Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 30 Ionawr 2024

30/01/24


Diweddariad Dydd Mawrth, sy'n cynnwys:

  • Cyhoeddi cadeirydd newydd i archwilio potensial ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren
  • Arweinwyr dinesig yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost mewn seremoni ddwys
  • Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2024 ar agor nawr

Cyhoeddi cadeirydd newydd i archwilio potensial ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren

Mae arloeswr blaenllaw yn niwydiant ynni gwynt y byd wedi'i benodi i arwain ymdrech drawsffiniol i archwilio potensial ynni cynaliadwy Aber Afon Hafren.

Mae gan Aber Afon Hafren un o'r amrediadau llanw uchaf yn y byd ac amcangyfrifir bod ganddi'r potensial i ddarparu hyd at 7% o gyfanswm ynni'r DU.

Mae lansiad swyddogol a chyfarfod cyntaf y comisiwn wedi'u trefnu ar gyfer y mis nesaf.

Mae Dr Andrew Garrad CBE, arloeswr blaenllaw yn y diwydiant ynni gwynt modern, wedi'i benodi'n Gadeirydd comisiwn annibynnol newydd Porth y Gorllewin i archwilio potensial Aber Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy.

Gydag un o'r ystodau llanw uchaf yn y byd, mae Aber Afon Hafren wedi cael ei ystyried ers amser fel ffynhonnell bosibl o ynni llanw. Bydd y comisiwn newydd hwn yn dwyn ynghyd ystod o arbenigwyr i benderfynu a oes opsiwn hyfyw bellach ar gyfer defnyddio Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy i'r DU.

Mae Dr Garrad yn dod â phrofiad sylweddol o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy arloesol ar raddfa fawr i'r comisiwn - gyda gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen er mwyn i'r rhain fod yn llwyddiannus.

Darllenwch fwy yma

Arweinwyr dinesig yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost mewn seremoni ddwys

Daeth arweinwyr crefyddol a gwleidyddol ynghyd yng Nghaerdydd y bore yma i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, y coffâd rhyngwladol i gofio'r miliynau a fu farw yn yr Holocost ac mewn hil-laddiadau dilynol ledled y byd. 

Y thema eleni yw 'Bregusrwydd Rhyddid'.  Daw 30 mlynedd ers hil-laddiad Rwanda lle lladdwyd miliwn o Dwtsïaid a Hutus modern. Roedd y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol ac Wcráin, a'r miloedd o fywydau a gollwyd, hefyd yn flaenllaw ym meddyliau'r rheini a oedd yn bresennol.

Mewn gwasanaeth dwys yn y Deml Heddwch, yn Cathays, ymunodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, â'r Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, i anrhydeddu'r meirw a goroeswyr pob hil-laddiad.

Meddai'r Cynghorydd Thomas, a ddarllenodd ddarn o Eseia yn y seremoni: "Eleni daethom at ein gilydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers y pandemig i goffáu'r diwrnod arbennig hwn. Mae'n bwysig ein bod yn nodi'r achlysur blynyddol hwn a'r garreg filltir ingol hon ac i fyfyrio ar y ffordd y gallwn ddysgu o'r digwyddiadau ofnadwy hyn."

Darllenwch fwy yma

Ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin yn 2024 ar agor nawr

Mae ceisiadau ar gyfer lleoedd meithrin nawr ar agor a gall rhieni â phlant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024 nawr wneud cais am le meithrin rhan amser i ddechrau ym mis Medi 2024.

Mae lleoedd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gael yn un o'r 91 o ddosbarthiadau meithrin mewn 88 o ysgolion ledled y ddinas, gan gynnwys tair ysgol sydd â chynnig dwy ffrwd. Anogir teuluoedd i wneud cais cyn y dyddiad cau sef dydd Llun 26 Chwefror 2024 am y siawns orau o gael cynnig lle meithrin o'u dewis.

I wneud cais am le mewn dosbarth meithrin ysgol gymunedol ewch i  Derbyniadau i ysgolion meithrin (caerdydd.gov.uk).Gall teuluoedd sy'n ffafrio lle dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd ffydd wneud cais uniongyrchol i'r ysgolion hyn.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae gan blant 3-4 oed hawl i gael lle meithrin rhan amser o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. 

"Yng Nghaerdydd mae gennym dros 5,000 o leoedd meithrin ar draws y ddinas sy'n darparu darpariaeth Gymraeg a Saesneg felly mae digon o opsiynau i ddewis ohonynt, ond anogir teuluoedd i gyflwyno eu ceisiadau ar amser i helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau i gael cynnig lle mewn dosbarth meithrin o'u dewis."

Darllenwch fwy yma