Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:
Cyngor yn cytuno ar ei weledigaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol, gan amlinellu'r blaenoriaethau a'r nodau y mae wedi'u gosod i'w hun ar gyfer y tair blynedd nesaf a thu hwnt.
Mae'r ddogfen yn nodi sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei weledigaeth 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' ar gyfer Caerdydd, er mwyn gwella bywydau ei holl drigolion drwy ei raglen eang o waith.
Cafodd ei drafod yn wreiddiol gan bwyllgorau Craffu'r Cyngor, cyn cael ei gytuno gan y Cabinet. Bydd y cynllun nawr yn mynd ymlaen i gyfarfod llawn y Cyngor ddydd Iau, 7 Mawrth, i'w drafod a phleidleisio arno.
Croesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, gymeradwyaeth y cynllun a dywedodd ei fod yn rhan hanfodol o ymrwymiad y Cyngor i greu dinas 'gryfach, decach, wyrddach' i'w thrigolion. "Rydym wedi gwneud cynnydd da ers ein hail-ethol yn 2022. Er gwaethaf yr argyfwng costau byw ac ôl-effeithiau'r pandemig credwn fod Caerdydd mewn sefyllfa dda i arwain yr adferiad yng Nghymru.
"Mae llawer o waith i'w wneud, fodd bynnag, ac mae'r saith amcan lles clir hyn yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r ddinas ond hefyd yn dangos yr hyn yr ydym am ei gyflawni - ac y gallwn ei gyflawni."
Y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ddigartref Caerdydd
Ffwrn, beic, pasbort a siwt newydd. Gall eitemau gwerth cymharol fach wneud gwahaniaeth mawr i fywyd rhywun digartref. Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, byddwn yn lansio ymgyrch 'Y Pethau Bychain sy'n Gwneud Gwahaniaeth Mawr', gan agor chwe phwynt cyfrannu newydd ar draws canol dinas Caerdydd i helpu i fynd i'r afael â digartrefedd ym mhrifddinas Cymru.
Mae'r ymgyrch hon yn rhan o ail-lansiad partneriaeth CAERedigrwydd rhwng FOR Cardiff ac elusennau a sefydliadau digartrefedd presennol sy'n mynd i'r afael â digartrefedd yng Nghaerdydd.
Wedi'i lansio gyntaf yn 2018, mae CAERedigrwydd wedi codi dros £12,000 ac wedi dosbarthu 32 o grantiau i sefydliadau ac elusennau yng Nghaerdydd sy'n gweithio gyda phobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
Bydd chwe phwynt cyfrannu newydd ar draws canol dinas Caerdydd yn caniatáu i bobl ddefnyddio eu ffonau clyfar i sganio cod QR a gwneud taliad cyflym a hawdd yn uniongyrchol i gronfa CAERedigrwydd gan wybod y bydd 100 y cant o'u rhodd yn mynd yn uniongyrchol at gefnogi pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rheolir cronfa CAERedigrwydd gan Sefydliad Cymunedol Cymru, sefydliad dielw annibynnol sy'n cefnogi grwpiau cymunedol ar lawr gwlad gyda chyllid i helpu i greu cydraddoldeb a chyfleoedd yng nghymunedau Cymru. Gall elusennau a sefydliadau yng Nghaerdydd wneud cais am grantiau rhwng £25 a £2,000 trwy Sefydliad Cymunedol Cymru i brynu eitemau hanfodol a hyfforddiant galwedigaethol i gefnogi pobl ar eu taith allan o ddigartrefedd.
Nawr am y tro cyntaf gall tîm Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd wneud cais am gyllid drwy CAERedigrwydd sy'n golygu y bydd mwy o bobl yn elwa ar y gronfa.
Ein Dinas: Ein Hiaith - gwefan siop un stop newydd y Brifddinas i bopeth Cymraeg
Mae 'na ddraig newydd yn y dref ar Ddydd Gŵyl Dewi, a'i henw hi yw Tesni!
Tesni yw wyneb gwefan newydd sbon a lansiwyd heddiw, ar ddydd ein nawddsant i hyrwyddo'r Gymraeg yn y brifddinas.
Yn dilyn cystadleuaeth ledled y ddinas i ddisgyblion ysgol roi enw i'r ddraig, a enillwyd gan Annabel o flwyddyn un yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd, mae Tesni yn tywys ymwelwyr i'r wefan newydd Ein Dinas: Ein Hiaith.
Mae'r wefan yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yng Nghaerdydd ar gyfer dinasyddion o bob oed ac mae'n cynnwys adrannau ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, addysg, bywyd myfyrwyr a mwy.
Yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae neges groesawu'r wefan hefyd ar gael mewn naw iaith a ddefnyddir yn gyffredin yng Nghaerdydd, i hyrwyddo'r iaith a gwasanaethau a chyfleoedd Cymraeg i bob cymuned yn y ddinas.
'Dyn Coed Afalau' wedi'i blannu ar safle perllan cymunedol newydd ym Mharc Bute
Mae un ar bymtheg o goed ffrwythau treftadaeth wedi'u plannu ar safle perllan cymunedol newydd yn y Gored Ddu ym Mharc Bute, gan gynnwys y ‘Dyn Coed Afalau' sef yr enw traddodiadol ar y goeden afalau hynaf mewn Perllan.
Mae 'Dyn Coed Afalau' Parc Bute yn goeden afalau Gŵyr gydag uchelwydd. Cafodd ei phlannu ochr yn ochr â phedair math arall o goed afalau treftadaeth, wrth i brosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd' Cyngor Caerdydd groesawu trigolion lleol ar safle perllan newydd ddydd Sadwrn (24 Chwefror).
Plannwyd hefyd amrywiaeth o wahanol goed gellyg, ceirios, eirin, gwyrddlas ac eirin hir. O dan y coed, bydd blodau gwyllt hefyd yn cael eu tyfu, gan greu lle bioamrywiol, lliwgar a chroesawgar i ymwelwyr â'r parc eu mwynhau.
Datblygwyd y syniad ar gyfer y berllan gan y gymuned yn 2021, fel ymateb cadarnhaol yn sgil fandaliaeth ddifrifol a adawodd lawer o goed yn y parc wedi'u difrodi.