Back
Ysgol Gynradd yn y Ddinas yn Cael ei Chanmol am 'Amgylchedd Tawel a Hapus'

20/2/2024

Mae ysgol gynradd dawel, bwrpasol a hapus yng Nghaerdydd wedi cael ei chanmol gan arolygwyr Estyn am ei hamgylchedd dysgu cynhwysol a meithringar lle mae disgyblion yn gwneud cynnydd da.

A group of kids sitting on a benchDescription automatically generated

Roedd gan Ysgol Gynradd Gabalfa, yn Heol Colwill, 252 o ddisgyblion ar y gofrestr adeg yr arolygiad, gyda 43.8% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a 16.8% gyda Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae'r ysgol wedi cael ei chanmol am ei hethos a'i chwricwlwm, ansawdd ei staff addysgu ac effeithiolrwydd ei chorff llywodraethu.

Canmolodd yr arolygwyr yr ysgol am gynnig 'amgylchedd cynhwysol a meithringar' i'w disgyblion, lle maent yn teimlo'n 'ddiogel ac wedi'u gwerthfawrogi'. Nodwyd bod y disgyblion yn gwneud 'cynnydd cyffredinol da mewn amgylchedd tawel, pwrpasol a hapus,' a bod gan y staff 'ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw eu hunain a'u disgyblion'.

A child holding a piece of artDescription automatically generated

Nododd yr adroddiad fod "y staff a'r disgyblion yn dathlu'r gwahanol ddiwylliannau, ieithoedd a chrefyddau a gynrychiolir yng nghymuned yr ysgol yn dda." Mae'r disgyblion hefyd yn datblygu sgiliau digidol cryf, tra bod y disgyblion hŷn yn dechrau defnyddio codio. Maent hefyd yn datblygu eu sgiliau corfforol a chreadigol yn dda.

Yn ôl yr adroddiad mae ymddygiad y disgyblion yn un o gryfderau'r ysgol, ac mae'r rhan fwyaf yn deall y ffordd y mae'r ysgol yn disgwyl iddynt ymddwyn ac yn awyddus i wneud eu gorau. (Arwyddair yr ysgol yw ‘Only Our Best is Good Enough')

A couple of kids planting a plant in a gardenDescription automatically generated

Mae ethos meithringar a gofalgar yr ysgol yn cynnwys annog y disgyblion i ymgymryd â rolau a chyfrifoldebau. Mae'r Grwpiau Ysgol (Cyngor Ysgol) yn yr ysgol yn gweithio'n agos gyda llywodraethwyr ac arweinwyr yr ysgol i rannu effaith cyfranogiad disgyblion ar wella'r ysgol.

Mae'r athrawon yn gwneud eu gwersi yn ysgogol ac yn ddiddorol, gan gynnig profiadau diddorol i ddisgyblion sy'n eu galluogi i ddysgu trwy brofiadau ymarferol dan do a thu allan. Canmolodd yr adroddiad dîm Arweinyddiaeth ac Addysgu'r ysgol, gan ddweud, "Mae'r arweinwyr a'r staff yn ymwybodol o anghenion y plant ac o ganlyniad maent yn gweithio'n ddiflino i gefnogi'r disgyblion a'u teuluoedd."

A child looking at a tabletDescription automatically generated

O'i hadroddiad cadarnhaol, bydd yr ysgol nawr yn mynd i'r afael â'r ddau argymhelliad gan Estyn yng nghynllun gweithredu'r ysgol; Gwella sgiliau iaith Gymraeg y disgyblion a gwella sgiliau cadw ffeithiau rhif y disgyblion i gefnogi eu sgiliau datrys problemau.

Canmolwyd y Pennaeth Carrie Jenkins, a gymerodd yr awenau yn yr ysgol yn 2012, yn yr adroddiad am hyrwyddo gweledigaeth gref ac am roi cefnogaeth effeithiol i'r staff a'r disgyblion i greu amgylchedd dysgu meithringar, tawel a phwrpasol.

Dywedodd: "Mae ein tîm yn falch iawn o'r ganmoliaeth gadarnhaol y mae'r ysgol wedi'i derbyn. Mae'r holl staff yn gweithio mor galed o ddydd i ddydd i sicrhau bod ein plant yn mwynhau'r ysgol ac yn mwynhau dysgu. Mae'n werth chweil gweld bod eu gwaith caled yn cael ei gydnabod. Ond y plant sy'n gwneud ein hysgol ni mewn gwirionedd.  Gofynnwn iddyn nhw wneud eu gorau bob dydd, yn union fel y dywed arwyddair ein hysgol, a dyna maen nhw'n ei wneud. Rydym yn falch iawn ohonyn nhw i gyd.

Nododd yr adroddiad fod y pennaeth a'r tîm arweinyddiaeth yn canolbwyntio'n gadarn ar barhau i wella'r ysgol. Dywedodd Mrs Jenkins "Byddwn yn parhau i yrru ein hysgol yn ei blaen a'i gwella bob ffordd y gallwn. Rydym yn cael cefnogaeth ragorol gan ein Corff Llywodraethu, a chyda'i help, byddwn yn ymdrechu i gynnal y safonau gwych yma yn Ysgol Gynradd Gabalfa, gan sicrhau ei bod yn parhau'n ysgol lle mae brwdfrydedd plant dros ddysgu yn cael ei ysgogi, er mwyn eu gwasanaethu'n dda trwy gydol eu hoes."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, ei bod yn falch o adroddiad Estyn a'r gwelliant parhaus sy'n cael ei wneud gan yr ysgol. "Mae'n amlwg bod Gabalfa yn ysgol hapus lle mae'r staff a'r llywodraethwyr yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y gorau o'u hadnoddau.

"Maen nhw'n dyrannu adnoddau'n effeithiol ar draws yr ysgol i dargedu'r disgyblion hynny sydd â'r angen mwyaf, er enghraifft wrth ddefnyddio cyfran o'r grant datblygu disgyblion i ariannu gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol."

Ni fydd dull Estyn o arolygu ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yng Nghymru yn cynnwys sgoriau crynhoi (e.e. 'Ardderchog', 'Da' neu 'Digonol') mwyach a bydd bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.

I ddarllen yr adroddiad llawn, dilynwch y ddolen hon: *Adroddiad Arolwg Ysgol Gynradd Gabalfa 2024 (llyw.cymru)