6/2/24
Bydd pob ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn derbyn llyfr stori ddarluniadol sy'n canolbwyntio ar oresgyn trawma.
Wedi'i hysgrifennu a'i baentio gan seicotherapydd celf Cymru, Lilith Gough, mae 'Helpu'r Ysgyfarnog sy'n Brifo' yn gyfrol fach a fydd yn adnodd defnyddiol i ysgolion y ddinas ddarllen gyda phlant sydd wedi profi unrhyw fath o drawma. Mae'r Cyngor wedi talu am y llyfrau gyda rhoddion yn cael eu derbyn fel rhan o'i ymgyrch Rhuban Gwyn i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae'r llyfr, a fydd hefyd ar gael ym mhob llyfrgell yn y ddinas, yn adrodd hanes diwrnod yr Ysgyfarnog yn nghymdogaeth y coetir lle mae'n cwrdd â gwahanol ffrindiau anifeiliaid. Mae pob un yn dysgu sgil pwysig i helpu'r Ysgyfarnog i gyffroi llai a chydnabod bod bywyd bellach yn ddiogel. Ar hyd y ffordd, mae'r Ysgyfarnog yn dysgu am wahanol dŵls sefydlogi sy'n bwysig i unrhyw oroeswr trawma.
Mae'r Ysgyfarnog yn ceisio ymarfer ei sgiliau ac mae'r darllenydd yn cael ei annog i wneud hynny hefyd. Thema gref o'r stori yw sylweddoli ei fod yn ddiogel a derbyn bod yr amseroedd heriol drosodd.
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Mae cefnogi plant drwy drawma a phrofiadau niweidiol yn flaenoriaeth i bob un ohonom, gan eu helpu i weld y pethau cadarnhaol a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Mae'n amlwg i mi bod y llyfr hwn yn adnodd gwych i helpu plant i ddeall eu teimladau a bod ffordd ymlaen iddyn nhw, ond yn bwysicaf oll nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain."
Ymgyrch fyd-eang yw'r Rhuban Gwyn sy'n annog pobl, dynion a bechgyn yn enwedig, i weithredu yn unigol ac ar y cyd i newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gam-drin a thrais. Mae gwisgo rhuban gwyn yn arwydd o addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.
Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad Rhuban Gwyn achrededig a phob mis Tachwedd, mae gweithgareddau, digwyddiadau, codi ymwybyddiaeth a chodi arian cyffredinol yn digwydd ar ac o gwmpas 25 Tachwedd, Diwrnod Rhuban Gwyn y Byd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Chris Weaver: "Am ffordd wych o ddefnyddio'r arian a godwyd yn ystod gweithgareddau'r Rhuban Gwyn. Rwy'n siŵr y bydd y llyfr hwn yn ddefnyddiol i ysgolion ledled y ddinas pan fydd angen iddynt gefnogi plant sydd wedi profi trawma.
"Mae plant sydd wedi dod i gysylltiad â cham-drin domestig yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr cam-drin domestig, nid dim ond tystion,felly mae'n hanfodol ein bod yn rhoi cymorth iblant a phobl ifanc cystal ag y gallwn, i'w helpu i symud ymlaen o'r profiadau hynny."