Diweddariad Dydd Gwener, sy'n cynnwys:
EPCR yn cyhoeddi dau leoliad o'r radd flaenaf ar gyfer Cwpan Pencampwyr Investec 2025 a 2026 a Phenwythnos Rowndiau Terfynol Cwpan Her EPCR
Mae'n bleser gan EPCR gyhoeddi bod Caerdydd a Bilbao wedi'u dewis fel y dinasoedd i gynnal Penwythnosau Terfynol 2025 a 2026 y twrnamaint.
Yn dilyn proses dendro hynod gystadleuol ar y cyd ag Yr Ymgynghoriaeth Chwaraeon a dderbyniodd geisiadau cryf gan 23 stadia yn 12 gwlad, dyfarnodd Bwrdd EPCR fod rowndiau terfynol Cwpan Pencampwyr Investec 2025 a Chwpan Her EPCR yn mynd i Stadiwm Principality, lleoliad eiconig â lle i 74,000 ym mhrifddinas Cymru. Mae'n cael ei ystyried yn eang fel un o leoliadau chwaraeon gorau'r byd. Penderfynwyd hefyd y byddai'r gemau arbennig yn 2026 yn dychwelyd i Stadiwm San Mamés yn Bilbao, Sbaen.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd a Rygbi wastad wedi mynd law yn llaw, felly rydym yn falch iawn o groesawu Cwpan Pencampwyr Investec a Rowndiau Terfynol Cwpan Her EPCR yn ôl i'r ddinas am y tro cyntaf ers degawd, am benwythnos bythgofiadwy."
"Ers iddo agor, mae digwyddiadau yn Stadiwm Principality wedi cynhyrchu tua £2 biliwn mewn gwariant ymwelwyr ac wedi cefnogi mwy na 50,000 o swyddi llawn amser yn lleol - tystiolaeth glir bod digwyddiadau mawr fel hyn, yn ogystal â chreu awyrgylch arbennig yn y ddinas, hefyd yn dod â manteision economaidd sylweddol."
"Yn hanesyddol mae'r EPCR bob amser yn perfformio'n gryf ar gyfer dinasoedd lletyol o ran niferoedd a gwariant ymwelwyr. Yn wir, y tro diwethaf i'r twrnamaint ddod i Gaerdydd fe gynhyrchodd £24 miliwn o effaith economaidd uniongyrchol a hynny o un gêm ddydd Sadwrn. Flwyddyn nesaf, gyda phenwythnos gyfan i'w fwynhau, byddem yn rhagweld y bydd hynny'n uwch fyth."
Mae gan Gaerdydd gysylltiad hir a disglair ag EPCR ar ôl llwyfannu gemau penderfynol Cwpan Heineken/Cwpan y Pencampwyr proffil uchel ar saith achlysur blaenorol - yr olaf yn 2014 - a bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn dathlu 30 rownd derfynol elitaidd EPCR ers i Stade Toulousain greu hanes drwy drechu Caerdydd ar ôl amser ychwanegol yn yr hen Faes Cenedlaethol, Parc yr Arfau Caerdydd ym 1996, ger safle Stadiwm Principality, sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 25 y tymor hwn.
Canolfan Blant Integredig Trelái a Chaerau yn serennu yn Arolwg Estyn
Mae Canolfan Blant Integredig Trelái a Chaerau, sydd wedi'i lleoli ar Michaelston Road yn Nhrelái, wedi derbyn canmoliaeth yn ei harolwg diweddar a gynhaliwyd gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Amlygodd arolygwyr ymrwymiad y ganolfan i ddarparu amgylchedd diogel, ysbrydoledig a meithringar i blant ifanc.
Heb unrhyw argymhellion penodol, mae'r adroddiad yn annog y ganolfan i barhau â'i thaith wella, gan adeiladu ar y sylfaen sydd eisoes yn drawiadol.
Dywedodd Pennaeth y Ganolfan, Annamaria Bevan: "Rydyn ni wrth ein boddau â chanlyniad ein harolwg diweddar. Mae'r athrawon a'r ymarferwyr yn y ganolfan yn ymroddedig i'w proffesiwn ac yn gweithio'n galed i sicrhau bod anghenion unigol plant a theuluoedd yn cael eu diwallu.
"Rydym yn falch o ddweud ein bod yn defnyddio chwarae ac archwilio fel cyfrwng ar gyfer dysgu, gan gefnogi plant drwy ddull rhyddid gyda chanllawiau, gan alluogi pob plentyn i wneud cynnydd o'u man cychwyn."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Canolfan Blant Integredig Trelái a Chaerau yn dyst i ymroddiad a rhagoriaeth ei harweinyddiaeth a'i staff wrth ddarparu amgylchedd meithringar ar gyfer datblygiad cyfannol plant ifanc.
"Hoffwn longyfarch y staff ar yr adroddiad cadarnhaol hwn."
Ar adeg yr arolwg, roedd gan Ganolfan Blant Trelái a Chaerau 69 o blant ar y gofrestr gyda 7% yn cael eu nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.
Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Yr Alban ar 3 Chwefror yng Nghaerdydd
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn 3 Chwefror yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 4.45pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 12.45pm tan 8.45pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon.
Bydd y gatiau'n agor am 2.30pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru, yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 12.45am tan 8.45pm.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.