Back
Adeiladwr twyllodrus oedd yn cario ‘arf tanion ffug’ yn cael ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd

13/02/24


Mae adeiladwr twyllodrus oedd yn cario ‘gwn ffug' wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a phum mis o garchar yn Llys y Goron Caerdydd am dwyllo pedwar dioddefwr allan o £113,000, ar ôl gwneud gwaith adeiladu gwael a pheryglus i'w cartrefi yng Nghaerdydd, ac am feddu ar arf tanio ffug mewn achos ar wahân.

Honnodd Daniele Roche, 47 oed o'r Porth, ei fod yn weithiwr brics cymwysedig ac yn grefftwr medrus a wnaeth amrywiaeth o welliannau i'r cartref a gwaith adeiladu trwy ei gwmnïau - DRJ Builders a DWK Builders.

Clywodd y llys ddydd Gwener diwethaf (9 Chwefror) fod yr honiadau a wnaed gan Mr Roche yn anghywir. Roedd y diffynnydd nid yn unig yn anghymwys i gyflawni'r gwaith, ond fe gododd llawer gormod am y gwaith yr oedd yn honni ei fod wedi ei wneud, a defnyddiodd dacteg o roi pwysau ac ymddygiad bygythiol ar ei ddioddefwyr pan ofynnon nhw am ad-daliad.

Digwyddodd ymddygiad troseddol Roche rhwng Tachwedd 2021 a Gorffennaf 2022 ac roedd yn cynnwys pedwar eiddo gwahanol yng Nghaerdydd. Arweiniodd gwerthusiadau annibynnol dilynol o waith Roche at yr ystyriaeth fod dau eiddo yn anniogel, gyda gwerth ond wedi ei ychwanegu at un eiddo pan gafodd ail lawr yr eiddo ei ail-rendro.

Plediodd Mr Roche yn euog i un cyfrif o dwyll ar 27 Hydref, 2023, ac yn euog o feddu ar arf tanio ffug pan oedd ar fechnïaeth am y drosedd hon ar 24 Ionawr, 2024.

Dwedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r achos hwn yn dangos, os yw pobl am gael gwelliannau i'w heiddo, gwnewch eich ymchwil. Sicrhewch dri dyfynbris bob amser ar gyfer y gwaith rydych eisiau ei wneud, fel y gallwch wneud popeth o fewn eich gallu i osgoi penodi adeiladwyr fel Roche.

"Fe dwyllodd ei ddioddefwyr, ond defnyddiodd dactegau bwli hefyd, gan fygwth pobl y byddai'n gadael y gwaith heb ei orffen pe na bai arian pellach yn cael ei dalu. Fe wnaeth hyd yn oed fygwth dwyn achos cyfreithiol yn erbyn ei ddioddefwyr pan wnaethon nhw ei herio ar waith nad oedd wedi'i wneud ac am gwestiynu ble roedd offer yr oedd yn honni ei fod wedi ei archebu, ond heb wneud hynny.

"Bu'n rhaid i'r dioddefwyr fenthyg arian pellach i unioni'r diffygion yr oedd Mr Roche wedi'u hachosi, ac mae'r Asesiadau o'r Effaith ar y Dioddefwyr yn dangos yn glir y straen a'r pryder a ddeilliodd o'i weithredoedd. Mae ganddo nawr amser i fyfyrio ar yr effaith y mae wedi'i hachosi i'w ddioddefwyr, yn y carchar" ychwanegodd y Cynghorydd De'Ath.

Wrth liniaru, dywedodd Cwnsler Amddiffyn Mr Roche wrth y llys fod y diffynnydd wedi bod yn adeiladwr gweithgar a oedd wedi cael ei lethu gan broblemau personol ac wedi ymgymryd â gormod o waith. Honnodd na wnaeth Mr Roche dwyllo ei ddioddefwyr yn fwriadol o'r cychwyn cyntaf a phlediodd yn euog i'r troseddau mor gynnar â phosibl.

Wrth ddedfrydu, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Petts, er ei fod yn derbyn ei fod wedi cael ei lethu a'i drechu gan broblemau personol, nid oedd hyn yn fawr o gysur i'w ddioddefwyr. Roedd wedi methu â chyflawni'r hyn yr oedd wedi addo ei wneud ac wedi gadael anhrefn ar ei ôl.

Dedfrydwyd Mr Roche i bum mlynedd o garchar, wedi'i ostwng i dair blynedd a naw mis oherwydd ei bleon cynnar am y drosedd o dwyll ac wyth mis o garchar am fod ag arf tanio ffug yn ei feddiant, i redeg yn olynol, gan roi cyfanswm o bedair blynedd a phum mis o garchar.