13/2/2024
Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair wedi derbyn canmoliaeth gan Estyn am ei amgylchedd cynnes, gofalgar a chynhwysol.
Yn ystod ymweliad diweddar gan Estyn, yr Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, tynnodd arolygwyr sylw at y gwaith cadarnhaol sy'n digwydd yn yr ysgol, gyda'r uchafbwyntiau yn cynnwys:
Gweledigaeth o Ragoriaeth: Caru, Tyfu, Credu, Cyflawni; Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn cael ei chanmol am ei hawyrgylch gynnes, ofalgar a chroesawgar, lle mae'r weledigaeth 'Caru, Tyfu, Credu, Cyflawni' yn treiddio i bob agwedd ar fywyd ysgol. Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r berthynas gref rhwng staff a myfyrwyr, gan gyfrannu at fyfyrwyr sy'n ymddwyn yn dda sy'n gyflym i ymdawelu ac ymddiddori yn eu gwaith.
Cynnydd Academaidd a Chefnogaeth i bawb; Mae'r arolwg yn cydnabod bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Amlygir datblygiad sgiliau sylfaenol gan athrawon fel cryfder, gyda staff cymorth dysgu yn chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo pob myfyriwr i gael addysg effeithiol.
Cwricwlwm Eang a Chytbwys; Mae'r ysgol yn cynnig cwricwlwm eang a chytbwys, gan ddarparu profiadau dysgu amrywiol i'r myfyrwyr. Mae'r adroddiad yn canmol y gwaith cynllunio cyfleoedd pwrpasol i ddatblygu sgiliau llafaredd, darllen, ysgrifennu a mathemateg. Fodd bynnag, gwneir argymhellion i wella'r ddarpariaeth ar gyfer rhifedd a sgiliau digidol, ac i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr wneud dewisiadau yn eu haddysg.
Arweinyddiaeth ac Ymgysylltu â'r Gymuned; Mae arweinyddiaeth yr ysgol, dan arweiniad y pennaeth gyda chymorth uwch aelodau staff, yn sicrhau bod disgwyliadau athrawon yn briodol i bob myfyriwr, gan gynnwys grwpiau sy'n agored i niwed. Mae'r ysgol yn cael ei chydnabod am ei rôl annatod yn y gymuned, gan feithrin partneriaethau llwyddiannus rhwng y cartref, yr ysgol a'r plwyf.
Adroddiad cadarnhaol ar y cyfan a bydd yr ysgol yn mynd i'r afael bellach â'r tri argymhelliad gan Estyn drwy gynllun gweithredu'r ysgol;
Wrth fyfyrio ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Claire Russell: "Rydym yn falch iawn o'n hadroddiad gan Estyn sy'n adlewyrchu gwaith caled pawb yng nghymuned ein hysgol. Rydym yn arbennig o falch bod Estyn wedi cydnabod bod gweledigaeth ein hysgol 'Caru, Tyfu, Credu, Cyflawni' yn treiddio i bopeth a wnawn yn ein hysgol a bod ein disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu haddysg.
"Rydym hefyd yn falch iawn eu bod yn cydnabod ein bod yn darparu lefelau hynod effeithiol o ofal, cymorth ac arweiniad i'n plant a'u teuluoedd."
Ychwanegodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Robert Free: "Rwyf wrth fy modd bod gofal a gwaith caled ein pennaeth a'i holl staff wedi eu hadlewyrchu yn yr adroddiad, a gwblhawyd gan Estyn yn ddiweddar. Rydym yn falch iawn bod y weledigaeth o ragoriaeth sydd gennym ar gyfer yr ysgol a'n plant, wedi ei chydnabod gan yr arolygwyr."
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Estyn wedi cydnabod peth o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, ysgol gyfoethog amrywiol sy'n canolbwyntio'n gryf ar ei hethos a'i gwerthoedd o groeso, cariad a pharch.
"Roedd yn braf clywed bod lefel uchel o ofal yn cael ei darparu i'r disgyblion a'u teuluoedd, gan helpu i sicrhau bod yr ysgol yn gymuned lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hyn yn cael ei gydnabod gan rieni sy'n teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac sy'n siarad yn gynnes am y berthynas sydd ganddynt â'r ysgol.
"Dylai staff, disgyblion a rhieni deimlo'n falch o'r cyflawniad hwn a byddant yn cael eu cefnogi i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn i wella'r ddarpariaeth yn yr ysgol ymhellach. Da iawn."
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair 235 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 31.1% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, 8.6% wedi'u nodi eu bod ag anghenion dysgu ychwanegol a 43.8% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.
Mae Estyn wedi mabwysiadu dull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru. Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddant bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.
Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.
Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei wneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.