Back
Ein Dinas: Ein Hiaith – gwefan siop un stop newydd y Brifddinas i bopeth Cymraeg


1/3/24 

Mae 'na ddraig newydd yn y dref ar Ddydd Gŵyl Dewi, a'i henw hi yw Tesni!

Tesni yw wyneb gwefan newydd sbon a lansiwyd heddiw, ar ddydd ein nawddsant i hyrwyddo'r Gymraeg yn y brifddinas.

Yn dilyn cystadleuaeth ledled y ddinas i ddisgyblion ysgol roi enw i'r ddraig, a enillwyd gan Annabel o flwyddyn un yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd, mae Tesni yn tywys ymwelwyr i'r wefan newydd Ein Dinas: Ein Hiaith.

Mae'r wefan yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yng Nghaerdydd ar gyfer dinasyddion o bob oed ac mae'n cynnwys adrannau ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, addysg, bywyd myfyrwyr a mwy.

Yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae neges groesawu'r wefan hefyd ar gael mewn naw iaith a ddefnyddir yn gyffredin yng Nghaerdydd, i hyrwyddo'r iaith a gwasanaethau a chyfleoedd Cymraeg i bob cymuned yn y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Ar Ddydd Gŵyl Dewi, cofiwn eiriau enwog ein nawddsant - gwnewch y pethau bychain.

"Mae'n bleser gen i eleni i nodi diwrnod ein nawddsant drwy wneud y pethau bychain a chyhoeddi lansiad ein gwefan newydd sbon sy'n tynnu sylw at bob cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein prifddinas, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'n hanes a'n diwylliant cyfoethog yma yng Nghaerdydd.

"Ein gweledigaeth yw i Gaerdydd fod yn brifddinas wirioneddol ddwyieithog, i dyfu a meithrin defnydd o'r Gymraeg yn y ddinas. Mae'r wefan newydd hon yn hanfodol i unrhyw un sy'n chwilio am wybodaeth am y Gymraeg yma. Rwy'n gwybod y bydd yn adnodd gwerthfawr fydd yn ein helpu i hyrwyddo'r Gymraeg i'n holl ddinasyddion.

"Llongyfarchiadau mawr i Annabel o Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd am feddwl am yr enw buddugol yn ein cystadleuaeth. Rydyn ni'n credu mai Tesni, sy'n golygu 'cynhesrwydd o'r haul' yw'r enw perffaith ar gyfer y ddraig a fydd yn mynd ag ymwelwyr i'r wefan ar daith ar draws ein prifddinas."

Fel gwobr am enwi Tesnisy'n byw yng Nghastell Caerdydd,gwahoddwyd Anna a'i ffrindiau dosbarth Blwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd ar ymweliad â'r Castell am daith o amgylch tirnod eiconig y ddinas. Bydd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry yn cyflwyno'r wobr i Annabel yn ei hysgol heddiw,gan gynnwys draig Lego a phyped draig.

 

I fynd i'r wefan newydd, ewch i https://www.eindinaseinhiaith.cymru/