Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 09 Chwefror 2024

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Seremoni swyddogol yn dathlu dechrau gwaith i adeiladu campws addysg arloesol yn y Tyllgoed
  • Cyrtiau tennis ym mharciau Caerdydd i gael eu hadnewyddu
  • Sesiwn raddio'r Academi Cogyddion Iau yn nodi llwyddiant coginio i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd
  • Llyfr stori â darluniau newydd i helpu plant i oresgyn trawma

 

Gwaith yn dechrau'n swyddogol ar gampws addysg arloesol newydd yn y Tyllgoed

Mae seremoni arbennig sy'n torri tir newydd wedi nodi dechrau'r gwaith adeiladu campws addysg ar y cyd arloesol newydd, i'w leoli yn ardal y Tyllgoed o'r ddinas.

Y prosiect sy'n werth £110m yw'r mwyaf o ran maint a buddsoddiad o blith datblygiadau addysg Caerdydd a gyflwynir o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd. Bydd y datblygiad yn cynnwys adeiladu tair ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands, i gyd wedi'u lleoli ar un safle.

Torrwyd y tir ar y safle gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.

Ymunodd Pennaeth yr Ysgol yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Geraint Jones a Chadeirydd y Llywodraethwyr Barbara Connell ynghyd â'r Pennaeth Gweithredol, Wayne Murphy a Chadeirydd y Llywodraethwyr Bianca Rees o Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin, y mae Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands ill dau yn rhan o hyn.

Hefyd yn bresennol roedd  cynrychiolwyr o HLM Architects ac ISG, y contractwr a ddewiswyd i ymgymryd â dyluniad manwl a'r gwaith adeiladu ar gyfer y cynllun.

Bydd y datblygiad yn un Carbon Sero-net yn unol â safonau Llywodraeth Cymru a bydd yn gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion Caerdydd yn y dyfodol. Bydd y tair ysgol yn adeiladau hynod effeithlon o ran ynni, wedi'u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan alluogi Caerdydd i weithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas i liniaru newid yn yr hinsawdd.

Darllenwch fwy yma

 

Cyrtiau tennis parciau yng Nghaerdydd i gael eu hadnewyddu

Bydd cyrtiau tennis mewn chwe pharc yng Nghaerdydd yn cael eu gweddnewid yn llwyr er budd trigolion lleol fel rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a'r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA).

Bydd cyrtiau tennis Parc y Mynydd Bychan, Gerddi Pleser Parc y Rhath a Pharc Hailey i gyd yn elwa o gael gosod wyneb newydd, ailbeintio a rhwydi newydd, felly hefyd gyrtiau Caeau Llandaf, Parc Fictoria a Gerddi Bryn Rhymni, fel y cyhoeddwyd gan y Cyngor y llynedd.

Mae dros £730,000 yn cael ei fuddsoddi fel rhan o'r hwb hwn i gyfleusterau chwaraeon lleol, gyda £516,000 yn dod drwy Brosiect Tennis Parc yr LTA a'r arian sy'n weddill gan Chwaraeon Cymru a Chyngor Caerdydd. 

Mae'r gwaith adnewyddu yn rhan o Brosiect Tennis Parc yr LTA, lle mae'n darparu buddsoddiad o £30 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Sefydliad Tenis yr LTA i weddnewid miloedd o gyrtiau ledled Cymru, yr Alban a Lloegr. Mae dros 1,500 o gyrtiau wedi'u cwblhau hyd yn hyn fel rhan o'r prosiect.

Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu ym mhob un o'r chwe lleoliad - gan gynnwys wyth cwrt na ellir chwarae arnynt ar hyn o bryd yng Nghaeau Llandaf a datblygu dau gwrt newydd yng Ngerddi Bryn Rhymni a dau ym Mharc Hailey - ddechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda'r cyfleusterau newydd a gwell yn barod i'w defnyddio cyn Wimbledon.

Mae disgwyl i gyfuniad o dennis am ddim a thenis cost isel gael eu cyflwyno ar draws y safleoedd, a gaiff eu cynnal gan Tennis Cymru yn y Parc gan ddefnyddio model tebyg i'r un sydd wedi rhedeg yn llwyddiannus ym Mharc y Mynydd Bychan ers sawl blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae Tocynnau Teulu ym Mharc y Mynydd Bychan yn costio £39 y flwyddyn, mae Tocynnau Myfyrwyr yn £19 y flwyddyn ac mae hurio fesul awr ar gael ar gyfer grwpiau mwy achlysurol o chwaraewyr, am £4.50 y cwrt yr awr.

