Back
Cyrtiau tennis parciau yng Nghaerdydd i gael eu hadnewyddu

5.2.24

Bydd cyrtiau tennis mewn chwe pharc yng Nghaerdydd yn cael eu gweddnewid yn llwyr er budd trigolion lleol fel rhan o bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a'r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA).

Bydd cyrtiau tennis Parc y Mynydd Bychan, Gerddi Pleser Parc y Rhath a Pharc Hailey i gyd yn elwa o gael gosod wyneb newydd, ailbeintio a rhwydi newydd, felly hefyd gyrtiau Caeau Llandaf, Parc Fictoria a Gerddi Bryn Rhymni, fel y cyhoeddwyd gan y Cyngor y llynedd.

Mae dros £730,000 yn cael ei fuddsoddi fel rhan o'r hwb hwn i gyfleusterau chwaraeon lleol, gyda £516,000 yn dod drwy Brosiect Tennis Parc yr LTA a'r arian sy'n weddill gan Chwaraeon Cymru a Chyngor Caerdydd.                           

Mae'r gwaith adnewyddu yn rhan o Brosiect Tennis Parc yr LTA, lle mae'n darparu buddsoddiad o £30 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Sefydliad Tenis yr LTA i weddnewid miloedd o gyrtiau ledled Cymru, yr Alban a Lloegr. Mae dros 1,500 o gyrtiau wedi'u cwblhau hyd yn hyn fel rhan o'r prosiect.

Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu ym mhob un o'r chwe lleoliad - gan gynnwys wyth cwrt na ellir chwarae arnynt ar hyn o bryd yng Nghaeau Llandaf a datblygu dau gwrt newydd yng Ngerddi Bryn Rhymni a dau ym Mharc Hailey - ddechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda'r cyfleusterau newydd a gwell yn barod i'w defnyddio cyn Wimbledon.

Mae disgwyl i gyfuniad o dennis am ddim a thenis cost isel gael eu cyflwyno ar draws y safleoedd, a gaiff eu cynnal gan Tennis Cymru yn y Parc gan ddefnyddio model tebyg i'r un sydd wedi rhedeg yn llwyddiannus ym Mharc y Mynydd Bychan ers sawl blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae Tocynnau Teulu ym Mharc y Mynydd Bychan yn costio £39 y flwyddyn, mae Tocynnau Myfyrwyr yn £19 y flwyddyn ac mae hurio fesul awr ar gael ar gyfer grwpiau mwy achlysurol o chwaraewyr, am £4.50 y cwrt yr awr.

Mae'r costau llogi hyn yn cymharu'n ffafriol â phêl-rwyd, hoci, pêl-droed, rygbi, sboncen a chwaraeon eraill yn y ddinas.  Bydd yr elw yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y cyrtiau yn parhau i gael eu cynnal a'u cadw'n dda yn y dyfodol.

Law y llaw â hyn, bydd Cyngor Caerdydd a Tennis Cymru yn y Parc hefyd yn gweithio gyda'r LTA i redeg calendr o gyfleoedd prawf am ddim, diwrnodau agored a hyfforddiant am ddim gydol y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau tennis parc am ddim wythnosol i bob oed, lefelau o chwarae a phrofiad lle darperir offer, sy'n golygu na fydd pobl angen rhywun i chwarae gyda nhw na bod â'u raced eu hunain. Bydd cynghreiriau tennis lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i fod yn actif trwy gystadleuaeth. 

Bydd y cyrtiau sydd wedi'u hadnewyddu i gyd ar gael i'w harchebu drwy wefan Chwarae Tennis yr LTA, gan ei gwneud hi'n haws i chwaraewyr ganfod, archebu a mynd ar y cwrt.

Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:   "Fe wnaeth buddsoddiad gan yr LTA a Tennis Cymru yn y cyrtiau ym Mharc y Mynydd Bychan weddnewid y safle o un oedd ag ond ychydig iawn o weithgaredd tennis, i fod yn ganolfan dennis fywiog gyda dros 900 o chwaraewyr yn mwynhau'r cyrtiau.

"Mae wir wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau ac mae'n gyffrous iawn meddwl y bydd buddsoddiad yr LTA yn galluogi'r cynllun i gael ei gyflwyno ar draws y ddinas, gan ddod â'r gamp at hyd yn oed mwy o bobl."

"Yr uchelgais yw gwella profiad y cwsmer, cynyddu nifer y bobl sy'n chwarae'r gêm, a chreu lleoedd diogel i chwarae trwy leihau'r ymddygiad gwrthgymdeithasol, y fandaliaeth a'r camddefnydd a wnaed o'r cyrtiau.

"Yn bwysig, bydd Tennis Cymru yn y Parc yn ail-fuddsoddi unrhyw arian a godir drwy ffioedd chwarae i'r cyrtiau fel eu bod yn cael eu cynnal i lefel uchel, gan sicrhau y bydd pobl yn parhau i fod â lle gwych i ddysgu a mwynhau'r gêm yn y dyfodol, ac i ddarparu rhaglenni ar gyfer grwpiau a gweithgareddau cymunedol lleol i annog pobl i roi cynnig ar y gamp am y tro cyntaf."

Dwedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yr LTA:"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i wella eu cyfleusterau tennis parc a chynnig mwy o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a bod yn actif.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o Brosiect Tennis Parc Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a'r LTA, a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda'r cyngor i sicrhau bod gan y gymuned leol ystod o gyfleoedd hygyrch i droedio'r cyrtiau, ac agor ein camp i lawer mwy o bobl."