nifer y gwirfoddolwyr mewn Hybiau a Llyfrgelloedd
  • Roedd 50.7% eisiau cadw biniau mewn ardaloedd preswyl.

Ar ôl ymgynghori â phreswylwyr, gwnaed rhai diwygiadau i'r cynigion arbed, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Godi'r Dreth Gyngor gan 6% i helpu i dalu am wasanaethau y mae preswylwyr eu heisiau
  • Bydd glanhau strydoedd yn cael ei ddiogelu a bydd biniau mewn ardaloedd preswyl yn cael eu cadw
  • Cynyddu'r gost o logi meysydd chwarae gan 10% yn hytrach na 30%
  • Hybiau/Llyfrgelloedd - lleihau oriau yn hytrach na'u cau am ddiwrnod yr wythnos
  • Ceidwaid Parciau Cymunedol - 2 weithiwr llawn-amser yn llai yn hytrach na 4. Bydd hyn yn golygu bod gan y gwasanaeth dri cheidwad yn fwy na phum mlynedd yn ôl
  • Ffioedd uwch ar gyfer claddu y tu allan i oriau - i'w osod ar 10% yn hytrach nag adennill costau llawn
  • Toriadau cyfyngedig i Dimau Gweithredu Lleol sy'n helpu i wella amgylchedd ein hystadau tai - gan flaenoriaethu ardaloedd o angen
  • Cynyddu pris prydau ysgol gan 10c yn hytrach na 30c

Gallwch ddarllen mwy am sut mae cyllideb y Cyngor yn gweithio a pham mae bwlch yn y gyllideb yma.