Mae'r costau llogi hyn yn cymharu'n ffafriol â phêl-rwyd, hoci, pêl-droed, rygbi, sboncen a chwaraeon eraill yn y ddinas.  Bydd yr elw yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y cyrtiau yn parhau i gael eu cynnal a'u cadw'n dda yn y dyfodol.

Law y llaw â hyn, bydd Cyngor Caerdydd a Tennis Cymru yn y Parc hefyd yn gweithio gyda'r LTA i redeg calendr o gyfleoedd prawf am ddim, diwrnodau agored a hyfforddiant am ddim gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau tennis parc am ddim wythnosol i bob oed, lefelau o chwarae a phrofiad lle darperir offer, sy'n golygu na fydd pobl angen rhywun i chwarae gyda nhw na bod â'u raced eu hunain. Bydd cynghreiriau tennis lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i fod yn actif trwy gystadleuaeth. 

Darllenwch fwy yma

 

Chwant Llwyddiant: Sesiwn raddio'r Academi Cogyddion Iau yn nodi llwyddiant coginio i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Mae'r Academi Cogyddion Iau, a gyflwynir gan Compass Cymru mewn cydweithrediad â Choleg Caerdydd a'r Fro fel rhan o fenter a arweinir gan Addewid Caerdydd, yn dathlu graddio deg cogydd ifanc addawol o Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Wedi'u dewis am ddangos diddordeb yn y diwydiant coginio a lletygarwch, mae'r grŵp o ddisgyblion 14-15 oed wedi cael eu trochi mewn rhaglen ddwys 10 wythnos, gan eu hymgysylltu â'r celfyddydau coginio.  Mae'r cwrs wedi cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol ac wedi cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys sgiliau cyllyll, saladau a bwyta'n iach, bara, cig, pysgod, dofednod a phwdinau.

Mae'r rhaglen wedi cynnwys dosbarthiadau meistr gan Gogyddion Compass Cymru a thechnegwyr y coleg sy'n darparu sesiynau trochi i arddangos heriau a llwyddiannau yn y maes coginio. Trwy bartneriaeth â cholegau a stadia lleol, mae disgyblion hefyd wedi manteisio ar arbenigedd a chyfleusterau o'r radd flaenaf i feithrin cyfleoedd a llwybrau addysg bellach.

Mae'r darpar gogyddion wedi arddangos eu sgiliau newydd mewn digwyddiad graddio mawreddog a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd lle gwnaethant ddylunio a pharatoi pryd tri chwrs a weinwyd i gynulleidfa o fwy na 40 o westeion gan gynnwys rhieni, gofalwyr, cynrychiolwyr y coleg a'r ysgol a phwysigion o'r awdurdod lleol. Anrhydeddwyd pob myfyriwr graddedig gyda thystysgrif, set o gyllyll cogydd a bag rhoddion drwy haelioni Compass Cymru. Noddwyd y rhaglen gan Brakes a ddarparodd y bwyd a'r dillad coginio.

Darllenwch fwy yma

 

Stori'r Ysgyfarnog i helpu plant ysgol i oresgyn profiadau trawmatig

Bydd pob ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn derbyn llyfr stori ddarluniadol sy'n canolbwyntio ar oresgyn trawma.

Wedi'i hysgrifennu a'i baentio gan seicotherapydd celf Cymru, Lilith Gough, mae 'Helpu'r Ysgyfarnog sy'n Brifo' yn gyfrol fach a fydd yn adnodd defnyddiol i ysgolion y ddinas ddarllen gyda phlant sydd wedi profi unrhyw fath o drawma.  Mae'r Cyngor wedi talu am y llyfrau gyda rhoddion yn cael eu derbyn fel rhan o'i ymgyrch Rhuban Gwyn i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae'r llyfr, a fydd hefyd ar gael ym mhob llyfrgell yn y ddinas, yn adrodd hanes diwrnod yr Ysgyfarnog yn nghymdogaeth y coetir lle mae'n cwrdd â gwahanol ffrindiau anifeiliaid.  Mae pob un yn dysgu sgil pwysig i helpu'r Ysgyfarnog i gyffroi llai a chydnabod bod bywyd bellach yn ddiogel.  Ar hyd y ffordd, mae'r Ysgyfarnog yn dysgu am wahanol dŵls sefydlogi sy'n bwysig i unrhyw oroeswr trawma.

Mae'r Ysgyfarnog yn ceisio ymarfer ei sgiliau ac mae'r darllenydd yn cael ei annog i wneud hynny hefyd.  Thema gref o'r stori yw sylweddoli ei fod yn ddiogel a derbyn bod yr amseroedd heriol drosodd.

Darllenwch fwy yma